Cyfleoedd caffael a chyfleoedd i ennill contractau

Sut rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau, a gwybodaeth am sut i gynnal busnes â ni.

Rydym yn dilyn y rheolau a'r polisïau a nodir yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024.

Newidiadau i drefniadau caffael cyhoeddus

Newidiodd Deddf Caffael 2023 y ffordd y gwariodd y sector cyhoeddus arian o 24 Chwefror 2025. Yn dibynnu ar sut y cafodd contractau eu llunio a phryd y dônt i ben, mae'n bosibl bod rhai cytundebau yn dilyn y rheoliadau caffael cyhoeddus o 2015 o hyd.

Caiff ein cytundeb fframwaith presennol ei ddiweddaru bob pedair blynedd. Gallai hyn fod bob wyth mlynedd o dan y ddeddf gaffael newydd.

Darllen ein polisi caffael.

Caffael cynaliadwy

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i'r amgylchedd a, lle y bo'n bosibl, yn gwneud yn siŵr bod y nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu prynu yn gynaliadwy o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2012.

Yr hyn rydym yn ei brynu

Rydym yn prynu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau megis:

  • ymgynghoriaeth economaidd (astudiaethau o'r farchnad, archwilio, cyngor ar gyllid corfforaethol)
  • ymgynghoriaeth beirianyddol (archwilio technegol ac adroddiadau ar gostau peirianyddol)
  • gwasanaethau cyfreithiol
  • ymchwil i'r farchnad
  • gwasanaethau TG, caledwedd ac ymgynghoriaeth

Darllen am ein cyllid a'n gwariant.

Sut rydym yn prynu

Rydym yn trin pob busnes yn gyfartal ac yn eu hasesu yn seiliedig ar eu gallu technegol, gan sicrhau gwerth am arian ar yr un pryd.

Mae busnesau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i werthu cynnyrch neu wasanaeth yn uniongyrchol i ni neu'r llywodraeth. Gallant gyflwyno ceisiadau am ein cyfleoedd i ennill contract neu le ar fframwaith pan gânt eu cyhoeddi. Os byddant yn llwyddiannus ac yn cyrraedd ein safonau gofynnol, dyfernir y contract neu le ar y fframwaith iddynt.

Pan fydd gennym ofyniad sy'n dod o fewn cwmpas y fframwaith, byddwn naill ai'n:

  • ceisio cynnal cystadleuaeth bellach am y gwaith
  • rhoi'r gwaith yn uniongyrchol i fusnes neu fusnesau ar lot berthnasol y fframwaith

Rydym yn defnyddio fframweithiau a luniwyd gan Gwasanaeth Masnachol y Goron a'n cytundeb Gwasanaethau a Chyngor Ynni ac Economaidd i brynu'r rhan fwyaf o'n nwyddau a'n gwasanaethau. Weithiau, efallai y byddwn yn ystyried cytundebau fframwaith sector cyhoeddus.

Gweld ein cytundeb fframwaith caffael

Gall busnesau hefyd gyflwyno ceisiadau am gontract cyhoeddus rydym wedi'u hysbysebu ar Contracts Finder a MyTenders

Rydym yn annog unig fasnachwyr a busnesau bach a chanolig i gyflwyno ceisiadau am gontractau cyhoeddus lle y bo'n bosibl.

Dewch o hyd i gontract neu ymuno ag un o fframweithiau'r llywodraeth

Gallwch gyflwyno cais am gontract â ni a'r llywodraeth neu gystadlu i ymuno â fframwaith gwasanaeth caffael os ydych wedi'u cofrestru ar blatfform tendro.

Gweld ein holl gyfleoedd i ennill contractau a hysbysiadau dyfarnu ar ein porth tendro.

Dod o hyd i gyfle i ennill contract neu gontract a ddyfarnwyd gwerth mwy na £12,000 ar GOV.UK.

Gwneud cais am gontractau gwerth uchel ar GOV.UK.

Telerau ac amodau

Rhaid i bob busnes fodloni telerau ac amodau ein contract.

Mae ein templed contract yn amlinellu:

  • ystyr termau a thalfyriadau
  • yr hyn a ddisgwyliwn gan fusnesau yn ystod y cyfnod a gontractiwyd
  • sut i anfon anfonebau a'r wybodaeth sydd ei hangen arnom
  • sut y byddwn yn prosesu ac yn diogelu eich data personol

Gweld ein templed contract.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein prosesau caffael neu gyflwyno cais, anfonwch neges e-bost i procurement@ofgem.gov.uk.