Cael help os na all eich busnes fforddio ei filiau ynni

Gall eich cyflenwr ynni helpu os byddwch yn cael anawsterau i reoli eich biliau ynni microfusnes. Gallwch gael cymorth ariannol arall hefyd. Bydd eich opsiynau yn dibynnu ar eich sefyllfa.

  1. Cytuno ar gynllun talu ynni busnes

     

    Cysylltwch â'ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch os byddwch yn poeni am dalu eich biliau ynni busnes.

    Efallai y gall cyflenwyr gydweithio â chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio'n haws. Mae hyn yn cynnwys adolygu cynllun rydych wedi cytuno arno o'r blaen.

    Gallwch ofyn am:

    • adolygiad o'ch taliadau ac ad-daliadau dyled
    • seibiannau talu neu ostyngiadau
    • mwy o amser i dalu
    • mynediad i gronfeydd caledi.

     

    Os na allwch gytuno ar ffordd i dalu, gofynnwch i Cyngor am Bopeth am help.

    • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
    • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth.
  2. Gwiriwch gynlluniau cyllid busnes a grantiau

    Gan gyflenwyr

    Mae llawer o gwmnïau ynni yn cynnig cynlluniau neu grantiau i'ch helpu i wella eich effeithlonrwydd ynni busnes, a all leihau costau. Er enghraifft, cymorthdaliadau ar y costau ymlaen llaw ar gyfer cyfarpar sy'n fwy effeithlon o ran ynni. Efallai eu bod hefyd yn cynnig cronfeydd caledi ar gyfer busnesau.

    Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod beth mae'n ei gynnig.

    Gan y llywodraeth

    Defnyddiwch y cyfleuster canfod cyllid a chymorth i fusnesau ar GOV.UK.

    Gofynnwch i'ch cyngor lleol am gyllid cymorth i fusnesau bach, yn cynnwys grantiau tyfu busnes cynaliadwy. Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno achos busnes i wneud cais

    Gan elusennau

    Defnyddiwch wasanaethau chwilio am grantiau am ddim, fel Grants Online.

    Mae gan Gadewch i ni Siarad wybodaeth am gronfeydd busnes a gynigir gan rai elusennau a sut i wneud cais.

  3. Cael cyngor ar ddyledion i fusnesau

    Gallwch gael cyngor ar reoli dyledion busnes a chyllidebu drwy'r Llinell Ddyledion i Fusnesau gan yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol.

    Dechreuwch drwy weithio allan pa ddyledion sydd angen i chi ddelio â nhw gyntaf.

  4. Argymhellion eraill

    Edrychwch i weld a allwch leihau costau drwy newid o'ch contract ynni busnes presennol.

    Holwch ynghylch cael mesurydd deallus. Mae mesuryddion deallus yn sicrhau nad ydych yn talu mwy na'r hyn sydd ei angen am nad ydynt yn defnyddio darlleniadau mesurydd amcangyfrifedig.

    Os bydd eich cyflenwr yn eich bilio chi am ynni a ddefnyddiwyd fwy na 12 mis yn ôl, darllenwch y rheolau ar gyfer ôl-filio ynni. Ni all wneud hyn fel arfer os ydych yn ficrofusnes.

Rhagor o help

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar gontractau ynni busnes a'ch hawliau.

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs.
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rhif y llinell gymorth. 
  • Gallai rhywun yn yr Uned Help Ychwanegol ddelio â'ch achos os byddwch yn cael anawsterau â chyflenwr a'ch bod mewn sefyllfa fregus.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinellau Cymorth Busnes am ddim y llywodraeth.

I gael cyngor ar effeithlonrwydd ynni, ewch i'n tudalen Canfod grantiau a chynlluniau effeithlonrwydd ynni i fusnesau