Telerau ac amodau cyflogaeth
Yr hyn i'w ddisgwyl cyn ac ar ôl i chi ymuno ag Ofgem.
Chwilio a gwneud cais am swydd
Caiff pob un o'n rolau gwag eu hysbysebu ar Swyddi'r Gwasanaeth Sifil. Rydym yn defnyddio methodoleg ac egwyddorion recriwtio Proffiliau Llwyddiant gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil i asesu ymgeiswyr.
Cyfnod prawf
Bydd angen i chi gwblhau cyfnod prawf o 6 mis yn foddhaol os byddwch yn newydd i'r Gwasanaeth Sifil. Nid yw hyn yn gymwys os byddwch yn trosglwyddo o adran arall y llywodraeth.
Lleoliadau ac oriau
Mae disgwyl i bawb weithio 5 diwrnod yr wythnos. Bydd hyn naill ai 36 awr yn Llundain neu 37 awr yn Glasgow neu yng Nghaerdydd. Nid oes tâl ar gyfer egwylion, gan gynnwys cinio, ac ni chânt eu cynnwys yn yr oriau hyn. Mae'n rhaid i uwch-weision sifil weithio 37 awr yr wythnos ni waeth beth fo'r lleoliad.
Rydym yn annog staff i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a dyna pam rydym yn cynnig swyddi gweithio hyblyg a swyddi rhan amser. Er enghraifft, gweithio llai o oriau neu ddiwrnodau bob wythnos.
Smygu
Mae polisi dim smygu yn y gweithle ar waith gennym.
Diogelu data
Caiff unrhyw wybodaeth a roddwch yn ystod y broses recriwtio ei thrin yn gyfrinachol a dim ond fel y nodir isod y caiff ei datgelu a bydd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau y caiff unrhyw ddata personol, yn cynnwys data personol sensitif, eu defnyddio â'ch cydsyniad a gan barchu eich preifatrwydd.
Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson naturiol adnabyddedig neu adnabyddadwy (‘testun data’).
Person naturiol adnabyddadwy yw un y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn arbennig wrth gyfeirio at ddyfais adnabod. Gall hyn gynnwys enw, rhif adnabod, data lleoliad, dyfais adnabod ar-lein neu ffactorau penodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw.
Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth y gwyddoch sy'n ffug, neu os byddwch yn dal gwybodaeth berthnasol yn ôl, gall hyn arwain at wrthod eich cais. Os ydych eisoes wedi cael eich penodi, gallwch gael eich diswyddo.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Fel cyflogwr rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb a recriwtio gweithlu amrywiol. Rydym am fod yn sefydliad y mae pobl yn falch o fod yn rhan ohono. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'n cymunedau amrywiol.
Ein nod yw sicrhau cyfle cyfartal yn ein harfer a'n prosesau cyflogaeth. Mae hyn waeth beth fo'r canlynol:
- anabledd
- rhyw
- ailbennu rhywedd
- oedran
- statws priodasol
- cyfeiriadedd rhywiol
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- lliw
- cenedligrwydd
- tarddiad ethnig neu genedlaethol
- crefydd neu gysylltiad crefyddol a chred
- patrymau gweithio
- cyfrifoldeb am ddibynyddion
Credwn y dylai pob cyflogai gael ei drin â gonestrwydd a pharch, gan fod yn agored hefyd. Ni fyddwn yn goddef triniaeth annheg na gwahaniaethu.
Rydym yn anelu at gael gweithlu sy'n adlewyrchu'r gymuned amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth hon mewn talent ac yn manteisio ar y dalent honno fel bod ein pobl yn cyflawni eu potensial ac yn creu'r amodau i lwyddo mewn busnes.
Darllen am gydraddoldeb ac amrywiaeth yn Ofgem.
Rheolau sy'n gymwys i uwch-aelodau o staff yn Ofgem
Rhaid i uwch-aelodau o staff fel cyfarwyddwyr, cynghorwyr arbennig neu ysgrifenyddion parhaol wneud cais os byddant yn bwriadu gadael ac ymuno â chorff anllywodraethol. Gall hyn hefyd gynnwys cyn-aelodau o staff a gyflogwyd gennym yn flaenorol.
Gall cyfyngiadau fod yn gymwys i'ch swydd newydd os caiff pryderon eu codi yn eich cais.
I gael arweiniad ar reolau penodiadau busnes ar gyfer rheolwyr a chyflogeion, cysylltwch â hrbp@ofgem.gov.uk.
Cael manylion am i bwy y mae'r rheolau yn gymwys, pryd i roi gwybod i ni a'r hyn sy'n digwydd ar ôl i ni dderbyn cais.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Dewch o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a'n cyfleoedd recriwtio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cysylltu â ni
Anfonwch e-bost i recruitment@ofgem.gov.uk os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses recriwtio.