Cael cymorth ar effeithlonrwydd ynni ar gyfer eich cartref neu eich busnes
Dewch o hyd i gyngor, grantiau a chynlluniau er mwyn eich helpu i wneud eich cartref neu eich busnes yn fwy ynni effeithlon, ac arbed arian ar eich biliau ynni.
Gall wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref, eich busnes bach neu eich microfusnes leihau eich ôl troed carbon ac arbed arian ar eich biliau ynni.
Cael help gan eich cyflenwr ynni
Gofynnwch i'ch cyflenwr a all eich helpu i wneud gwelliannau ynni effeithlon i'ch cartref neu eich busnes. Ynghyd â chyngor cyffredinol, gall sicrhau bod y canlynol ar gael i chi:
- grantiau neu gyllid arall
- cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol
- tariffau gwyrdd
Efallai y bydd angen i chi fodloni meini prawf cymhwysedd penodol i fod yn gymwys, er enghraifft, eich lleoliad, eich cyllid, maint eich busnes neu eich sector.
Cael cymorth gan y llywodraeth
Gall eich cyngor lleol gynnig cymorth ar wneud eich cartref neu eich busnes yn fwy ynni effeithlon. Dod o hyd i wefan eich cyngor (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch gael cyngor ar effeithlonrwydd ynni cartref gan Lywodraeth y DU (yn agor tudalen Saesneg).
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig cymorth ariannol drwy'r canlynol:
- Cynllun Uwchraddio Boeleri (yn agor tudalen Saesneg)
- Warm Homes: Local Grant, os ydych yn byw yn Lloegr (yn agor tudalen Saesneg)
- Gostyngiad Cartrefi Clyd (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhwymedigaethau Cwmnïau Ynni (ECO) (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael gwybod pa gymorth sydd ar gael drwy Home Energy Scotland (yn agor tudalen Saesneg).
Gall busnesau bach neu ficrofusnesau gael cymorth i fod yn fwy ynni effeithlon gan y canlynol:
- Llywodraeth y DU (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys drwy'r Rhestr Technoleg Ynni (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cynnyrch ynni effeithlon
- Business Energy Scotland (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yn byw yn yr Alban
- Busnes Cymru (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yn byw yng Nghymru
Rhagor o adnoddau ar effeithlonrwydd ynni
Gallwch gael rhagor o gyngor, offer ac adnoddau ar effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi a busnesau gan y canlynol:
- Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (yn agor tudalen Saesneg)
- Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr ac Energyadvice.scot (yn agor tudalen Saesneg) yn yr Alban
- Energy UK (yn agor tudalen Saesneg)
- Smallbusiness.co.uk (yn agor tudalen Saesneg)
- Grants Online (yn agor tudalen Saesneg)