Cwyno am Ofgem

Sut i gwyno am rywbeth rydym wedi'i wneud neu os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, a sut y byddwn yn ymdrin â hynny.

Cwynion am gyflenwyr ynni

I gael help a chyngor ar sut i gwyno am eich bil ynni neu eich cyflenwr, cliciwch ar y botwm isod. 

Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn darparu gwasanaeth llinell gymorth ddiduedd yn rhad ac am ddim sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion ar 0808 223 1133.
 

Pryd i ddweud wrthym am eich cwyn

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn gwneud rhywbeth neu os ydych yn meddwl ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn geisio unioni pethau. Bydd eich adborth yn ein helpu i wella ein gwasanaeth ar gyfer eraill.

Gellir cwyno am y canlynol:

  • safon y gwasanaeth rydym wedi'i ddarparu
  • sut rydym wedi perfformio
  • sut rydym yn gweithredu
  • y ffordd rydym wedi dod i benderfyniad

Ein nod yw datrys cwynion yn gyflym a, lle bo modd, y tro cyntaf y bydd rhywun yn cysylltu â ni.

Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich cwyn yn cael ei hanfon i'r adran gywir.

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb cychwynnol, gallwch ofyn i un o uwch-reolwyr Ofgem ei adolygu.

Sut i wneud cwyn

Anfonwch e-bost atom yn feedback@ofgem.gov.uk i gwyno am Ofgem.

Fel arall, ysgrifennwch atom yn:

Ofgem Complaints
Commonwealth House
32 Albion Street
Glasgow
G1 1LH

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom drwy'r post, gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall, er enghraifft, perthynas, ffrind neu gynghorydd proffesiynol fel Cyngor ar Bopeth, gwyno ar eich rhan.

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrthym

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni i'n helpu i ddeall eich cwyn ac ymchwilio iddi.

Nodwch y canlynol:

  • beth sydd o'i le yn eich barn chi
  • pryd y digwyddodd
  • pwy y gwnaethoch ddelio ag ef
  • sut yr hoffech i ni ddatrys y mater
  • y manylion cyswllt yr hoffech i ni eu defnyddio i gyfathrebu â chi, er enghraifft, e-bost, ffôn neu drwy'r post

Beth y byddwn yn ei wneud

Byddwn yn ceisio datrys cwynion yn gyflym ac yn esbonio beth rydym wedi'i wneud a pham.

Dyma beth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cwyn i ni a'r amserlen sy'n gysylltiedig â hynny.

Llinell amser Beth sy'n digwydd
O fewn 2 ddiwrnod gwaith Byddwn yn cydnabod eich cwyn.
O fewn 20 diwrnod gwaith

Byddwn yn ymchwilio i'r gŵyn ac yn ysgrifennu atoch gyda'n hymateb.

Os nad yw'n bosibl delio â'ch cwyn o fewn y cyfnod hwn, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynt y mater o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith.

Yn anfodlon ar yr ymateb

Os na fyddwch yn cytuno â'n hymateb, anfonwch e-bost i feedback@ofgem.gov.uk ac esboniwch pam.

Byddwn yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith o'r dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod i ni.

Mynd â'r gŵyn ymhellach Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ar ôl hyn, gallwch gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i gael adolygiad annibynnol.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Mae'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) yn gorff annibynnol sy'n ymchwilio i gwynion am gyrff cyhoeddus. Gall ymchwilio i'r achos os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb a'r broses gwyno.

I wneud cwyn, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at eich AS yn gyntaf. Gofynnwch iddo/iddi gyfeirio'r gŵyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich AS, gweler Cysylltu â'ch AS.

Cwynion am y Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy

Ar gyfer cwynion am gynlluniau'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy, gallwch ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost isod:

Neu fel arall, ysgrifennwch i:

Ofgem Complaints
Commonwealth House
32 Albion Street
Glasgow
G1 1LH

Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol atom drwy'r post, gan na fyddwn yn gallu eu dychwelyd.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall , er enghraifft, perthynas, ffrind neu gynghorydd proffesiynol fel Cyngor ar Bopeth, gwyno ar eich rhan.

Cwynion am geisiadau diogelu data

Anfonwch e-bost at y Swyddog Diogelu Data yn dpo@ofgem.gov.uk:

  • os hoffech wneud cwyn am sut mae Ofgem yn prosesu eich data personol
  • os ydych yn credu bod eich hawliau diogelu data wedi cael eu torri

Fel arall, ysgrifennwch atom yn:

The Data Protection Officer
10 South Colonnade
Canary Wharf
Llundain
E14 4PU

Gweler Ceisiadau am wybodaeth am fanylion ynghylch ceisiadau diogelu data.