Edrychwch i weld a allwch gael taliad am doriad pŵer
Gwybodaeth am sut i roi gwybod am doriad pŵer, pryd y cewch iawndal a sut y caiff hwn ei dalu.
Cynnwys
- Beth sy'n achosi toriadau pŵer
- Pwy sy'n trwsio toriadau pŵer
- Rhoi gwybod am doriad pŵer heb ei gynllunio
- Pryd byddwch yn cael iawndal
- Os caiff eich trydan ei dorri
- Os caiff eich trydan ei dorri mewn tywydd garw
- Os caiff eich cyflenwad nwy ei dorri
- Sut cewch eich talu
- Cymorth ychwanegol i gwsmeriaid ar y gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth
Beth sy'n achosi toriadau pŵer
Gall toriadau pŵer ddigwydd os yw gwifrau, ceblau a chyfarpar arall:
- yn ddiffygiol
- wedi'u difrodi, er enghraifft yn ystod storm
- neu mae angen eu cynnal a'u cadw neu eu huwchraddio
Pwy sy'n trwsio toriadau pŵer
Mae gweithredwyr rhwydwaith lleol yn sicrhau bod y pibellau a'r gwifrau sy'n cludo trydan a nwy yn gweithio'n iawn. Eich gweithredwr rhwydwaith lleol sy'n gyfrifol am drwsio toriadau pŵer yn eich ardal.
Rhaid iddo ddilyn y rheolau a osodir gan y gyfraith. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban.
Os caiff eich pŵer ei dorri, rhaid i'ch gweithredwr rhwydwaith lleol drwsio'r broblem o fewn:
- 12 awr ar gyfer toriadau y tu allan i dywydd garw
- 24 awr mewn storm ddifrifol categori 1
- 48 awr mewn storm ddifrifol categori 2
Mae hyn hefyd yn dibynnu ar faint o gartrefi a busnesau yr effeithir arnynt.
Rydym yn monitro pa mor dda mae'n adfer y cyflenwad ynni a pha mor barod ydyw i ddelio â materion yn ymwneud â'r cyflenwad. Byddwn yn cymryd camau os byddwn o'r farn nad yw cwmnïau yn dilyn y rheolau a osodwn.
Rhoi gwybod am doriad pŵer heb ei gynllunio
Os caiff eich cyflenwad trydan neu nwy ei dorri oherwydd toriad pŵer na chafodd ei gynllunio, gallwch wneud y canlynol:
- rhoi gwybod amdano yn uniongyrchol i'ch gweithredwr rhwydwaith lleol gan ddefnyddio ei wefan
- ffonio 105 am ddim, a fydd yn eich trosglwyddo i'ch gweithredwr rhwydwaith trydan
Os caiff eich cyflenwad ei dorri oherwydd mesurydd ynni diffygiol, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni yn lle hynny.
Chwiliwch am eich gweithredwr rhwydwaith trydan lleol ar wefan y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni (yn agor tudalen Saesneg).
Chwiliwch am eich gweithredwr rhwydwaith nwy ar wefan y Gwasanaeth Gweinyddu Pwynt Mesurydd (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd byddwch yn cael iawndal
Cewch eich talu'n awtomatig gan eich gweithredwr rhwydwaith lleol os nad oes gennych bŵer am nifer penodol o oriau. Bydd faint o iawndal y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar y canlynol:
- y rhesymau dros y toriad pŵer
- pa mor hir y buoch heb bŵer
- a oedd wedi'i gynllunio
- p'un ai'r gweithredwr ynni oedd ar fai
Ni chewch eich talu am y canlynol:
- toriadau pŵer a achoswyd gan brinder pŵer cenedlaethol
- difrod i gyfarpar neu offer trydanol
- cyflenwad isel ar ôl toriad pŵer
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru'r swm a delir i chi am doriad pŵer bob blwyddyn yn seiliedig ar chwyddiant. Gweler yr addasiadau i'r Safonau Perfformiad Gwarantedig ar gyfer 2026 (yn agor tudalen Saesneg).
Os caiff eich trydan ei dorri
Mae'r swm y bydd eich gweithredwr rhwydwaith yn ei dalu i chi yn dibynnu ar y canlynol:
- faint o eiddo yr effeithiwyd arnynt gan y toriad pŵer
- p'un a yw amodau tywydd garw wedi achosi'r toriad pŵer
- a ydych yn berchen ar gartref neu fusnes
Beth gallech chi ei gael
Gallwch gael £100 am gartrefi neu £195 am fusnesau:
- os effeithiwyd ar lai na 5,000 o eiddo am fwy na 12 awr
- os effeithiwyd ar fwy na 5,000 o eiddo am fwy na 24 awr
Byddwch yn cael taliad ychwanegol o £45 am bob 12 awr heb drydan ar ôl hynny.
Er enghraifft, os bydd y toriad pŵer yn para mwy na:
- 12 awr ac wedi'i dorri am 36 awr, gallech gael dau daliad ychwanegol o £45, sef cyfanswm o £90
- 24 awr ac wedi'i dorri am 72 awr, gallech gael pedwar taliad ychwanegol o £45, sef cyfanswm o £180
£400 yw'r uchafswm y gallech ei gael os yw'r toriad pŵer yn effeithio ar 5,000 o eiddo neu fwy.
Os byddwch yn cael mwy na 4 toriad pŵer mewn blwyddyn
Gallwch gael swm arall o £100 os bydd eich pŵer wedi torri fwy na 4 gwaith rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Rhaid bod pob toriad pŵer wedi para am o leiaf 3 awr. Mae hyn yn berthnasol i gartrefi a busnesau.
Rhaid i chi hawlio gyda'ch gweithredwr rhwydwaith lleol a fydd yn penderfynu a ddylech gael y taliad hwn.
Os caiff eich trydan ei dorri mewn tywydd garw
Rydym yn defnyddio 2 gategori storm i benderfynu faint o iawndal a roddir am doriadau pŵer mewn tywydd garw.
Rydym yn seilio'r rhain ar sut mae'r storm wedi effeithio ar y rhwydwaith trydan a faint o ddiffygion y mae wedi'u hachosi mewn ardal foltedd uchel mewn diwrnod. Er enghraifft, os yw wedi difrodi peilonau a cheblau uwchben.
Mae'r categorïau yn wahanol i'r categorïau storm a gyhoeddir gan y Swyddfa Dywydd.
Storm categori 1
Dyma lle mae amodau tywydd garw anarferol, gan gynnwys mellt, yn achosi o leiaf 8 i 13 gwaith yn fwy o ddiffygion nag arfer.
Storm categori 2
Dyma lle mae amodau tywydd garw iawn yn achosi o leiaf 13 gwaith yn fwy o ddiffygion nag arfer.
Beth gallech chi ei gael yn ystod tywydd garw
Mae'r hyn a delir i chi yn dibynnu ar y categori storm a faint o amser y buoch chi heb drydan. Mae hyn yn berthnasol i gartrefi a busnesau.
Ar gyfer storm categori 1, gallwch gael £90 am y 24 awr cyntaf a swm arall o £45 am bob 6 awr ar ôl hynny.
Ar gyfer storm categori 2, gallwch gael £90 am y 48 awr cyntaf a swm arall o £45 am bob 6 awr ar ôl hynny.
£2,235 yw'r uchafswm y gallwch ei hawlio ar gyfer y ddau gategori.
Os caiff eich cyflenwad nwy ei dorri
Rhaid i'ch gweithredwr rhwydwaith nwy roi rhybudd o 7 diwrnod gwaith i chi os yw'n bwriadu gwneud gwaith cynnal a chadw. Os na fydd yn rhoi rhybudd i chi, gallwch gael swm arall o £40.
Cartrefi
Ar gyfer toriadau nwy wedi'u cynllunio, gallwch gael £50.
Ar gyfer toriadau nwy heb eu cynllunio, gallwch hawlio swm arall o £70 am bob 24 awr ychwanegol lle mae eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd. Mae'r swm yn cynyddu yn dibynnu pa mor hir mae eich cyflenwad nwy wedi'i ddiffodd.
Busnesau
Ar gyfer toriadau nwy a gynlluniwyd a rhai heb eu cynllunio, gallwch gael £120.
Sut cewch eich talu
Does dim angen i chi hawlio. Gallai hyn fod drwy siec, arian parod neu drosglwyddiad banc. Bydd eich gweithredwr rhwydwaith yn eich talu'n awtomatig os oes ganddo eich manylion banc.
Gall hefyd eich talu drwy eich cyflenwr ynni. Os bydd hynny'n digwydd, caiff yr arian ei ychwanegu at eich cyfrif ynni neu fesurydd rhagdalu os oes gennych un.
Os na fyddwch wedi cael eich talu
Dylai gweithredwr rhwydwaith sicrhau yn gyntaf bod y toriad pŵer wedi'i drwsio a bod gan ei holl gwsmeriaid drydan a nwy eto. Yna, dylai drefnu i dalu cwsmeriaid am y toriad.
Os nad ydych wedi cael taliad yn awtomatig ers sawl mis, cysylltwch â'ch gweithredwr rhwydwaith yn uniongyrchol. Os bydd y taliad wedi'i golli, efallai y bydd swm arall o £40 yn ddyledus ganddo.
Cymorth ychwanegol i gwsmeriaid ar y gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth
Ar gyfer toriadau pŵer a gynlluniwyd a rhai heb eu cynllunio, rhaid i weithredwyr rhwydwaith gynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid ar y gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth. Er enghraifft, gan roi pecynnau batri iddynt fel y gallant barhau i wefru ffonau neu gyfarpar meddygol. Bydd yr hyn mae pob cwmni yn ei gynnig yn wahanol.
Ni chewch daliadau ychwanegol am fod ar gofrestr gwasanaethau â blaenoriaeth.