Newid eich mesurydd trydan Radio Teleswitch

Dysgwch am yr hyn sydd angen i chi ei wneud fel rhan o'r cyfnod diffodd signal Radio Teleswitch yn raddol o 30 Mehefin 2025.

Mae'r dechnoleg sy'n cefnogi mesuryddion trydan Gwasanaeth Radio Teleswitch (RTS) bellach yn cael ei diffodd un ardal ar y tro.  Heb y dechnoleg sy'n rhoi gwybod i'r mesuryddion RTS pryd i newid rhwng cyfraddau brig ac allfrig, mae'n bosibl na fyddant yn gweithio'n iawn. Efallai y bydd yn golygu y bydd y system wresogi a dŵr poeth yn peidio â gweithio fel yr arfer mewn cartrefi a busnesau sydd â mesurydd RTS.

Os oes gennych fesurydd RTS, dylai eich cyflenwr trydan fod wedi cysylltu â chi i drefnu i'w uwchraddio i fesurydd deallus cyn diwedd mis Mehefin 2025.

Rhaid iddo sicrhau bod gennych fesurydd addas ac na fydd unrhyw darfu ar eich gwasanaeth.

Caiff y broses ddiffodd ei rhoi ar waith yn raddol. Bydd hyn yn golygu y gall   cyflenwyr trydan wneud yn siŵr eu bod yn gallu rheoli a datrys unrhyw broblemau a allai godi yn ystod y broses hon.

Cefnogaeth i uwchraddio mesuryddion trydan RTS

Rydym yn cydweithio â chyflenwyr trydan, gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu, grwpiau defnyddwyr ac eraill fel rhan o'r Tasglu RTS i gefnogi pobl sydd â mesurydd RTS. Darllenwch ragor o wybodaeth am y Tasglu RTS.

Beth sy'n rhaid i ddarparwyr ei wneud

Rhaid i ddarparwyr drin pob cartref a busnes yn deg. Mae hyn yn cynnwys gwybod pwy sydd angen cymorth a help ychwanegol.

Fel rhan o'r cyfnod diffodd a fydd yn digwydd yn raddol, dylai darparwyr wneud y canlynol hefyd:

  • rhoi gwybodaeth glir, hygyrch ac amserol i chi a ddylai gynnwys manylion am y cyfnod diffodd signal Radio Teleswitch yn raddol, yr effeithiau posibl a'r ffordd y maent yn bwriadu gosod mesurydd newydd yn lle'r mesurydd RTS
  • sicrhau safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid drwy wneud yn siŵr bod eu prosesau yn hygyrch, yn effeithlon ac yn ymatebol
  • cynnig gwasanaeth ymholi o 1 Awst 2025 ar gyfer cartrefi, gan gynnwys y rhai lle mae rhywun yn byw yno y mae angen cymorth ychwanegol arno i gysylltu â'i ddarparwr unrhyw adeg o'r diwrnod yn ystod yr wythnos a rhoi gwybod am unrhyw broblemau fel toriadau mewn cyflenwad
  • gosod mesurydd deallus â thariff addas, yn lle'r mesurydd Radio Teleswitch, sy'n adlewyrchu patrymau defnyddio'r cartrefi neu dariff deallus arall o'u dewis nhw

Dysgwch a oes gennych fesurydd RTS

Gallai fod gennych fesurydd RTS:

  • os oes gan eich cartref flwch switshis ar wahân wrth ymyl eich mesurydd sydd â label Radio Teleswitch arno
  • os caiff eich cartref ei gynhesu drwy ddefnyddio gwresogyddion trydan neu stôr
  • os nad oes cyflenwad nwy i'ch ardal, gan gynnwys tai mewn ardaloedd gwledig a blociau fflatiau uchel iawn
  • os ydych yn cael trydan rhatach ar adegau gwahanol o'r dydd, er enghraifft, mae'n bosibl eich bod ar dariff Economy 7, Economy 10, neu dariff Total Heat Total Control

Cysylltwch â'ch cyflenwr trydan os nad ydych yn siŵr o hyd pa fesurydd sydd yn eich cartref.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cyflenwr, dilynwch y camau ar ein tudalen canfod eich cyflenwr ynni.

Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni i uwchraddio eich mesurydd RTS

Os oes gennych fesurydd RTS yn eich cartref, darllenwch y manylion ar wefan eich cyflenwr ynni i uwchraddio eich mesurydd.

Os ydych yn rhedeg busnes sy'n defnyddio mesurydd RTS, gweler y manylion ar wefan eich cyflenwr ynni i uwchraddio eich mesurydd.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich cyflenwr, dilynwch y camau ar ein tudalen canfod eich cyflenwr ynni.

Uwchraddio i fesurydd deallus

Bydd mesurydd deallus yn rhoi gwasanaeth sy'n debyg i'ch mesurydd RTS. Mae manteision eraill hefyd, gan gynnwys:

  • darlleniadau trydan yn cael eu cyflwyno'n awtomatig
  • tariffau ar gyfer 'mesuryddion deallus yn unig'
  • y gallu i fonitro faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio
  • biliau cywir yn seiliedig ar y trydan rydych wedi'i ddefnyddio, nid amcangyfrifon

Darllenwch fwy am gael mesurydd deallus.

Os na allwch uwchraddio

Mewn rhai achosion, efallai na all eich cyflenwr gynnig mesurydd deallus i chi ar hyn o bryd.

Yn yr achos hwn, bydd yn rhaid iddynt sicrhau bod gennych fesurydd addas ac nad oes unrhyw darfu ar eich gwasanaeth.

Dylech gysylltu â'ch cyflenwr i ddeall yr holl opsiynau sydd ar gael i chi.

Os nad ydych eisiau mesurydd deallus

Uwchraddio i fesurydd deallus yw'r dewis gorau i gwsmeriaid RTS. Os byddwch yn dewis peidio ag uwchraddio:

  • gall eich gwres a'ch dŵr poeth gael eu gadael ymlaen neu i ffwrdd yn barhaus
  • gall eich gwresogyddion stôr trydan wefru ar yr adeg anghywir o'r diwrnod, gan arwain at filiau uwch o bosibl
  • efallai na fydd eich cyflenwr yn gallu cadarnhau eich defnydd o drydan yn ystod oriau brig ac allfrig, ac efallai y bydd eich costau trydan yn uwch nag o'r blaen
  • bydd eich dewis o dariffau yn fwy cyfyngedig

Siaradwch â'ch cyflenwr i gael rhagor o wybodaeth.

Ceisiwch gyngor gan Gyngor ar Bopeth

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth i gael cyngor diduedd am ddim ar eich cyflenwad ynni.

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael cyngor a gwybodaeth yn energyadvice.scot.