Cyllid
Cyllid, cyllideb, gwario a chaffael, ac archwiliadau ariannol.
Cyllid
Mae ein gwaith rheoleiddio wedi'i ariannu gan y ffi drwydded flynyddol rydym yn ei chodi ar rai cwmnïau rhwydwaith ynni trwyddedig. Rydym hefyd yn cael arian o adrannau llywodraeth am brosiectau penodol.
Caiff costau gweinyddu ar gyfer rhai cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol eu harannu gan yr Adran dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net. Mae cynlluniau eraill yn ariannu'r costau gweinyddu eu hunain.
Cyllideb
Mae ein Blaenraglen Waith yn nodi'r hyn rydym yn cynllunio i weithio arno a faint y bydd yn ei gostio. Bob blwyddyn rydym yn cael cyllideb sydd wedi'i chymeradwyo gan Senedd y DU. Mae ein hadroddiadau blynyddol yn dangos sut rydym yn gwario ein cyllideb. Mae ein memorandwm prif amcangyfrif yn rhoi gwybodaeth bellach ar y cyllidebau ar gyfer Ofgem, gan gynnwys cymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Gwario a chaffael
Rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau fel:
- ymgynghoriaeth economaidd (astudiaethau o'r farchnad, archwilio, cyngor ar gyllid corfforaethol)
- ymgynghoriaeth beirianyddol (archwilio technegol, adroddiadau ar gostau peirianyddol)
- gwasanaethau cyfreithiol
- ymchwil farchnata
- gwasanaethau TG, caledwedd ac ymgynghoriaeth
Darllenwch sut mae caffael a chystadlu am gontractau yn gweithio.
Rydym yn cyhoeddi pob taliadau dros £500 and taliadau dros £25,000. Rydym hefyd yn cyhoeddi pob treuliau'r bwrdd a'r cyfarwyddwyr. Mae ein hadroddiadau data taliadau prydlon yn dangos pa mor gyflym rydym yn talu am nwyddau a gwasanaethau.
Archwilio
Caiff ein harchwiliadau mewnol eu gwneud gan gwmni annibynnol. Maent yn dweud wrthym am yr hyn sy'n gweithio'n dda a ble mae angen i ni wella. Maent yn anfon barn archwilio mewnol flynyddol at ein swyddog cyfrifyddu, y prif weithredwr Jonathan Brearley.
Caiff y cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol rydym yn eu rhedeg ar ran y llywodraeth eu harchwilio gan gwmnïau annibynnol ar wahân.
Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn archwilio ein hadroddiad blynyddol a'n cyfrifon.