Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ganfod grantiau, cynlluniau a chyngor ar ynni i fusnesau bach er mwyn lleihau eich allyriadau carbon a bod yn fwy darbodus â'ch defnydd o ynni masnachol. Gall hyn eich helpu i arbed arian a dod yn fwy ecogyfeillgar.

Cymorth yn ystod y Coronafeirws (COVID-19)

Ffoniwch eich cyflenwr os ydych yn poeni. Efallai y gall gynnig cynlluniau talu y gallwch eu fforddio'n haws.

Os na allwch gytuno ar gynllun neu os cewch wybod y gallai eich eiddo busnes gael ei ddatgysylltu, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.

Ewch i wefan GOV.UK i gael cyngor a gwybodaeth gyfredol am yr help ariannol sydd ar gael i fusnesau yn ystod y coronafeirws. Mae'n cynnwys benthyciadau, rhyddhad treth a grantiau arian parod.

Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ariannol ar gyfer busnesau.

Cael help os na allwch fforddio eich biliau
  1. Cyngor ar effeithlonrwydd ynni

    Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn cynnig cyngor annibynnol am ddim i fusnesau ar ddefnydd effeithlon o ynni a gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy. Defnyddiwch ei Chyfeiriadur Busnesau Gwyrdd i ganfod cyflenwyr achrededig. Mae gwefan YouGen y Sefydliad Ynni Cenedlaethol yn cynnig adnodd tebyg.

    Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn rhestru astudiaethau achos enghreifftiol, adnoddau ar effeithlonrwydd ynni ac mae'n cynnal digwyddiadau i helpu busnesau i wneud dewisiadau hyddysg, yn cynnwys cyngor ar gadwyni cyflenwi.

    Mae gwefan Smallbusiness.co.uk hefyd yn darparu amrywiaeth o newyddion ar-lein ar effeithlonrwydd ynni i berchenogion busnesau bach, yn cynnwys busnesau newydd.

    Gallwch edrych ar restr Technoleg Ynni GOV.UK os ydych yn cynllunio cyfarpar gwaith newydd. Mae'n cynnwys cynhyrchion ynni effeithlon a ardystiwyd yn annibynnol fel boeleri, goleuadau, cyfarpar aerdymheru ac oeri.

    Yna ymchwiliwch i gynlluniau cymorth cyllid busnes a gynigir gan gyflenwyr a'r llywodraeth a all dalu am welliannau. Gall rhai asiantaethau neu elusennau arbenigol gynnig cynlluniau cyllido a chymorth hefyd. Gofynnwch am wybodaeth yn eich rhwydweithiau busnes.

  2. Cynlluniau, benthyciadau a grantiau ynni i fusnesau gan y llywodraeth

    Mae llawer o gynlluniau'r llywodraeth yn cynnig benthyciadau, grantiau neu fesurau arbed ynni er mwyn helpu busnesau bach i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Fel arfer, mae'r rhain yn helpu gyda'r canlynol:

    • mesurau effeithlonrwydd ynni – fel adolygu prosesau cynhyrchu
    • costau ymlaen llaw buddsoddi mewn cyfarpar sy'n effeithlon o ran ynni
    • mentrau rheoli a lleihau gwastraff
    • mentrau datblygu cynaliadwy.

    Dechreuwch drwy chwilio ar y cyfleuster canfod cyllid a chymorth i fusnesau ar GOV.UK.

    Gofynnwch i'ch cyngor lleol a yw'n darparu cyllid effeithlonrwydd ynni neu grantiau tyfu busnes cynaliadwy. Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno achos busnes i wneud cais. Gall rhai mentrau fod yn gymwys i gael cyllid arloesedd i fusnesau hefyd.

    Cadarnhewch a allwch gael eich talu i gynhyrchu eich pŵer a'ch gwres adnewyddadwy eich hun drwy'r cynllun Gwarant Allforio Clyfar cenedlaethol. 

    Mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig dau gynllun effeithlonrwydd ynni newydd o 2022 i ddisodli'r cymhellion gwres adnewyddadwy domestig ac annomestig presennol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n hardal ar Gynlluniau Amgylcheddol a Chymdeithasol.

    • Grant Gwres Glân: cyllid cyfalaf ymlaen llaw ar gyfer cwsmeriaid preswyl neu fusnesau sy'n integreiddio technolegau gwres gwyrdd fel pympiau gwres a biomas mewn rhai amgylchiadau.
    • Cynllun Cymorth Nwy Gwyrdd: cymorth cyllid i chwistrellu biomethan er mwyn cynyddu'r nwy gwyrdd yn y grid cenedlaethol.

    Y bwriad yw i Ofgem weinyddu'r cynlluniau. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i'r Llywodraeth ddatblygu ei chynigion.

  3. Grantiau a gwasanaethau busnes gan gyflenwyr ynni

    Gall cwmnïau ynni gynnig cynlluniau neu grantiau effeithlonrwydd ynni i fusnesau bach.

    Bydd meini prawf cymhwystra ac argaeledd yn amrywio, yn dibynnu ar bethau fel:

    • maint eich busnes
    • eich lleoliad
    • eich sector busnes.

    Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod beth mae'n ei gynnig.

  4. Grantiau ynni busnes a gwasanaethau cymorth eraill

    Rhowch gynnig ar wasanaethau canfod grantiau am ddim, fel Grants Online.

    Mae gan Gadewch i ni Siarad wybodaeth am y cronfeydd busnes a gynigir gan rai elusennau a sut i wneud cais.  

    Gall WRAP gynnig grantiau a buddsoddiadau sy'n cefnogi costau lleihau gwastraff busnes.

    Os byddwch yn rhedeg eich busnes gartref, darllenwch ein cyngor ar gynlluniau, grantiau a budd-daliadau i'ch helpu ag ynni yn y cartref hefyd.

Rhagor o help

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar gontractau ynni busnes a'ch hawliau.

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth. 
  • Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwr a'ch bod mewn sefyllfa fregus.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinellau Cymorth Busnes am ddim y llywodraeth.

Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau.