Beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal
Esbonio sut y caiff cyflenwr ynni newydd ei ddewis a sut y bydd yn ymdrin â'ch credyd a'ch dyled, eich cwynion a phroblemau â'r mesurydd.
Cynnwys
Beth y byddwn yn ei wneud
Os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal oherwydd problemau ariannol, bydd trydan a nwy yn cael eu cyflenwi i'ch cartref neu fusnes o hyd. Ni fydd toriad yn eich cyflenwad ynni.
Os oes gennych fesurydd rhagdalu byddwch yn dal i allu ychwanegu credyd fel arfer.
Ni fydd angen i chi wneud dim. Byddwn yn dewis cyflenwr newydd ar eich cyfer. Gall hyn gymryd hyd at 14 diwrnod.
Byddwch yn cael eich trosglwyddo'n awtomatig i dariff gyda'r cyflenwr newydd. Ni fydd angen i chi newid i gyflenwr newydd na chanslo eich Debyd Uniongyrchol fel arfer.
Sut rydym yn dewis cyflenwr ynni newydd
Byddwn yn dewis eich cyflenwr newydd drwy broses geisiadau. Dyma lle y bydd cwmnïau ynni yn gwneud cais i gyflenwi ynni i gwsmeriaid newydd.
Byddwn hefyd yn ystyried y math o ynni a oedd yn cael ei gyflenwi'n wreiddiol ac i bwy yr oedd yn cael ei gyflenwi. Er enghraifft, a oedd yr hen gyflenwr yn darparu trydan neu nwy i gartrefi yn unig neu i fusnesau hefyd.
Gelwir y cwmni ynni a ddewisir yn gyflenwr dewis olaf (SoLR). Dim ond os gall gyflenwi ynni i'r cwsmeriaid newydd heb effeithio ar y cwsmeriaid presennol y caiff ei ddewis. Bydd angen iddo hefyd brofi y gall drefnu ffynonellau ynni ychwanegol a chyflenwi ynni i gwsmeriaid newydd.
Os bydd gweinyddwr yn cymryd drosodd
Os na allwn ddefnyddio'r broses cyflenwr dewis olaf, mae'n bosibl y byddwn yn gwneud cais am Orchymyn Gweinyddu Cyflenwad Ynni.
Mae hyn yn golygu bod gweinyddwr yn cael ei ddewis i redeg cwmni'r cyflenwr ynni sydd wedi mynd i'r wal. Gelwir hyn yn Gyfundrefn Gweinyddu Arbennig (SAR).
Bydd y gweinyddwr arbennig yn rhedeg y cwmni tan:
- ei fod yn cael ei achub, er enghraifft drwy ailstrwythuro
- ei fod yn cael ei werthu
- bod ei gwsmeriaid wedi'u symud i gyflenwyr eraill
Os bydd gweinyddwr yn cymryd drosodd:
- nid oes angen i chi wneud dim gan y bydd eich cyflenwr presennol yn cysylltu â chi ac yn esbonio'r hyn sy'n digwydd
- byddwch yn parhau i gael ynni gan eich cyflenwr presennol a chodir tâl amdano, felly nid oes angen i chi ganslo eich Debyd Uniongyrchol
- gallwch newid i gyflenwr arall os byddwch yn dymuno gwneud hynny heb unrhyw ffioedd gadael
- bydd eich balans credyd yn cael ei ddiogelu oni bai eich bod yn fusnes
Ar ôl i ni ddewis cyflenwr ynni newydd
Pan fyddwn wedi dewis cyflenwr newydd, bydd yn cysylltu â chi i wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i chi beth sydd wedi digwydd gan nodi nad yw eich hen gyflenwr yn masnachu mwyach
- esbonio sut y bydd yn ymdrin â'ch cyfrif a'ch taliadau drwy Ddebyd Uniongyrchol
- rhoi gwybod i chi am unrhyw falans credyd neu ddebyd a allai fod gennych
- rhoi gwybod i chi sut y bydd unrhyw arian sy'n ddyledus i chi yn cael ei ad-dalu
Contractau tybiedig
Oni bai eich bod yn cytuno ar gontract ynni gwahanol, byddwch yn cael eich rhoi ar gontract ynni am chwe mis, a elwir yn gontract tybiedig. Byddwn yn ceisio dod o hyd i gontract tybiedig sy'n debyg i'ch contract blaenorol. Ar ôl chwe mis, rhaid i'r contract tybiedig ddychwelyd i'w gyfradd arferol.
Bydd y cap ar brisiau ynni yn dal yn berthnasol i chi hyd yn oed os byddwch yn cael eich rhoi ar gontract tybiedig a bydd ynni yn cael ei gyflenwi i'ch cartref. Mae hyn yn golygu na all y cyflenwr godi mwy arnoch na'r uchafswm a ganiateir am gost uned ynni a'r tâl sefydlog gyda'i gilydd.
Gallwch ofyn i'ch cyflenwr newydd eich rhoi ar ei dariff rhataf neu newid i gyflenwr arall yn lle contract tybiedig. Ni all y cyflenwr godi ffi gadael arnoch.
Os oeddech eisoes wrthi'n newid cyflenwr, byddwch yn dal i symud i'r cyflenwr a ddewisoch.
Darllenwch sut i newid eich cyflenwr ynni cartref.
Darllenwch sut i newid eich cyflenwr ynni busnes.
Beth fydd yn digwydd i'ch balans credyd
Bydd unrhyw arian ychwanegol byddwch yn ei dalu am biliau ynni eich cartref yn cael ei gadw yn eich cyfrif fel credyd. Fel arfer, caiff yr arian hwn ei dalu'n ôl i chi pan fydd eich cyfrif ynni yn cau.
Os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal, bydd eich balans credyd yn parhau i gael ei ddiogelu gan y rheolau a osodwn. Bydd eich manylion yn cael eu rhannu â'ch cyflenwr newydd, a bydd y cyflenwr hwnnw yn cysylltu â chi ynglŷn ag ad-daliad.
Os ydych yn fusnes
Nid yw busnesau'n cael eu diogelu yn yr un modd. Mae hyn oherwydd mai gweinyddwr y cyflenwr sy'n gyfrifol am reoli eu balans credyd.
Byddwn yn ceisio dewis cyflenwr newydd a all dalu'r holl gredyd sy'n ddyledus o hyd gan yr hen gyflenwr, neu rywfaint ohono. Fodd bynnag, gallai busnesau golli eu balans credyd a pheidio â chael ad-daliad gan y gweinyddwr.
Beth sy'n digwydd i'ch dyled
Os bydd y cyflenwr newydd yn trosglwyddo dyledion cwsmeriaid o'ch hen gyflenwr, bydd angen i chi ei dalu am eich dyled yn lle hynny. Bydd y cyflenwr hwnnw fel arfer yn cysylltu â chi ynghylch trefnu cynllun talu.
Os nad yw'n gwneud y trefniant hwn, mae'n bosibl y bydd angen i chi barhau i'w dalu i'ch hen gyflenwr neu ei weinyddwr sy'n rhedeg y cwmni ar ei ran.
Gwybodaeth am ble y gallwch gael cymorth os bydd angen help arnoch gyda'ch biliau ynni.
Problemau gyda'ch mesurydd
Ar ôl i gyflenwr roi'r gorau i fasnachu, mae'n bosibl na fyddwch yn gallu cael gafael ar fanylion eich cyfrif ar-lein.
Dylech gymryd darlleniad mesurydd cyn gynted â phosibl. Cadwch gofnod ohono i wneud yn siŵr bod eich bil gan y cyflenwr newydd yn gywir.
Os yw'n anodd i chi gymryd darlleniad mesurydd eich hun, ceisiwch ofyn i rywun arall rydych yn ymddiried ynddo fel cymydog, aelod o'r teulu neu ffrind os yw hynny'n bosibl.
Darllenwch wybodaeth am sut i ddarllen eich mesurydd nwy neu drydan gan Gyngor ar Bopeth.
Os oes gennych fesurydd deallus
Mae'n bosibl na fydd eich mesurydd yn gweithio yn y modd deallus pan fyddwch yn symud i'r cyflenwr newydd. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i chi ddarllen eich mesurydd eich hun a chyflwyno'r darlleniadau i'ch cyflenwr newydd.
Mae'n bosibl y bydd eich mesurydd yn gweithio yn y modd deallus eto os byddwch yn newid tariff neu gyflenwr.
Os oes gennych fesurydd rhagdalu
Bydd y cyflenwr newydd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i gael cardiau allwedd a thocynnau newydd.
Cael help gan Gyngor ar Bopeth neu Energy Advice Scotland
Os ydych yn cael problem gyda'ch mesurydd ac angen cymorth, gallwch gysylltu â'r canlynol:
- Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, cwblhewch ei ffurflen ar-lein neu siaradwch â chynghorydd ar ei wefan
- Energy Advice Scotland ar 0808 196 8660, anfonwch neges neu siaradwch â'r gwasanaeth ar ei wefan (yn agor tudalen Saesneg)
Cwynion am eich hen gyflenwr ynni
Os ydych wedi gwneud cwyn am eich hen gyflenwr ac nad yw wedi'i datrys, gallwch drafod y broblem â'ch cyflenwr newydd pan fydd yn cysylltu â chi. Er enghraifft, mesurydd diffygiol neu broblem gyda'ch bil.
Bydd eich cyflenwr newydd yn adolygu'r gŵyn ac yn gwirio a yw'n dal yn berthnasol neu a ellir ei chau.
Os oes gennych achos agored â'r Ombwdsmon Ynni (yn agor tudalen Saesneg), bydd yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf.
Gwybodaeth am ble y gallwch gael cymorth gyda chwyn am eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.