Gwneud cwyn am eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith
Os ydych yn anfodlon ar wasanaeth cwmni ynni, dilynwch ein canllaw cam wrth gam ar sut i reoli cwyn a'r help y gallwch ei gael ar y ffordd.
-
Siaradwch â nhw
Mae'n rhaid i gyflenwyr ynni a gweithredwyr rhwydwaith gael proses gwyno. Rhaid iddynt hefyd ymateb i gwynion a dod i benderfyniad o fewn 8 wythnos.
Eglurwch beth yw'r broblem a beth rydych am iddynt ei wneud.
Gallwch gwyno drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.
Cadwch gofnod o'r cyswllt a gewch â'r cwmni.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cwmni ar fil ynni diweddar.
Os nad ydych yn siŵr am fanylion eich cyflenwad presennol, ewch i Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.
-
Cael cymorth
Mae gan Cyngor ar Bopeth lythyrau cwynion engheifftiol y gallwch eu defnyddio. Gall hefyd helpu gyda chwyn. Weithiau, bydd ei bwerau yn golygu y gall weithredu ar eich rhan.
Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os ydych yn agored i niwed neu os gallai eich ynni gael ei ddatgysylltu. Gall hefyd eich cyfeirio at sefydliadau eraill i helpu. Mae'r gwasanaeth hwn sy'n rhad ac am ddim yn cynnwys cymorth i fusnesau bach.
Gall adnoddau ar-lein ac apiau fel Resolver.co.uk hefyd eich helpu i olrhain a rheoli cwyn cam wrth gam.
Cysylltu
- Ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
-
Mynd â'r mater ymhellach
Gwnewch gŵyn i'r Ombwdsmon Ynni os bydd wyth wythnos wedi pasio a'ch bod dal yn anfodlon ag ymateb y cwmni.
Dylai cwmnïau ynni ysgrifennu atoch i ddweud wrthych sut i wneud hyn ar ôl wyth wythnos neu pan fyddwch yn cyrraedd pwynt lle na allwch wneud rhagor. Bydd hyn pan na fydd yr un ohonoch yn gallu dod i gytundeb.
Gallwch gyfeirio achos at yr Ombwdsmon o fewn 12 mis i gael llythyr o'r fath. Weithiau, gall ymchwilio cwyn hŷn os na fyddwch wedi cael llythyr o'r fath.
Gall yr Ombwdsmon wneud i gwmni gywiro problem, ymddiheuro ac esbonio'r hyn a ddigwyddodd. Gall hefyd wneud i gwmni dalu iawndal. Mae ei benderfyniadau yn gyfrwymol ar y cwmni ynni.
Gwnewch gŵyn i Ofgem os na allwch ddatrys problem â gweithredwr rhwydwaith neu wefan gymharu a achredwyd gan ein Cod Hyder.
Cysylltu
- Ffurflen gwyno'r Ombwdsmon Ynni neu ffoniwch 0330 440 1624.
- Cwynion am wefan cymharu gweithredwyr rhwydwaith a'r Cod Hyder: E-bostiwch Ofgem neu ffoniwch 020 7901 7295.