Defnydd nwy a thrydan ar gyfartaledd

Gwybodaeth am y defnydd o nwy a thrydan ar gyfartaledd a sut y caiff ei gyfrifo.

Mae'r cap ar brisiau ynni a'r Gwarant Pris Ynni'r llywodraeth yn gosod uchafswm pris y gall cyflenwyr ynni ei godi ar ddefnyddwyr am bob awr cilowat (kWh) o ynni y maent yn ei ddefnyddio. Mae'r rhain yn sicrhau bod y prisiau i gwsmeriaid ar dariffau ynni diofyn yn deg.

Mae'r Gwarant Pris Ynni yn fesur dros dro a gyflwynwyd gan y llywodraeth i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy cyfanwerthol. Darllenwch am y Gwarant Pris Ynni ar GOV.UK.

Rydym yn gosod lefel y cap ar brisiau ynni bob tri mis.

Caiff y cap ar bris a'r Gwarant Pris Ynni eu cyfrifo gan ddefnyddio Gwerthoedd Defnydd Domestig. Nodweddiadol, sy'n rhoi syniad i'r defnyddwyr o ddefnydd cyfartalog ynni gwahanol gartrefi. Mae'r gwerthoedd hyn hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cymharu prisiau ynni ac yn aml cânt eu defnyddio i amcangyfrif y dyfynbrisiau ar wefannau cyflenwyr a gwefannau cymharu prisiau.

Deall y defnydd cyfartalog o nwy a thrydan

Caiff biliau nwy a thrydan eu cyfrifo'n rhannol ar faint o ynni maent yn eu defnyddio, ynghyd â phethau fel costau rhwydwaith a chostau cyfanwerthu. Bydd eich defnydd yn dibynnu ar sawl ffactor, yn cynnwys:

  • maint eich cartref
  • effeithlonrwydd ynni eich cartref
  • sawl person sy'n byw yn eich cartref
  • effeithlonrwydd ynni eich teclynnau a pha mor aml rydych yn eu defnyddio
  • eich iechyd

Oriau cilowat

Caiff defnydd o ynni ei gyfrifo mewn oriau cilowat (kWh), a elwir weithiau yn ‘unedau’. Mae un kWh yn ddigon i bweru bwlb golau 100-wat am 10 awr.

Enghreifftiau eraill o amgylch eich cartref:

  • oergell a rhewgell: disgwylir defnyddio 1 kWh mewn 26 awr
  • popty trydan: disgwylir defnyddio 2 kWh am 30 munud o ddefnydd
  • sychwr dillad: disgwylir defnyddio 4.5 kWh mewn un cylch

Mae'r enghreifftiau hyn yn seiliedig ar declynnau cyffredin. Gall teclynnau unigol amrywio.
Mae Ofgem yn amcangyfrif bod y cartref cyffredin ym Mhrydain yn defnyddio 2,900 kWh o drydan a 12,000 kWh o nwy mewn blwyddyn.

Defnydd Domestig Nodweddiadol

Mae capiau ar brisiau ynni, fel y Cap ar Brisiau Ynni neu'r Warant Pris Ynni, yn cyfyngu ar gost ynni fesul kWh. Weithiau defnyddir y gwerthoedd nodweddiadol isod i egluro sut filiau y bydd cartrefi â defnydd isel, canolog ac uchel o ynni yn eu derbyn.

Gwerthoedd nodweddiadol

Caiff y cap ar brisiau ynni ei gyfrifo gan ddefnyddio'r gwerthoedd isod.

Defnydd o ynni

Enghraifft – math o gartref a nifer y preswylwyr

Defnydd nodweddiadol o nwy bob blwyddyn (kWh)

Defnydd nodweddiadol o drydan bob blwyddyn (kWh)

Isel

Fflat neu dŷ 1 ystafell wely; 1 i 2 person

8,000

1,800

Canolig

Tŷ 2-3 ystafell wely; 2 i 3 person

12,000

2,900

Uchel

4+ ystafell wely; 4 i 5 person

17,000

4,300

 

Enghreifftiau yw'r ffigurau hyn o'r defnydd cyfartalog o ynni. Gall eich bil wahaniaethu wrth i'ch defnydd gynyddu neu leihau.

Dysgwch fwy am y cap ar brisiau ynni.

Dysgwch fwy am y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth, gwasanaeth cymorth am ddim sy'n sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i bobl mewn sefyllfa fregus.

Canllaw ar leihau eich defnydd o ynni ac atal colli gwres.