Cyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni a thaliadau sefydlog

Cyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni a taliadau sefydlog dyddiol fesul rhanbarth.

Y cap o brisiau ynni ar gyfer 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2026

O 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2026, £1,723 y flwyddyn fydd y cap ar brisiau. Mae hyn wedi cynyddu 4% o gymharu â chyfnod y cap ar brisiau diwethaf.

Mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar y gyfradd fesul uned o ynni gyfartalog a'r tâl sefydlog cyfartalog ar gyfer y bobl sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Prisiau fesul uned a thaliadau sefydlog trydan a nwy ar gyfartaledd drwy Ddebyd Uniongyrchol

 

Cap ar brisiau ynni fesul uned a'r tâl sefydlog

1 Gorffennaf i 30 Medi

Cap ar brisiau ynni fesul uned a'r tâl sefydlog

1 Hydref i 31 Rhagfyr

Trydan

26.11 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 57.19 ceiniog

26.32 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 54.83 ceiniog

Nwy

7.33 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol o 29.04 ceiniog

7.97 ceiniog fesul kWh

Tâl sefydlog dyddiol 0 29.68 ceiniog 

Caiff y ffigurau eu talgrynnu i ddau le degol ac maent yn cynnwys TAW o 5% ar nwy.  

Nid oes TAW ar drydan rhwng 1 Hydref 2026 i 31 Mawrth 2027. Ni ellir cymharu costau'n uniongyrchol â chyfnodau blaenorol oherwydd y newid hwn.

Darganfyddwch beth yw'r cap ar brisiau a sut mae'n cael ei gyfrifo.

Tariffau trydan cyfradd sengl ac aml-gyfradd

Os byddwch chi'n talu'r un gyfradd fesul uned am eich trydan drwy gydol y diwrnod cyfan, tariff cyfradd sengl yw'r enw ar hyn.

Ar gyfer tariffau aml-gyfradd fel Economy 7, byddwch yn talu un gyfradd fesul uned yn ystod oriau brig a chyfradd fesul uned wahanol yn ystod oriau allfrig. Gyda'i gilydd, ni allant fod yn fwy na'r cap ar brisiau.

Pam mae taliadau sefydlog yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw

Bydd y tâl sefydlog yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Caiff ei gyfrifo yn seiliedig ar y canlynol:

  • faint o bobl sy'n byw yn eich rhanbarth
  • faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio yn eich rhanbarth ar gyfartaledd
  • faint o ynni y mae angen i'r cyflenwr ei brynu
  • cost adeiladu a gwella'r rhwydwaith ynni

Dewch o hyd i'r cyfraddau fesul uned a'r taliadau sefydlog ar gyfer eich rhanbarth

Bydd eich cyfradd fesul uned a'ch tâl sefydlog dyddiol yn wahanol yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw ac os ydych chi'n talu eich biliau drwy:

  • gredyd safonol (talu pan fyddwch yn cael eich bil)
  • Debyd Uniongyrchol (codi'r taliad yn awtomatig o'ch cyfrif ar ddyddiad penodol)
  • mesurydd rhagdalu (prynu credyd ar gyfer eich mesurydd i dalu am yr ynni rydych chi'n ei ddefnyddio)

Cael data o'r tablau ar y dudalen hon 

Gallwch lawrlwytho data o'r tabl mewn fformatau gwahanol drwy ddewis y ddewislen wrth ymyl pob tabl.

Gallwch chwilio am eich rhanbarth ym mhob tabl.

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned a delir drwy Ddebyd Uniongyrchol, 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2026  

Pobl sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol am yr ynni y maent yn ei ddefnyddio. Mae prisiau'n cynnwys TAW ar nwy yn unig ac wedi'u talgrynnu i ddau le degol.
 

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned a delir drwy gredyd safonol, 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2026

Pobl sy'n talu am yr ynni maent eisoes wedi'i ddefnyddio wedi iddynt gael eu bil. Mae prisiau'n cynnwys TAW ar nwy yn unig ac wedi'u talgrynnu i ddau le degol.

Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned a delir drwy fesurydd rhagdalu, 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2026 

Pobl sydd â mesurydd rhagdalu wedi'i osod yn eu cartref ac sy'n talu am ynni cyn iddynt ei ddefnyddio. Mae prisiau'n cynnwys TAW ar nwy yn unig ac wedi'u talgrynnu i ddau le degol.