Hygyrchedd y wefan

Caiff y wefan hon ei chynnal gan Ofgem ac rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • chwyddo hyd at 300% heb fod y testun yn mynd oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio'r bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS a NVDA)

Ewch i AbilityNet i gael cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Lefel hygyrchedd presennol

Mae Ofgem yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 AA safonol

Problemau â PDFs a dogfennau eraill

Fel rhan o'r gwaith o ddiweddaru ein gwefan ym mis Mehefin 2021, bydd yr holl gynnwys a gyhoeddir gennym bellach yn cydymffurfio â safonau WCAG 2.1 AA.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni adfer PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Iaith glir

Yn 2020, gwnaethom gwblhau archwiliad iaith glir drwy'r Comisiwn Iaith Glir, er mwyn cyrraedd ei safon Saesneg Clir. 

Gwnaethom hefyd gofrestru ar gyfer cynllun achredu gwefannau'r Comisiwn er mwyn dangos ein hymrwymiad i ddefnyddio iaith glir a syml. Darllenwch fwy am achrediad Safon Saesneg Clir a sut y caiff ei fesur.

Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon

Gwnaethom brofi'r wefan hon ddiwethaf ym mis Mehefin 2021. Ymysg y profion a gynhaliwyd roedd:

  • adolygiad ffurfiol o ddyluniadau tudalennau ac elfennau
  • profion archwiliadol â llaw
  • arolygiad o broblemau gwelededd
  • profion bysellfwrdd
  • profion darllenydd sgrin (yn cynnwys darllenwyr JAWS ac NVDA)
  • arolygiad o ychwanegiadau HTML, CSS ac ARIA yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 AA safonol.

Gwnaethom brofi'r canlynol:

  • swyddogaeth llwyfan ein prif wefan, ar gael yn Ofgem.gov.uk
  • 20 o dudalennau gwe ar draws sampl gynrychioliadol o dempledi a gwybodaeth hanfodol a gyhoeddir gennym.

Cynnwys y tu allan i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd

  • Cynnwys trydydd partïon.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni adfer cynnwys trydydd parti nad yw wedi'i ariannu, ei ddatblygu neu dan reolaeth y corff sector cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys adroddiadau neu ddogfennau a gyhoeddir gennym gan drwyddedeion.

  • Fideos byw a chyfryngau wedi'u recordio ymlaen llaw.

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu penawdau i gyfryngau wedi'u recordio ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 na ffrydiau fideo byw, am eu bod wedi'u heithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Datganiadau hygyrchedd erail

Dewiswch ddolen i weld hysbysiadau hygyrchedd ar gyfer y cofrestrau rydym yn eu rhedeg i gefnogi'r gwaith o weinyddu cynlluniau amgylcheddol y llywodraeth, a'n cofrestr gwybodaeth trwyddedau cwmnïau ynni:

Adrodd a gorfodi

Er mwyn adrodd am broblem hygyrchedd nad yw wedi'i rhestru ar y dudalen hon, neu os na fydd lefelau hygyrchedd ein gwefan yn ddigonol i chi, cysylltwch â ni.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd. Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth a Chyngor ar Gydraddoldeb

Help â hygyrchedd

Os bydd angen gwybodaeth o'r wefan hon arnoch ar ffurf wahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain, neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith. 

Gallwch hefyd ymweld â ni yn bersonol, gan fod gan ein swyddfeydd yn Llundain a Glasgow ddolenni sain. Os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu addasiadau er mwyn bodloni eich gofynion.

Dysgwch sut i gysylltu â ni.