Cael contract ynni busnes

Y mathau o gontractau ynni busnes y gallwch eu cael, a sut i sefydlu un.

Os ydych yn dechrau busnes newydd, yn symud safle neu'n newid cyflenwyr ynni, bydd angen i chi sefydlu contract ynni busnes. Mae'r cyfnodau, y prisiau a'r rheoliadau yn wahanol i gontractau ynni cartref safonol.

Dysgwch fwy am beth i'w wneud wrth symud safle neu newid contractau busnes

Mae'r math o gontract y gallwch ei gael fel arfer yn dibynnu ar faint eich busnes a faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio. Cyn i chi gytuno ar gontract, mae'n bwysig gwybod y canlynol:

  • pa fath o gontract ydyw
  • pa mor hir yw'r cyfnod
  • a oes unrhyw ffioedd wedi'u cynnwys, er enghraifft, y rhai y cytunir arnynt mewn cymalau arbennig yn eich contract
  • pa fesurau diogelu sydd gennych
  • a oes unrhyw ffioedd neu gomisiynau brocer wedi'u cynnwys yn y pris

Mae hefyd yn bwysig gwybod beth sy'n digwydd ar ddiwedd eich contract, er enghraifft os bydd yn adnewyddu'n awtomatig, neu os byddwch yn symud i gyfraddau allan o gontract neu ar gyfraddau tybiedig.

Os ydych yn rhedeg eich busnes o gartref

Os ydych yn gweithio gartref, mae'n debygol eich bod ar gontract ynni domestig. Gwiriwch gyda'ch cyflenwr ynni i gadarnhau.

Sut mae meintiau busnes yn effeithio ar gontractau ynni

Bydd y math o gontract y bydd ei angen arnoch os ydych yn rhedeg busnes yn dibynnu ar y canlynol:

  • y nifer o bobl rydych chi'n eu cyflogi
  • yr incwm y mae eich busnes yn ei wneud dros flwyddyn
  • faint o drydan neu nwy y mae eich busnes yn ei ddefnyddio bob blwyddyn

Mae busnesau o feintiau gwahanol yn cael mesurau diogelu gwahanol.

Microfusnesau

Er mwyn bod yn gymwys fel microfusnes, mae'n rhaid bod gennych lai na 10 cyflogai a throsiant blynyddol neu fantolen nad yw'n fwy na £2 filiwn.

Gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych yn defnyddio hyd at 100,000 kWh y flwyddyn (trydan) neu hyd at 293,000 kWh y flwyddyn (nwy).

Os ydych yn ficrofusnes, mae gennych fesurau diogelu ychwanegol wrth drefnu neu adnewyddu contract ynni. Rhaid i'ch cyflenwr ynni wneud y canlynol:

  • rhoi gwybodaeth glir am eich contract
  • cyfyngu ar gyfnodau rhybudd terfynu i 30 diwrnod (dim ond contractau bytholwyrdd)
  • cydnabod ceisiadau i ddod â chontract i ben o fewn 5 diwrnod gwaith (dim ond contractau bytholwyrdd)
  • rhoi gwybodaeth am brisiau adnewyddu cyn i'ch contract ddod i ben

Gall microfusnesau a busnesau bach gael cymorth gyda'u contractau ynni gan Cyngor ar Bopeth. Gallant hefyd gael cymorth gyda chwynion am gyflenwyr sydd heb eu datrys gan yr Ombwdsmon Ynni.

Busnesau bach

Er mwyn bod yn gymwys fel busnes bach, mae'n rhaid bod gennych rhwng 11 a 50 o gyflogeion a throsiant blynyddol o hyd at £6.5 miliwn neu fantolen nad yw'n fwy na £5 miliwn.

Gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych yn defnyddio hyd at 200,000 kWh y flwyddyn (trydan) neu hyd at 500,000 kWh y flwyddyn (nwy).

Busnesau mawr

Er mwyn bod yn gymwys fel busnes mawr, mae'n rhaid bod gennych 50 o gyflogeion neu fwy a throsiant blynyddol sydd dros £6.5 miliwn neu fantolen sydd dros £5 miliwn.

Gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych yn defnyddio mwy na 200,000 kWh y flwyddyn (trydan) neu fwy na 500,000 kWh y flwyddyn (nwy).

Gall rhai cyflenwyr ddefnyddio naill ai maint eich busnes neu eich defnydd blynyddol o ynni wrth benderfynu pa gontract neu fesurau diogelu sy'n gymwys.

Mathau o gontractau busnes

Mae nifer o wahanol fathau o gontractau ynni busnes. Mae'n bosibl na fydd cyflenwyr ynni yn cynnig pob un ohonynt.

Contractau cyfradd sefydlog

Mae contractau cyfradd sefydlog yn pennu pris cyfraddau fesul uned a thaliadau sefydlog am hyd y contract. Mae hyn yn golygu bod y gost fesul kWh yn aros yr un fath ni waeth beth sy'n digwydd i brisiau'r farchnad cyfanwerthu.

Contractau cyfradd amrywiadwy

Gyda chontract cyfradd amrywiadwy, gall y pris rydych yn ei dalu am ynni gynyddu neu leihau yn ystod cyfnod y contract. Gall hyn fod am fod eich prisiau yn newid pan fydd prisiau'r farchnad cyfanwerthu yn newid.

Contractau cyfradd tybiedig

Byddwch yn cael eich rhoi ar gontract tybiedig yn awtomatig pan fyddwch yn symud i safle newydd heb drefnu contract ffurfiol. Mae cyfraddau tybiedig fel arfer yn uwch na chyfraddau contract wedi'u negodi.

Byddwch hefyd yn cael eich rhoi ar gyfradd tybiedig os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal.

Cyfraddau allan o gontract

Mae rhai cyflenwyr yn eich symud i gyfraddau allan o gontract os bydd eich contract tymor penodol yn dod i ben ac nad ydych wedi cytuno ar gynnig newydd. Fel contractau cyfradd dybiedig, mae'r cyfraddau hyn fel arfer yn ddrutach na chontractau tymor penodol.

Contractau treigl neu fytholwyrdd

Mae rhai contractau yn adnewyddu yn awtomatig ar ddiwedd contract tymor penodol os nad ydych wedi gwneud trefniant newydd, neu wedi newid i gyflenwr newydd. Bydd y trefniant newydd am dymor penodol (12 mis fel arfer), a gall fod ar gyfradd uwch.

Contractau hyblyg

Mae contractau hyblyg (a elwir weithiau yn gontractau strwythuredig) yn addas ar gyfer busnesau mawr sy'n defnyddio llawer o ynni. Yn hytrach na chadw at bris sefydlog, maent yn galluogi cwmnïau i brynu ynni mewn cyfrannau llai o faint pan fydd amodau'r farchnad yn well.

Cael cymorth i drefnu eich contract

Gallwch drefnu eich contract busnes eich hun, neu gallwch ddefnyddio brocer ynni, ymgynghorydd neu wasanaeth cymharu prisiau (a elwir hefyd yn gyfryngwyr trydydd parti).

Defnyddio gwasanaeth cymharu prisiau

Mae gwasanaethau cymharu prisiau yn eich helpu i gymharu contractau nwy a thrydan busnes gan gyflenwyr gwahanol. Gwiriwch pa gyflenwyr sydd wedi'u cynnwys yn y gymhariaeth, ac a yw'r wefan yn cymharu'r farchnad gyfan neu dim ond detholiad o gyflenwyr. Dylech hefyd gadarnhau a yw'r wefan yn derbyn comisiwn gan gyflenwyr ynni neu ffynonellau eraill.

Defnyddio brocer ynni

Gall broceriaid ynni eich helpu i ddod o hyd i gontract addas ar gyfer eich busnes, a negodi â'r cyflenwr o'ch dewis. Gall hyn arbed amser ac adnoddau i chi.

Mae broceriaid yn codi tâl arnoch am eu gwasanaethau. Mae rhai yn codi tâl ymlaen llaw, ond mae'r rhan fwyaf yn cael comisiwn gan y cyflenwr ynni rydych yn ei ddewis. Os caiff eich brocer ei dalu gan gyflenwr ynni, mae'n rhaid iddo fod yn aelod o gynllun unioni wedi'i gymeradwyo.

Cyn defnyddio brocer, gwiriwch pa gynllun y mae'n rhan ohono:

Gan nad oes cyfnod ailystyried ar ôl i chi gytuno ar eich contract, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn defnyddio brocer dibynadwy.