Systemau gwresogi cymwys

Er mwyn gwneud cais am RHI Domestig, mae angen i'ch system gwresogi adnewyddadwy fod yn un o'r pedwar o fathau o dechnoleg sy'n gymwys ar gyfer y cynllun. Mae'n rhaid iddo hefyd fodloni gofynion technegol penodol a darparu gwres ar gyfer defnydd a ganiateir.

Pa dechnolegau adnewyddadwy sy'n gymwys?

Ceir pedwar math o dechnoleg adnewyddadwy cymwys. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  1. boeleri biomas yn unig, a ffyrnau peledi biomas
  2. pympiau gwres o'r aer
  3. pympiau gwres o'r ddaear
  4. plât gwastad a phaneli solar thermol tiwb gwacáu

Gwirio eich cynnyrch

Yn ogystal â bod yn un o'r pedwar math o dechnoleg cymwys, dylech wirio bod math a model eich cynnyrch yn ymddangos ar y Rhestr o Gynnyrch Cymwys (PEL).

Cynhyrchion sydd 'i'w penderfynu' ar y Rhestr o Gynnyrch Cymwys:

Os yw eich system wresogi o dan y pennawd 'i'w benderfynu' ar y Rhestr o Gynnyrch Cymwys, golyga hyn nad ydym eto wedi derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom gan wneuthurwyr y cynnyrch. Gweler ein tudalen cyhoeddiadau Rhestr o Gynnyrch Cymwys am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud.

Gwirio'r defnydd o'r gwres

Fe welwch o'r tabl isod bod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir defnyddio'r gwres a gynhyrchir ar ei gyfer.

Sylwch

Noder, mae'n rhaid i wresogi gofod gael ei gynhyrchu drwy gyfrwng hylif, fel rheiddiadur. Gwresogi dŵr poeth at ddibenion domestig yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am y math o system wresogi, darllenwch Adran 3, 'Gofynion ar gyfer systemau gwresogi' yn ein Canllaw Hanfodol i Ymgeiswyr.

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf