Ein harweinyddiaeth
Sut mae Ofgem yn cael ei redeg a phwy sy'n gwneud y penderfyniadau.
Ein bwrdd
Yr enw ar ein bwrdd yw'r Awdurdod Marchnadoedd Nwy a Thrydan (GEMA). Mae'n gyfrifol am y canlynol:
- gosod ein strategaeth
- goruchwylio'r ffordd rydym yn rheoleiddio'r diwydiant ynni
- penderfynu ar flaenoriaethau polisi
- ymdrin â materion rheoli a gorfodi
- rhoi cyngor i adrannau Ofgem
Darllenwch grynodeb o bwerau a dyletswyddau cyfreithiol y bwrdd.
Caiff aelodau'r bwrdd eu dewis gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net am gyfnod penodol o hyd at bum mlynedd. Mae'r aelodau'n cynnwys y cadeirydd a'r prif weithredwr, a gyflogir gan Ofgem, a chyfarwyddwyr anweithredol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Darllenwch y rheolau trefniadaeth sy'n disgrifio pa mor aml y mae'r bwrdd yn cwrdd a phwy y mae angen iddynt bod yn bresennol.
Gweler agendâu a chofnodion cyfarfodydd y bwrdd.
Aelodau'r bwrdd
- Mark McAllister, Cadeirydd
- Jonathan Brearley, Prif Weithredwr
- Alena Kozakova, cyfarwyddwr anweithredol
- Barry Panayi, cyfarwyddwr anweithredol
- Graham Mather, cyfarwyddwr anweithredol
- Nick Winser, cyfarwyddwr anweithredol
- Jonathan Kini, cyfarwyddwr anweithredol
- Tony Curzon Price, cyfarwyddwr anweithredol
- Warren Buckley, cyfarwyddwr anweithredol
Er mai ein bwrdd sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau lefel uchel, gall uwch-arweinwyr ac is-bwyllgorau'r bwrdd hefyd wneud penderfyniadau lle y bo'n briodol.
Mae aelodau'r bwrdd a'r pwyllgor yn datgan unrhyw fuddiannau a all wrthdaro â'u dyletswyddau yn y gofrestr buddiannau. Gweler y rhestr o aelodau'r bwrdd a'r pwyllgorau a'u buddiannau.
Darllenwch y bywgraffiadau o ein bwrdd a chyfarwyddwyr.
Ein pwyllgorau
Mae gan yr uwch-arweinwyr a'r pwyllgorau y pŵer i wneud penderfyniadau penodol ar ran y bwrdd.
Yr Uwch-bwyllgor Gweithredol
Mae ein Huwch-bwyllgor Gweithredol yn rheoli ein cyfeiriad a'n perfformiad fel sefydliad. Aelodau'r pwyllgor yw:
- Jonathan Brearley, Prif Weithredwr
- Akshay Kaul, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Seilwaith
- Melinda Johnson, Prif Swyddog Gweithredu
- Neil Kenward, Cyfarwyddwr Strategaeth, Economeg, Ymchwil a Sero Net
- Neil Lawrence, Cyfarwyddwr Cyflawni a Chynlluniau
- Priya Brahmbhatt-Patel, Cyfarwyddwr Cyfathrebu
- Sinead Murray, Cwnsler Cyffredinol
- Tim Jarvis, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Marchnadoedd
Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn monitro ac yn rhoi sicrwydd am archwiliadau, risg, rheolaeth ariannol a rheolaeth fewnol y sefydliad.
Y Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth
Mae'r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phobl, tâl a strategaeth y gweithlu.
Y Pwyllgor Setliadau Gorfodi
Mae'r Pwyllgor Setliadau yn gwneud penderfyniadau am achosion gorfodi sydd wedi'u setlo. Er enghraifft, pan fydd cwmni yn cytuno ei fod wedi torri'r rheolau yn ei drwydded ac y dylai dalu'r gosb a roddwyd.
Y Panel Penderfyniadau Gorfodi
Mae'r Panel Penderfyniadau Gorfodi yn gwneud penderfyniadau am achosion gorfodi sydd wedi'u herio. Er enghraifft, os na fydd cwmni yn cytuno ei fod wedi torri'r rheolau yn ei drwydded neu os bydd y gosb a osodwyd yn rhy uchel.
Y Pwyllgor Awdurdod ar gyfer RIIO-3 ac ED3
Mae'r pwyllgor yn rhoi arweiniad i raglenni fframwaith RIIO-3 (trawsyrru nwy, dosbarthu nwy a thrawsyrru trydan) ac ED3 (dosbarthu trydan). Mae'n cynghori GEMA cyn iddo wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r ddwy raglen.
Cylchoedd gorchwyl y pwyllgorau
- Audit and Risk Assurance Committee's terms of reference [PDF, 117.50KB]
- People and Remuneration Committee's terms of reference [PDF, 89.74KB]
- Enforcement Settlement Committee's terms of reference [PDF, 94.17KB]
- Enforcement Decision Panel's terms of reference [PDF, 103.97KB]
- RIIO-3 and ED3 Committee of Authority's terms of reference [PDF, 80.56KB]