Egluro'r cap ar brisiau ynni
Y cap ar brisiau ynni yw'r swm uchaf y gall cyflenwyr ynni ei godi arnoch fesul uned o ynni a thâl sefydlog os ydych chi ar dariff amrywiol safonol.
Rhwng 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2025, bydd y cap ar brisiau ynni yn cael ei osod ar £1,755 y flwyddyn ar gyfer cartref nodweddiadol sy'n defnyddio nwy a thrydan ac yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae hyn yn gynnydd 2% o gymharu â'r cap a osodwyd rhwng 1 Gorffennaf i 30 Medi 2025 (£1,720).
Mae'r cap ar brisiau yn seiliedig ar ddefnydd ynni cartref nodweddiadol. Darllenwch sut y caiff defnydd ynni cartref nodweddiadol ei gyfrifo yn ein canllawiau ar Ddefnydd nwy a thrydan ar gyfartaledd.
Mae'r cap ar brisiau hefyd yn sicrhau bod y prisiau i bobl ar dariff amrywiadwy safonol (tariff diofyn) yn deg a'u bod yn adlewyrchu cost ynni.
Mae cap ar bris eich contract os ydych yn talu am eich trydan a nwy drwy un o'r ffyrdd canlynol:
- credyd safonol (gwneir y taliad pan fyddwch yn cael eich bil trydan a nwy)
- Debyd Uniongyrchol
- mesurydd rhagdalu
- Mesurydd Economi 7 (E7)
Prisiau uned a thaliadau sefydlog trydan a nwy, 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2025
Caiff y ffigurau eu talgrynnu i ddau le degol ac maent yn seiliedig ar y cyfartaledd ar gyfer pobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys 5% o TAW.
Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni eich rhanbarth
Bydd yr union gyfradd a godir arnoch am bob uned yn dibynnu ar lle rydych chi'n byw, sut rydych yn talu eich bil a'r math o fesurydd sydd gennych. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth.
Y costau sydd wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau ynni
Mae gwahanol gostau wedi'u cynnwys yn y cap ar brisiau. Bydd unrhyw newidiadau i'r costau hyn yn effeithio ar swm y cap ar brisiau ynni pan gaiff ei adolygu. Er enghraifft, os bydd swm yr hyn sy'n rhaid i gyflenwr ei dalu yn cynyddu, bydd lefel y cap ar brisiau yn cynyddu. Os bydd y gost yn gostwng, bydd lefel y cap ar brisiau yn gostwng.
Mae'r costau wedi cael eu talgrynnu ac mae'n bosibl nad ydynt yn gyfwerth â'r cyfanswm.
Darllenwch sut y mae'r costau wedi newid ar bob lefel y cap ar brisiau.
Darllenwch am y costau sy'n rhan o'r tâl sefydlog a'r costau sydd wedi'u cynnwys.
Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2025, talu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2025, talu drwy fesurydd rhagdalu
Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2025, talu drwy gredyd safonol
Newidiadau i'r costau rhwng 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2025, talu drwy tariff Economy 7 (Ddebyd Uniongyrchol)
Rydym yn monitro cyflenwyr i sicrhau nad yw cyfraddau tariff amrywiol safonol (tariff diofyn) yn mynd y tu hwnt i'r terfyn a osodir gan y cap ar brisiau ynni.
Dyddiadau lefel y cap ar brisiau ynni
Rydym yn adolygu ac yn diweddaru lefel y cap ar brisiau ynni bob tri mis. Bydd y lefelau ar gyfer y cyfnodau nesaf yn cael eu cyhoeddi erbyn: