Esbonio'r cap ar brisiau ynni a'r taliadau sefydlog

Beth yw'r cap ar brisiau ynni, y costau sydd wedi'u cynnwys fel y tâl sefydlog, a sut maent yn newid dros amser.

Dewch o hyd i gyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni a thaliadau sefydlog lle rydych yn byw.

Beth yw'r cap ar brisiau

Ar gyfer pob un o'r tariffau ynni y mae'n eu cynnig, eich cyflenwr fydd yn penderfynu ar gost:

  • pob uned o drydan a nwy, a elwir yn gyfradd fesul uned – cyfrifir hyn mewn oriau cilowat (kWh)
  • y tâl sefydlog, y byddwch yn ei dalu bob dydd, hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ynni ar y diwrnod hwnnw

Ni sy'n gosod y cap ar brisiau ynni. Dyma'r uchafswm y gall eich cyflenwr ei godi am uned o ynni a thâl sefydlog gyda'i gilydd.

Nid yw'n cyfyngu ar gyfanswm cost eich bil. Po fwyaf o ynni a ddefnyddiwch, yr uchaf y bydd eich bil.

Gall lefel y cap ar brisiau a lefel y tâl sefydlog y byddwch yn ei dalu amrywio yn dibynnu ar y canlynol:

  • ble rydych chi'n byw
  • sut rydych chi'n talu am eich ynni (Debyd Uniongyrchol, credyd safonol neu fesurydd rhagdalu)
  • y math o danwydd rydych chi'n ei ddefnyddio (nwy neu drydan)
  • y math o fesurydd sydd gennych

Darllenwch y diweddariad ar ein hadolygiad o daliadau sefydlog.

Pwy y mae'r cap ar brisiau yn ei ddiogelu

Mae'r cap ar brisiau'n diogelu'r bobl sydd ar dariffau lle gall y gyfradd fesul uned godi neu ostwng yn dibynnu ar y farchnad ynni. Tariffau amrywiadwy safonol yw'r enw ar y rhain.

Nid yw'r cap ar brisiau'n eich diogelu os:

Sut rydym yn cyfrifo'r cap ar brisiau

Rydym yn cyfrifo'r cap ar brisiau yn seiliedig ar gost y canlynol:

  • prynu ynni ar y farchnad agored (costau cyfanwerthu)
  • adeiladu a gwella'r pibellau a'r gwifrau sy'n cludo ynni (costau'r rhwydwaith)
  • cefnogi cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth, fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes (costau polisi)
  • gweithgarwch y cyflenwr o ddydd i ddydd, er enghraifft ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid, marchnata, mesuryddion a dyledion (costau gweithredu)
  • faint mae'r cyflenwr yn ei ennill cyn unrhyw log neu dreth (enillion cyn llog a threth, a elwir yn EBIT weithiau)
  • costau a risgiau amhenodol (hyblygrwydd)
  • gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid rhagdalu a Debyd Uniongyrchol yn talu'r un tâl sefydlog (lwfans lefelu)
  • TAW (5%)

Gall y costau hyn godi neu ostwng yn dibynnu ar newidiadau i brisiau ynni, polisi'r llywodraeth neu lefel y buddsoddiad yn y rhwydwaith ynni. Bydd unrhyw newidiadau yn effeithio ar lefel y cap ar brisiau.

Rydym yn defnyddio gwerthoedd defnydd domestig nodweddiadol (TDCV) i roi syniad i chi faint o ynni y gallech ei ddefnyddio mewn blwyddyn, a all eich helpu i ddeall eich bil.

Rydym yn gosod lefel y cap ar brisiau bob tri mis. Rydym hefyd yn cyhoeddi unrhyw newidiadau i'r costau yn y llythyr crynodeb diweddaraf ar ein tudalen am lefelau'r cap ar brisiau ynni (tariff diofyn).