Yr hyn rydym yn ei reoleiddio
We regulate the energy markets in Great Britain (England, Scotland and Wales).
Contents
- Energy supply
- Metering
- Consumer protection
- Security of supply
- Energy pricing rules
- Energy network price controls
- Electricity generation
- Electricity transmission
- Offshore electricity transmission
- Electricity interconnectors
- Electricity distribution
- Gas shipping
- Gas transmission
- Gas interconnectors
- Gas distribution
Mae rheoleiddio marchnadoedd ynni yn golygu ein bod yn rheoleiddio'r cwmnïau sy'n gwneud, yn cludo ac yn gwerthu ynni. Rydym hefyd yn gweithredu er mwyn diogelu'r amgylchedd a defnyddwyr mewn cartrefi ac eiddo annomestig.
Rydym yn rheoleiddio marchnadoedd ynni drwy wneud y canlynol:
- rhoi trwyddedau a gosod amodau trwydded
- rhoi arweiniad i gwmnïau ynni
- rheoli newidiadau i godau'r diwydiant
- sicrhau bod cwmnïau ynni yn dilyn y rheolau, a chymryd camau os na fyddant yn eu dilyn
I gael gwybodaeth am drwyddedu, cydymffurfio a chamau gorfodi, gweler Rheoleiddio ynni.
Cyflenwi ynni
Mae cyflenwyr ynni yn gwerthu nwy a thrydan yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Pan fydd defnyddwyr yn talu eu bil ynni, byddant yn talu cyflenwr ynni.
Rydym yn gosod rheolau ar gyfer cyflenwyr ynni domestig ac annomestig er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi biliau cywir ac amserol, a gwasanaeth cwsmeriaid da.
Rydym hefyd yn gwneud yn siwr eu bod yn gweithredu er budd gorau defnyddwyr, yn arbennig y rhai sydd angen help ychwanegol.
Darllenwch fwy am y canlynol:
Mesuryddion
Er mwyn helpu cwsmeriaid i wybod faint o ynni maent yn ei ddefnyddio, rydym yn gosod rheolau y mae'n rhaid i gyflenwyr eu dilyn i osod a chynnal mesuryddion trydan a nwy. Mae hyn yn cynnwys:
Mae'r rheolau hyn yn helpu i sicrhau bod biliau yn gywir a bod cwsmeriaid yn gallu monitro eu defnydd.
Rydym hefyd yn trwyddedu ac yn rheoleiddio'r Data Communications Company (DCC), sy'n rheoli'r seilwaith sy'n cysylltu mesuryddion deallus â chyflenwyr ynni.
Diogelu defnyddwyr
Er mwyn sicrhau y caiff pob defnyddiwr ei drin yn deg, rydym yn:
- gwrando ar ddefnyddwyr er mwyn deall eu sefyllfaoedd a'u profiadau byw
- sicrhau bod cyflenwyr ynni yn nodi'r defnyddwyr sydd angen cymorth ychwanegol
- gosod cymhellion er mwyn annog arloesi cynhwysol
Darllenwch fwy am ddiogelu defnyddwyr.
Sicrwydd cyflenwad
Mae sicrwydd cyflenwad yn golygu:
- bod digon o ynni ar gael i ateb y galw, hyd yn oed yn ystod oriau brig
- bod ein cyflenwad ynni yn dod o amrywiaeth o ffynonellau, gan ei wneud yn fwy cadarn a dibynadwy
- bod defnyddwyr yn gallu defnyddio ynni gyda chyn lleied o doriadau â phosibl
Mae'n rhaid i'r cwmnïau sy'n berchen ar ein rhwydweithiau trydan a nwy ac sy'n eu gweithredu reoli diogelwch cyflenwadau fel rhan o'u trwydded. Mae'n rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â rheoliadau a chodau diwydiant perthnasol, gan gynnwys y Safon Diogelwch ac Ansawdd Cyflenwad (SQSS), system rheoli prisiau rhwydwaith ynni a'r cap ar brisiau ynni.
Rheolau prisiau ynni
Rydym yn gosod y cap ar brisiau ynni er mwyn sicrhau bod y pris y mae defnyddwyr yn ei dalu am uned sengl o ynni a thâl sefydlog yn deg. Dim ond i eiddo preswyl sydd ar dariffau safonol amrywiol, a elwir yn 'dariffau diofyn', y mae hyn yn gymwys.
Mae cyflenwyr yn ychwanegu tâl sefydlog dyddiol i'r holl filiau nwy a thrydan er mwyn cwmpasu'r gost o redeg y system ynni.
Systemau rheoli prisiau rhwydwaith ynni
Rydym yn gosod systemau rheoli prisiau er mwyn sicrhau bod cwmnïau rhwydwaith ynni yn trin cwsmeriaid yn deg, yn buddsoddi mewn gwella eu gwasanaeth ac yn cefnogi'r newid i ynni carbon isel.
Y fframwaith RIIO
Gelwir systemau rheoli prisiau rhwydwaith ynni yn RIIO (Refeniw = Cymhellion + Arloesedd + Allbynnau), sy'n golygu'r canlynol:
- Refeniw yw faint o arian y gall cwmni rhwydwaith ynni ei ennill
- Mae cymhellion yn annog cwmnïau rhwydwaith ynni i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella eu gwasanaeth
- Mae arloesedd yn golygu bod cwmnïau rhwydwaith ynni yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu rhwydwaith diogel, dibynadwy a chynaliadwy wrth gynnig gwerth am arian
- Mae allbynnau yn cynnwys diogelwch, gwarchod yr amgylchedd, boddhad cwsmeriaid, rhwymedigaethau cymdeithasol, cysylltiadau rhwydwaith, dibynadwyedd ac argaeledd
Cynhyrchu trydan
Mae cynhyrchwyr trydan yn llosgi tanwyddau fel nwy neu'n defnyddio ffynonellau niwclear neu adnewyddadwy fel gwynt neu heulwen er mwyn gwneud y trydan rydym yn ei ddefnyddio.
Darllenwch fwy am gynhyrchu trydan.
Ein rôl yn y broses o gynhyrchu trydan
Rydym yn trwyddedu cynhyrchwyr trydan mawr. Rydym hefyd yn gosod rheolau ar y canlynol:
- storio trydan, ar gyfer cynhyrchwyr ynni sy'n storio trydan dros ben i'w ddefnyddio'n ddiweddarach
- marchnadoedd cyfanwerthu, sy'n galluogi cynhyrchwyr ynni i werthu trydan i gyflenwyr drwy broses gystadleuol sy'n sicrhau tegwch ac effeithlonrwydd
- cynhyrchu trydan ar raddfa fach ar gyfer cartrefi a busnesau sy'n cynhyrchu eu trydan eu hunain drwy ffynonellau adnewyddadwy fel paneli solar a thyrbinau gwynt
Trawsyrru trydan
Mae rhwydweithiau trawsyrru yn symud trydan foltedd uchel dros bellterau hir, o'r man y caiff ei gynhyrchu i'r man y caiff ei ddefnyddio drwy beilonau a llinellau pŵer.
Darllenwch fwy am drawsyrru trydan.
Ein rôl yn y broses o drawsyrru trydan
Rydym yn trwyddedu'r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO) i redeg y rhwydwaith trydan.Mae'n gyfrifol am y canlynol:
- sicrhau bod digon o gyflenwad i ateb y galw gan ddefnyddwyr
- cynllunio system ynni sy'n diwallu anghenion seilwaith trydan y dyfodol
- cynllunio a chydlynu'r broses o lunio rhwydweithiau trydan
Rydym yn trwyddedu gweithredwyr rhwydweithiau trawsyrru, sy'n gyfrifol am adnewyddu, uwchraddio neu adeiladu seilwaith hanfodol newydd.
I ddysgu mwy am y gweithredwr rhwydwaith trawsyrru yn eich ardal, gweler Energy networks explained – Energy Network Association.
Trawsyrru trydan ar y môr
Mae trawsyrru trydan ar y môr yn cysylltu ffermydd gwynt ar y môr â'r rhwydwaith trawsyrru ar y tir.
Rydym yn rhedeg proses dendro gystadleuol i fod yn berchen ar asedau trawsyrru ar y môr, gan gynnwys ceblau, is-orsafoedd a phwyntiau cysylltu. Yna, rydym yn trwyddedu gweithredwyr trawsyrru trydan ar y môr (OFTOs) i redeg eu hasedau.
Rydym hefyd yn helpu i gydlynu datblygiad y rhwydwaith ar y môr yn y dyfodol.
Rhyng-gysylltwyr trydan
Ceblau mawr o dan y môr ac ar y tir yw rhyng-gysylltwyr sy'n cysylltu ein grid cenedlaethol â'r rhai mewn gwledydd eraill.
Mae angen rhyng-gysylltwyr arnom i'n galluogi i fewnforio ac allforio tua 10% o'n trydan yn gyflym. Mae masnachu trydan fel hyn yn ein helpu i gynnal system ynni sy'n lân, yn gydnerth ac yn effeithlon.
Cymhellion ar gyfer bod yn berchen ar ryng-gysylltwyr trydan a'u gweithredu
Rydym yn gosod isafswm ac uchafswm ar gyfer faint o arian y gall cwmni ei ennill drwy ddefnyddio system ariannol a elwir yn cap a llawr.
Y mwyaf y gall cwmni ei ennill o bob rhyng-gysylltydd yw'r cap. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i gael budd o daliadau trawsyrru is pan fydd refeniw yn uchel.
Rydym hefyd yn gwarantu isafswm y bydd cwmnïau yn ei ennill. Hwn yw'r llawr. Mae hyn yn eu cymell i fuddsoddi.
Dosbarthu trydan
Dosbarthu trydan yw'r cam olaf yn y broses o symud trydan o'r man y caiff ei wneud i'r man y caiff ei ddefnyddio.
Mae gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu trydan (DNO) yn cysylltu cartrefi a busnesau gan ddefnyddio:
- llinellau pŵer foltedd isel a foltedd canolig
- is-orsafoedd a newidyddion sy'n lleihau foltedd
- cyfarpar i fonitro a rheoli llif pŵer
Ein rôl yn y broses o ddosbarthu trydan
Rydym yn rhoi trwyddedau dosbarthu ac yn monitro sut mae cwmnïau yn gweithio er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau'r drwydded.
Mae amodau'r drwydded wedi'u cynllunio er mwyn gwneud y rhwydwaith dosbarthu trydan yn effeithlon, yn ddiogel ac yn fuddiol i ddefnyddwyr.
Rydym yn cydweithio â NESO a'r Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu Trydan.
Mae Gweithredwyr Rhwydweithiau Dosbarthu Trydan yn:
- sicrhau bod y rhwydwaith yn ddibynadwy
- cyfyngu ar faint o drydan sy'n cael ei golli yn ystod y broses o ddosbarthu
- cydweithio â gweithredwyr rhwydweithiau eraill wrth ddosbarthu a thrawsyrru
- galluogi cysylltiadau ar gyfer cynhyrchwyr newydd fel ffermydd solar
- galluogi cysylltiadau ar gyfer defnydd newydd fel mannau gwefru cerbydau trydan
I ddod o hyd i'ch gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan, gweler Energy networks explained – Energy Network Association.
Morgludo nwy
Mae morgludwyr nwy yn prynu nwy gan gynhyrchwyr, yn trefnu i'w symud drwy'r System Drawsyrru Genedlaethol (NTS), ac yn ei werthu i gyflenwyr.
Darllenwch fwy am forgludiant nwy.
Ein rôl yn y broses o forgludo nwy
Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer morgludo nwy.
Mae amodau'r drwydded yn sicrhau bod morgludwyr nwy yn:
- cydbwyso mewnbynnau ac allbynnau nwy dyddiol ar y rhwydwaith
- trefnu i symud nwy yn ddiogel
- cydymffurfio â chodau a rheoliadau'r rhwydwaith
- gweithio gyda chyflenwyr er mwyn darparu cyflenwad nwy i gwsmeriaid yn ddi-dor
Trawsyrru nwy
Y System Drawsyrru Genedlaethol (NTS) yw'r rhwydwaith o bibellau a gorsafoedd pwysau a ddefnyddir er mwyn symud nwy yn ddiogel ar bwysedd uchel o'r ffynhonnell dros bellterau hir.
Rydym yn trwyddedu National Gas i redeg y system.Mae'n gyfrifol am y canlynol:
- cydbwyso'r rhwydwaith nwy yn weddilliol
- cynnal diogelwch a sefydlogrwydd y cyflenwad nwy
- cynnal ac uwchraddio'r system
Darllenwch fwy am sut rydym yn gweithio gyda National Gas.
Darllenwch fwy am drawsyrru nwy.
Rhyng-gysylltwyr nwy
Mae rhyng-gysylltwyr nwy yn bibellau mawr sy'n cludo nwy rhwng gwledydd, gan sicrhau bod ein rhwydwaith nwy yn gallu ateb y galw.
Rhyng-gysylltwyr nwy cyfredol
Ar hyn o bryd, ceir 3 rhyng-gysylltydd nwy sy'n cysylltu â'n System Drawsyrru Genedlaethol:
- Mae Interconnector UK (IUK) yn cysylltu Prydain Fawr â Gwlad Belg, gyda nwy yn llifo yn y ddau gyfeiriad
- Mae Llinell Balgzand i Bacton (BBL) yn cysylltu Prydain Fawr â'r Iseldiroedd, gyda nwy yn llifo i'r ddau gyfeiriad
- Mae rhyng-gysylltydd Moffat yn gweithio i un cyfeiriad, gan gludo nwy i Weriniaeth Iwerddon
Gweithredwyr System Gludo
Gelwir y cwmnïau masnachol sy'n gyfrifol am ryng-gysylltwyr nwy ym Mhrydain Fawr yn Weithredwyr System Gludo (TSO). Mae Gweithredwyr System Gludo yn rhedeg y biblinell ac yn rheoli ei chapasiti.
Sut rydym yn rheoleiddio rhyng-gysylltwyr nwy
Rydym yn rhoi trwyddedau i weithredwyr system gludo. Rydym hefyd yn eu monitro er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded.
Rydym yn gosod rheolau ar gyfer sut y gall morgludwyr a chludwyr nwy ddefnyddio rhyng-gysylltwyr i brynu a gwerthu nwy, a faint y maent yn ei dalu.
Dosbarthu nwy
Mae gweithredwr rhwydweithiau dosbarthu nwy (DNO) yn symud nwy yn ddiogel o'r System Drawsyrru Genedlaethol i gartrefi a busnesau.
Rydym yn trwyddedu gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu nwy, sy'n gyfrifol am y canlynol:
- gweithredu, cynnal ac uwchraddio eu rhwydweithiau
- diogelwch a sefydlogrwydd y cyflenwad nwy
- ymateb i argyfyngau a gollyngiadau nwy
- cysylltu eiddo newydd â'u rhwydwaith