Mewngofnodi i gofrestr eich cynllun

Cofrestr Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig

Mae'r gofrestr hon yn cwmpasu'r rhaglenni amgylcheddol canlynol a weinyddir gennym ar ran y llywodraeth:

  • Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO)
  • eithriadau Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL) ar gyfer Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig o ansawdd da
  • Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO)
  • Tariff Cyflenwi Trydan (FIT)

Defnyddiwch y gofrestr i wneud cais i gymryd rhan mewn cynllun ac i reoli'r broses. Mae'n cynnwys adroddiadau cyhoeddus a gyhoeddir gennym ar berfformiad cynlluniau. Dysgwch fwy yn Gwybodaeth am y gofrestr Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig.

Gweld y gofrestr Ynni Adnewyddadwy a Gwres a Phŵer Cyfunedig

Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig: Porth ar gyfer gwneud cais a MyRHI

Defnyddiwch y porth ar gyfer gwneud cais i ddechrau'r broses o ymuno â'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Domestig (RHI Domestig).

Pan fyddwch wedi gwneud cais, mewngofnodwch i MyRHI er mwyn:

  • gweld a chadarnhau statws eich ceisiadau presennol a newydd
  • cadarnhau eich amserlen dalu
  • cyflwyno darlleniadau mesurydd
  • diweddaru manylion personol.

Agor MyRHI

 

Cofrestr y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig

Defnyddiwch gofrestr y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig (RHI Annomestig) i weld adroddiadau cyhoeddus ar berfformiad cynlluniau ac i reoli'r ffordd rydych yn cymryd rhan mewn cynllun, yn cynnwys:

  • gwneud cais am achrediad ar gyfer gosodiad sy'n gymwys ar gyfer y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy a chofrestru fel cynhyrchydd biomethan
  • cynnal manylion gosodiadau achrededig/cofrestredig
  • cyflwyno darlleniadau mesurydd, mesuriadau tanwydd a data cyfnodol eraill, yn cynnwys datganiadau blynyddol.

Agor cofrestr y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy Annomestig

Cofrestr y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO)

Mae cofrestr y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn galluogi cyflenwyr ynni sydd dan rwymedigaeth i'n hysbysu am fesurau effeithlonrwydd ynni a osodwyd ganddynt.

Agor cofrestr y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni