Search

Tâl sefydlog ar gyfer trydan a nwy

Costau wedi'u cynnwys yn y tâl sefydlog a'r tâl sefydlog blynyddol cyfartalog ar gyfer trydan a nwy.

Tâl sefydlog yw un o'r costau sydd wedi'u cynnwys yn eich bil trydan a nwy. Mae hefyd wedi'i gynnwys yn y cap ar brisiau ynni.

Bydd eich cyflenwyr ynni yn codi cost tâl sefydlog arnoch bob diwrnod, hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ynni ar y diwrnod hwnnw. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflenwr, sut rydych yn talu am eich ynni, a ble rydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth.

Y costau sydd wedi'u cynnwys yn y tâl sefydlog

Cost wedi'i gosod gan eich cyflenwr yw'r tâl sefydlog. Mae'n cwmpasu'r costau i wneud y canlynol: 

  • symud trydan neu nwy drwy geblau a phibellau i gartrefi a busnesau
  • talu tuag at gostau busnes y cyflenwr, er enghraifft canolfannau galw
  • talu tuag at rai o gynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth

Tâl sefydlog blynyddol cyfartalog ar gyfer trydan, rhwng 1 Ebrill i 30 Mehefin 2026, yn ôl math o daliad, Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban) 

Math o daliad   Tâl sefydlog Ionawr i Fawrth 2026  Tâl sefydlog Ebrill i Fehefin 2026 
Debyd Uniongyrchol  £200  £209 
Mesurydd rhagdalu  £200  £209 
Credyd safonol  £230  £240 
Economy 7 (Ddebyd Uniongyrchol)  £199  £208 

Tâl sefydlog blynyddol cyfartalog ar gyfer nwy, rhwng 1 Ebrill i 30 Mehefin 2026, yn ôl math o daliad, Prydain Fawr (Cymru, Lloegr, a'r Alban)

Math o daliad   Tâl sefydlog Ionawr i Fawrth 2026  Tâl sefydlog Ebrill i Fehefin 2026 
Debyd Uniongyrchol  £128  £106 
Mesurydd rhagdalu  £128  £106 
Credyd safonol  £157  £134 

Mae'r ffigurau'n cynnwys TAW (5%).

Adolygiad tâl sefydlog

Rydym yn adolygu taliadau sefydlog sy'n cael eu gosod gan eich cyflenwyr ynni. Darllenwch y diweddariad ar ein hadolygiad taliadau sefydlog.