Newid eich cyflenwr ynni busnes

Pryd a sut i newid eich contract ynni busnes, gan gynnwys pan fyddwch yn symud i eiddo newydd.

Cyn penderfynu newid cyflenwr ynni eich busnes, darllenwch delerau ac amodau eich contract presennol i ddarganfod:

  • pryd y gallwch chi newid
  • faint o rybudd y dylech chi ei roi i'ch cyflenwr
  • os bydd angen i chi dalu ffi ymadael

Os ydych yn gweithio o gartref, bydd gennych fath gwahanol o gontract ynni. Darllenwch sut i newid eich cyflenwr ynni cartref.

Pryd i newid cyflenwr ynni

Mae pryd y gallwch newid yn dibynnu ar y math o gontract y gwnaethoch gytuno arno gyda'ch cyflenwr. Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o gontract sydd ar gael.

Darllenwch beth i'w wneud os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal.

Contractau cyfradd sefydlog

Ni fydd y rhan fwyaf o gyflenwyr yn gadael i chi newid cyn diwedd eich contract oni bai eich bod eisoes wedi cytuno ar gymal terfynu neu wedi talu ffi ymadael. 

Mae contractau cyfradd sefydlog yn cynnwys ‘ffenestr newid’, sef cyfnod penodol o amser i chi adnewyddu gyda'ch cyflenwr neu roi gwybod iddyn nhw eich bod yn bwriadu gadael. Mae'r ffenestr hon yn agor rai misoedd cyn diwedd eich contract. 

Gallwch weithiau newid yn ystod y ffenestr hon heb dalu ffi. Edrychwch drwy eich contract neu siaradwch â'ch cyflenwr neu frocer ynni i gael rhagor o wybodaeth.

Contractau cyfradd amrywiadwy

Os nad ydych wedi cytuno ar gontract cyfradd sefydlog neu os yw'ch contract wedi dod i ben, efallai eich bod ar un o'r canlynol:

  • contract treigl neu hunan-adnewyddu
  • cyfraddau y tu allan i gontract
  • contract cyfradd dybiedig

Gyda chontract cyfradd amrywiadwy, gallwch newid i gyflenwr newydd unrhyw bryd.

Sut i newid cyflenwr ynni busnes

Dylech gymharu prisiau ynni a chynigion contract i ddod o hyd i'r un sy'n iawn i chi. Mae'n bosibl mai'r opsiwn gorau yw eich cyflenwr presennol.

Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn uniongyrchol gan gyflenwyr, neu drwy ddefnyddio cwmni cyfryngol trydydd parti. Sefydliadau sy'n rhoi cyngor ar reoli eich anghenion ynni yw cwmnïau cyfryngol trydydd parti. Ymhlith yr anghenion mae:

  • gwefannau cymharu prisiau
  • broceriaid ynni

Dysgwch fwy am ddefnyddio cwmnïau cyfryngol trydydd parti i'ch helpu i gael contract ynni.

Bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth i'ch cyflenwr newydd cyn llofnodi'ch contract, gan gynnwys eich defnydd blynyddol a manylion eich mesurydd.

Efallai y bydd eich cyflenwr presennol yn gwrthwynebu eich newid, er enghraifft os oes arnoch arian iddynt. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â'r cyflenwr cyn gynted â phosibl i ddarganfod beth yw'r broblem a sut i'w datrys.

Symud i safle busnes newydd 

Efallai y byddwch am newid i gyflenwr newydd neu gontract ynni busnes newydd ar gyfer eich safle newydd. Dylech weld a allwch wneud hyn cyn i chi symud, a dilyn y broses newid arferol. 

Chi sy'n gyfrifol am unrhyw ynni y byddwch yn ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod cyn i'ch contract newydd ddechrau. Os byddwch yn defnyddio ynni yn y cyfnod hwn, gallai eich cyflenwr eich gosod ar gontract cyfradd dybiedig. 

Darllenwch sut mae'r broses newid tenantiaeth yn gweithio i fusnesau (yn agor tudalen Saesneg).