Cwyno am eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith

Sut i gwyno am eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith a lle i gael cymorth.

Beth y gall Ofgem ei wneud

Nid ydym yn ymwneud yn uniongyrchol â chwynion am gyflenwyr ynni neu weithredwyr rhwydwaith. Mae hyn yn cynnwys cyflenwyr a gweithredwyr y rhwydwaith gwresogi. Nid ydym yn ymchwilio i anghydfodau unigol ychwaith.

Ond rydym yn monitro cyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith yn agos i wneud yn siŵr eu bod yn:

  • bodloni'r rheolau a nodir yn ein trwyddedau, ein rheoliadau a'r gyfraith
  • darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid
  • ymateb yn gyflym i gwsmeriaid sy'n cysylltu â nhw

Os byddwn yn meddwl nad ydynt wedi bodloni rhai rheolau, byddwn yn dechrau ymchwiliad.

Darllenwch am ein dull gweithredu o ran cydymffurfio a gorfodi (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych broblem

Bydd pwy sydd angen i chi gysylltu ag ef yn dibynnu ar ba fath o broblem ynni sydd gennych. Gallai hyn fod eich cyflenwr ynni neu eich gweithredwr rhwydwaith.

Mae cyflenwr ynni yn gyfrifol am ddarparu ynni i gartrefi a busnesau. Mae gweithredwr rhwydwaith yn gyfrifol am y pibellau a'r gwifrau sy'n symud ynni.

Gallwch gwyno'n uniongyrchol wrthynt os:

  • oes rhywbeth wedi mynd o'i le

  • oes gennych broblem gyda nhw

  • oes gennych broblem neu'r gwasanaeth y maent wedi'i ddarparu

 phwy y dylid cysylltu

Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni os oes gennych broblem sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • biliau hwyr, anghywir neu ar goll
  • ôl-filio
  • codi symiau rhy uchel
  • mesurydd diffygiol
  • gwasanaeth cwsmeriaid gwael
  • gwrthod ad-dalu credyd o'ch cyfrif
  • newid eich cyflenwr ynni cartref

Os ydych ar rwydwaith gwresogi, cysylltwch â'ch cyflenwr rhwydwaith gwresogi am y broblem.

Cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith os byddwch yn cael toriad pŵer neu os oes problemau cysylltiad yn eich ardal. Gallwch gadarnhau a allwch gael taliad ar gyfer toriad pŵer.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyflenwr ynni neu eich gweithredwr rhwydwaith ar eu gwefan neu ar gefn eich bil ynni. Neu gallwch fynd i'r canlynol:

Sut i wneud cwyn

Dylai eich cyflenwr ynni a'ch gweithredwr rhwydwaith esbonio eu gweithdrefn gwyno ar eu gwefan, gan gynnwys y ffordd orau o gysylltu â nhw. Er enghraifft, dros y ffôn, drwy e-bost, neu drwy ddefnyddio eu gwefan.

Gofynnwch am gael siarad â'r tîm cwynion os oes ganddynt un, neu â'r adran gwasanaethau cwsmeriaid.

Dywedwch wrthynt yn union beth yr hoffech iddynt ei wneud i ddatrys y broblem. Gallwch hefyd ofyn iddynt anfon eu gweithdrefn gwyno atoch os na allwch ddod o hyd iddi ar eu gwefan.

Dylech ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i'w helpu i ddatrys eich cwyn. Er enghraifft:

  • beth yw'r broblem a phryd y digwyddodd
  • sut roeddech yn teimlo
  • tystiolaeth megis lluniau o ddarlleniadau'r mesurydd a chyfriflenni
  • unrhyw negeseuon e-bost neu lythyrau y mae'r cwmni ynni wedi'u hanfon atoch

Defnyddiwch dempled llythyr cwyno Cyngor ar Bopeth  (yn agor tudalen Saesneg) os bydd angen help arnoch i ysgrifennu eich cwyn.

Ar ôl i chi wneud cwyn i'ch cyflenwr ynni

rhaid i'ch cyflenwr ynni geisio datrys unrhyw broblemau rydych wedi rhoi gwybod amdanynt o fewn 8 wythnos a datrys y gŵyn. Gallai hyn gynnwys:

  • iawndal
  • ymddiheuriad
  • cytuno i ddatrys y broblem
  • ad-daliad
  • cynnig cynllun talu fforddiadwy i chi

Uwchgyfeirio eich cwyn i'r Ombwdsmon Ynni

Mae'r Ombwdsmon Ynni yn darparu gwasanaeth annibynnol, ar wahân i Ofgem, os ydych yn cael problemau gyda'r canlynol:

  • cyflenwr ynni
  • brocer ynni
  • gweithredwr rhwydwaith
  • cyflenwr rhwydwaith gwresogi

Gweler rhestr o'r gweithredwyr rhwydwaith y gall yr Ombwdsmon Ynni adolygu anghydfodau â nhw (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Ynni am y canlynol:

  • os nad yw problem rydych wedi rhoi gwybod amdano yn cael ei datrys o fewn 8 wythnos
  • os na allwch chi a'r cwmni ynni gytuno ar sut i ddatrys y broblem
  • os ydych yn cael llythyr ‘diddatrys’ sy'n nodi na ellir datrys eich problem neu nad yw'r cyflenwr yn credu y gall wneud mwy
  • os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad a wnaed

Pan fyddwch yn uwchgyfeirio eich cwyn i'r Ombwdsmon Ynni, bydd yn gwneud y canlynol:

  • gofyn i chi anfon gwybodaeth a thystiolaeth sy'n ymwneud â'ch cwyn
  • adolygu'r dystiolaeth rydych chi a'ch cyflenwr ynni wedi'i hanfon
  • rhoi gwybod i chi am ei benderfyniad o fewn 6 wythnos
  • rhoi rhestr o gamau gweithredu i'r cwmni ynni er mwyn datrys y broblem

Os ydych yn anfodlon ar benderfyniad yr Ombwdsmon Ynni, bydd yn rhoi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf.

Cysylltu â'r Ombwdsmon Ynni

Ewch i wefan yr Ombwdsmon Ynni i gyflwyno ffurflen ymholiad (yn agor tudalen Saesneg), ffoniwch 0330 440 1624 neu anfonwch e-bost at enquiry@energyombudsman.org.

Dysgwch fwy am broses yr Ombwdsmon Ynni (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help gyda'ch cwyn

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr

Gall gwasanaeth cwsmeriaid am ddim Cyngor ar Bopeth eich helpu os ydych yn cael problemau gyda'ch biliau neu eich cyflenwad ynni.

Gallwch ffonio Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133cwblhau ei ffurflen ar-lein neu siarad â chynghorydd ar ei wefan.

Efallai y bydd yn eich cyfeirio at yr Uned Help Ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg):

  • os oes angen cymorth arnoch â chŵyn gymhleth neu frys
  • os nad ydych yn gallu delio â'ch cyflenwr ynni ar eich pen eich hun o ganlyniad i amodau personol
  • os ydych yn cael eich ystyried yn agored i niwed
  • os ydych yn wynebu risg o gael eich datgysylltu oddi wrth gyflenwad ynni

Os ydych yn byw yn yr Alban

Mae Energyadvice.scot yn cynnig gwasanaeth am ddim i drigolion yr Alban sydd:

  • â chwestiynau am eu cyflenwr ynni
  • am ddeall proses gwyno eu cyflenwr ynni
  • yn cael problemau gyda'u biliau ynni

Gallwch ei ffonio ar 0808 196 8660anfon neges ato neu siarad â'r gwasanaeth ar ei wefan (yn agor tudalen Saesneg).