Search

Dechrau tudalen contract ynni busnes

Y mathau o gontractau ynni busnes, defnyddio brocer, a beth i'w wneud os na fyddwch yn fodlon ar eich cyflenwr ynni busnes.

Trosolwg

Mae angen  i fusnesau bach, gan gynnwys microfusnesau, mentrau bach a chanolig eu maint neu fusnesau mawr ddechrau contract ynni busnes ar gyfer yr ynni a ddefnyddir gan eu busnes. 

Gall contractau ynni busnes bara am hyd at bum mlynedd ac fel rheol, bydd gennych gontract ar gyfer pob math o ynni a ddefnyddiwch. Ni fydd y rhan fwyaf o gyflenwyr ynni yn gadael i chi newid cyflenwyr cyn diwedd y contract. 

Caiff y swm o ynni y mae eich busnes yn ei ddefnyddio ei gofnodi gan gyflenwyr bob hanner awr. Mae hyn yn rhan o broses a elwir yn ‘setliad’. Mae hyn yn golygu y gall cyflenwyr gyfrifo faint o ynni y mae eich busnes yn ei ddefnyddio yn lle rhoi amcangyfrif. Mae'r broses setliad ond yn gymwys i rai busnesau. Edrychwch i weld a yw dau ddigid cyntaf eich Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd neu Rif Cyflenwi ar eich bil trydan yn dechrau gyda 05, 06, 07 neu 08. Os ydyw, mae eich cyflenwr yn cymryd darlleniadau bob hanner awr o'ch mesurydd. 

Gallwch ddechrau contract busnes eich hun neu ddefnyddio trydydd parti fel brocer ynni. Bydd broceriaid ynni yn codi ffi am eu gwasanaeth, 

Contractau ynni busnes

Contract tybiedig

Byddwch yn cael eich rhoi ar gontract tybiedig pan fyddwch yn symud i safle busnes newydd ac yn defnyddio trydan neu nwy cyn cytuno ar gontract gyda chyflenwr. 

Bydd eich cyflenwr ynni yn eich symud i gontract tybiedig yn ddiofyn os bydd eich hen gontract ynni'n dirwyn i ben ac os na fydd yn dweud beth fydd yn digwydd ar ôl iddo ddod i ben.    

Allan o gontract

Dyma'r cyfraddau y byddwch yn eu talu os bydd eich contract yn dweud beth fydd yn digwydd pan ddaw eich contract i ben. Mae cyfradd allan o gontract yn wahanol i gontract tybiedig. 

Contract cyfradd sefydlog

Byddwch yn talu pris sefydlog am bob uned o ynni a ddefnyddiwch  , sy'n cael ei mesur fesul Cilowat yr  awr dros gyfnod eich contract. Os bydd prisiau ynni yn codi, byddwch yn dal i dalu'r un pris am bob uned o ynni a ddefnyddiwch. Ond os bydd prisiau ynni'n gostwng, bydd y pris a dalwch yn aros yr un peth. Gall rhai contractau gynnwys amod sy'n golygu y gall eich cyflenwr newid y gyfradd a dalwch yn ystod y contract. Edrychwch i weld a yw'ch contract yn cynnwys unrhyw amodau eraill. 

Contract Amrywiadwy

Byddwch yn talu symiau gwahanol am yr ynni a ddefnyddiwch yn seiliedig ar gost yr ynni. Mae hyn yn golygu y gall y swm a dalwch fynd i fyny neu i lawr yn ystod cyfnod eich contract. 

Contract treigl neu fytholwyrdd  

Os na fyddwch yn newid eich contract cyn iddo ddod i ben, bydd eich cyflenwr yn treiglo eich contract yn awtomatig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn aros ar yr un telerau ac amodau â'ch contract ynni busnes cyfredol. Ni all microfusnesau gael contract treigl o fwy na 12 mis. 

Os byddwch yn symud i gontract newydd, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflenwr cyn i'r contract presennol ddod i ben. 

Problemau gyda'ch cyflenwr    

Microfusnesau a busnesau bach

Os nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwr, dylech siarad â'ch cyflenwr a'ch brocer os oes gennych un er mwyn ceisio datrys y broblem. Os na allwch ddatrys y broblem, gallwch geisio ei datrys drwy'r Ombwdsmon Ynni.

Busnesau canolig a mawr

Os nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwr, gallwch fynd â'r mater i'r llysoedd sifil i'w ddatrys.

Edrychwch i weld sut mae eich cyflenwr yn ymdrin â chwynion

Mae Cyngor ar Bopeth yn cyhoeddi data ar ba mor dda y mae cyflenwyr ynni busnes yn ymdrin â chwynion. Darllenwch am berfformiad eich cyflenwr ynni ar y tabl cynghrair perfformiad cyflenwyr ynni annomestig.

Defnyddio brocer ynni   

Gall defnyddio brocer ynni eich helpu i ddod o hyd i gontract ynni ar gyfer eich busnes. Gall hefyd helpu i ddeall:

  • eich biliau ynni busnes
  • grantiau ynni y gallwch wneud cais amdanynt
  • sut i wneud eich busnes yn fwy ynni effeithlon

Bydd yn codi ffi arnoch am ei wasanaeth.

Weithiau bydd angen i chi dalu'r ffioedd hyn ymlaen llaw, ond gall rhai broceriaid hefyd godi ffi gwasanaeth sydd wedi'i chynnwys yn y bil ynni gan eich cyflenwr.

Rhaid i'ch cyflenwr ddarparu manylion am unrhyw ffioedd gwasanaeth sydd wedi'u cynnwys yn y bil os byddwch yn gofyn amdanynt.

Dod o hyd i frocer ynni

Gallwch ddod o hyd i frocer drwy chwilio am un neu gall rhai gysylltu â chi'n uniongyrchol. Cyn dewis brocer, dylech wneud y canlynol:

  • gwnewch yn siŵr bod y brocer yn ddibynadwy, gwiriwch pa brofiad sydd ganddo o'r diwydiant ynni a darllenwch adolygiadau gan gwsmeriaid
  • dweud wrth y brocer am ofynion ynni eich busnes, er enghraifft, os hoffech ddefnyddio ynni gwyrdd yn unig neu gyflenwyr rydych chi am eu defnyddio neu beidio â'u defnyddio
  • gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod beth mae ei ffioedd yn cynnwys a sut maent yn cael eu codi
  • gwiriwch gyda pha gyflenwyr maent yn gweithio er mwyn iddynt allu cynnig yr holl gynigion sydd ar gael i chi
  • darllenwch delerau ac amodau ei wasanaeth a rhowch sylw agos i ba weithgareddau rydych yn caniatáu'r brocer i'w cyflawni ar eich rhan
  • gwiriwch a fyddant yn anfon cynnig eich contract gyda thelerau ac amodau atoch cyn i chi gytuno ar gontract ynni busnes, os byddwch yn cytuno ar gontract dros y ffôn, bydd yn gyfreithiol rwymol ac ni allwch newid eich meddwl) 

Darllenwch sut i osgoi telerau annheg mewn contractau gwerthu ar GOV.UK.

Dylech fod yn wyliadwrus rhag unrhyw un a allai fod yn camwerthu contractau ynni.

Mae'n bosibl y gallech fod yn talu biliau ynni uwch pe baech yn cofrestru â nhw neu'n cael eich clymu i gontractau hirdymor.

Nid oes unrhyw gyfnod ailystyried ar ôl i chi gytuno ar y contract, hyd yn oed pan fydd y cytundeb hwn yn cael ei wneud dros y ffôn yn hytrach nag yn ysgrifenedig.

Os byddwch yn credu bod brocer yn camwerthu contractau, dylech roi gwybod i Safonau Masnach amdano.

Problemau gyda'ch brocer ynni  

Os nad ydych yn fodlon ar eich brocer ynni, dylech geisio datrys y broblem gyda nhw.
Os ydych yn Ficrofusnes neu'n Fusnes Bach, dylai eich brocer fod wedi'i gofrestru ar gynllun gwneud iawn amgen, a elwir hefyd yn Gynllun Datrys Anghydfodau Cymhwysol (QDSS). Mae QDSS yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfodau annibynnol ac yn gweithio gyda broceriaid a busnesau gan gynnig datrysiadau diduedd. Gwiriwch gyda'ch brocer pa gynllun mae wedi'i gofrestru ag ef cyn cyflwyno eich cwyn.

Dylai eich cyflenwi hefyd allu dweud wrthych pa gynllun mae eich brocer wedi'i gofrestru ag ef.  Ni allwn gymeradwyo'r cynlluniau hyn.