Os ydych yn byw mewn cartref sydd â chontract ynni busnes

Sut i dalu am eich trydan a'ch nwy os ydych yn byw mewn cartref sydd â chontract ynni busnes, eich hawliau, a beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith.

Os ydych yn talu landlord neu berchennog safle am eich ynni, rydych yn cael eich cyflenwi drwy ei gontract ynni busnes. Bydd hyn yn effeithio ar p'un a allwch newid eich cyflenwr ynni, a'r hyn y gallwch ei wneud os bydd pethau'n mynd o chwith.

Nid yw cwsmeriaid ynni busnes yn cael eu diogelu gan y cap ar brisiau ynni.

Efallai eich bod ar gontract ynni busnes os ydych yn byw:

  • mewn cartref mewn parc neu barc gwyliau fel preswylydd parhaol
  • ar gwch preswyl
  • ar safle teithwyr
  • mewn llety ar fferm
  • mewn carafán neu gartref symudol
  • mewn eiddo a ddarperir gan gyflogwr (llety clwm)
  • mewn eiddo sy'n gysylltiedig ag adeiladau busnes, er enghraifft uwchben siop neu dafarn  

Os ydych yn talu am eich ynni yn seiliedig ar ddarlleniadau mesurydd neu amcangyfrifon

Os ydych yn talu eich landlord neu berchennog y safle yn seiliedig ar ddarlleniadau mesurydd neu amcangyfrifon, mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • dalu am ynni ar y gyfradd fesul uned y cytunwyd arni yn eich cytundeb tenantiaeth, eich trwydded neu eich cytundeb meddiannaeth        
  • gweld y biliau a'r contract rhwng y landlord neu berchennog y safle a'r cyflenwr ynni
  • gwybod sut y caiff eich bil ei gyfrifo os nad oes mesurydd yn eich cartref
  • herio costau sy'n ymddangos yn anghywir, yn afresymol neu nad ydynt wedi'u hesbonio'n iawn

Efallai nad oes gennych yr hawl i'r canlynol:

  • dewis eich cyflenwr ynni eich hun
  • newid cyflenwyr eich hun
  • cael yr holl fesurau diogelu sydd ar gael i gwsmeriaid ynni domestig
  • cwyno'n uniongyrchol i'r cyflenwr ynni os nad oes gennych gontract ag ef

Gwirio a yw eich landlord neu berchennog y safle yn dilyn y rheolau

Ni all eich landlord na pherchennog y safle wneud elw o'r ynni y mae'n ei ailwerthu i chi - dim ond yr un pris ag a dalwyd ganddo y gall ei godi arnoch.  Ni all godi tâl arnoch am unrhyw ynni y mae'n ei ddefnyddio, er enghraifft, i redeg swyddfa'r safle.

Yn ogystal â chost yr ynni rydych yn ei ddefnyddio, gall eich landlord neu berchennog eich safle godi ffi weinyddol ar wahân am wasanaethau megis darllen mesuryddion a bilio. Os ydych yn byw mewn cartref mewn parc, mae'n rhaid i'r ffioedd hyn gael eu nodi yn eich cytundeb ysgrifenedig.

Os ydych yn talu am eich ynni drwy ffi sefydlog

Os ydych yn talu eich landlord neu berchennog y safle am eich ynni drwy rent neu daliadau gwasanaeth, nid oes gennych yr un hawliau.

Newid cyflenwr ynni os ydych yn ei dalu'n uniongyrchol

Efallai fod gennych eich contract eich hun gyda chyflenwr ynni, er enghraifft, os oes gan eich eiddo ei fesurydd nwy neu drydan ei hun.

Os oes gennych eich contract eich hun, efallai y byddwch yn gallu newid i gyflenwr ynni busnes newydd.

Cysylltwch â'ch cyflenwr os ydych o'r farn y dylech fod ar gontract domestig.

Os ydych yn symud i gartref a gyflenwir drwy gontract ynni busnes

Mae'n syniad da cadarnhau'r canlynol cyn i chi symud i gartref a gyflenwir drwy gontract busnes:

  • pwy sy'n dal y contract ynni
  • sut mae taliadau ynni yn cael eu cyfrifo
  • faint mae trigolion fel arfer yn ei dalu
  • p'un a yw'r taliadau'n cael eu mesur neu eu hamcangyfrif
  • p'un a allwch ddewis eich cyflenwr neu eich tariff
  • p'un a yw'n bosibl newid i gontract domestig

Gall deall y trefniadau hyn cyn i chi symud i mewn eich helpu i osgoi costau annisgwyl.

Help gyda chostau ynni

Mae'r help y gallwch ei gael yn dibynnu ar sut mae eich ynni'n cael ei gyflenwi, ac a oes gennych eich contract eich hun gyda'r cyflenwr ynni.

Cael help gyda biliau ynni eich cartref neu eich busnes.

Os ydych yn byw mewn cartref mewn parc ac yn talu perchennog y safle am eich ynni, gallech fod yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes Cartrefi mewn Parc.

Os oes gennych broblem gyda'ch cyflenwad ynni neu'r taliadau sy'n cael eu codi arnoch

Os ydych yn talu perchennog safle neu landlord am eich ynni ac mae gennych broblem neu gŵyn, dylech gysylltu ag ef yn gyntaf. 

Os oes gennych eich contract eich hun gyda chyflenwr ynni, gallwch ddilyn ei weithdrefn gwyno. Dylai'r manylion fod ar gael ar eich bil, neu ar ei wefan.  

Gallwch gael help a chymorth i ddatrys cwynion gan Cyngor ar Bopeth.