Beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal
Os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal, bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn sicrhau y bydd gennych gyflenwad ynni bob amser. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth i'w ddisgwyl os bydd yn digwydd i chi.
Os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal, bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn sicrhau y bydd gennych gyflenwad ynni bob amser. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth i'w ddisgwyl os bydd yn digwydd i chi.
Os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal, peidiwch â chynhyrfu. Byddwch yn cael eich symud i gyflenwr newydd ac ni fydd toriad yn eich cyflenwad yn y cyfamser.
Mae ein canllawiau isod yn rhoi mwy o wybodaeth am beth sy'n digwydd pan fydd cyflenwyr ynni yn mynd allan o fusnes. Os ydych yn gwsmer ynni busnes, darllenwch ein canllawiau yma: Beth fydd yn digwydd os bydd cyflenwr ynni eich busnes yn mynd i'r wal.
Os yw eich cyflenwr wedi mynd i'r wal
Cymerwch ddarlleniad mesurydd, arhoswch a pheidiwch â newid cyflenwr
Byddwch yn parhau i symud i'ch cyflenwr dewisol os byddwch eisoes wedi dechrau ar y broses o newid cyflenwr.
Arhoswch i Ofgem benodi cyflenwr newydd
Nid oes angen i chi wneud dim, ac ni therfir ar eich cyflenwad. Bydd rhwyd ddiogelwch Ofgem yn diogelu eich cyflenwad ac unrhyw falans credyd. Dim ond ychydig ddiwrnodau y dylai ei gymryd i gyflenwr newydd gael ei benodi.
Bydd eich cyflenwr newydd yn eich cychwyn ar gontract 'tybiedig' arbennig. Gall y rhain fod yn ddrutach, felly gallai eich biliau godi, ond bydd Ofgem yn ceisio sicrhau'r fargen orau posibl i chi. Bydd y contract tybiedig yn cael ei gwmpasu gan y cap ar brisiau ynni y bydd Ofgem yn ei osod, sy'n sicrhau eich bod yn cael pris teg. Ni fyddwch wedi eich clymu i'r contract tybiedig - gallwch newid tariff neu gyflenwr unrhyw bryd.
Pan fydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi
Gofynnwch i'ch cyflenwr newydd eich rhoi ar ei dariff rhataf neu chwiliwch am y fargen orau a newidiwch gyflenwr os byddwch am wneud hynny. Ni fydd angen i chi dalu ffioedd gadael. Bydd eich cyflenwr newydd yn esbonio sut y bydd yn rheoli balans eich cyfrif, gan gynnwys unrhyw ad-daliadau credyd.
Eich cyflenwr newydd
Byddwn yn penderfynu ar eich cyflenwr newydd cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi'r manylion ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Dim ond ychydig ddiwrnodau y dylai ei gymryd i benodi cyflenwr newydd.
Ein cyngor yn y cyfamser yw byddwch yn amyneddgar, peidiwch â cheisio newid cyflenwr , ac arhoswch nes bod y cyflenwr newydd yn cysylltu â chi. Bydd hyn yn sicrhau bod y broses mor ddidrafferth â phosibl. Bydd hefyd yn cynnwys dychwelyd unrhyw falans credyd a all fod gennych.
Ni therfir ar eich cyflenwad ynni, ac ni fydd toriad.
Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn ni a'r llywodraeth yn penodi gweinyddwr i redeg eich cyflenwr os bydd mewn anawsterau ariannol. Os bydd hyn yn digwydd , nid oes angen i chi wneud dim. Byddwch yn parhau i gael ynni gan eich cyflenwr, a bydd yn cysylltu â chi i roi gwybod beth sy'n digwydd.
Mesuryddion deallus
Os na all eich cyflenwr newydd weithredu eich mesurydd deallus yn y modd deallus, bydd yn parhau i weithio, ond fel mesurydd traddodiadol. Mae hyn yn golygu y gall fod angen i chi gymryd darlleniadau mesurydd â llaw a'u cyflwyno i'ch cyflenwr newydd.
Os byddwch yn dewis siopa o gwmpas, gall eich mesurydd weithio mewn modd deallus unwaith eto yn y dyfodol yn dibynnu ar eich tariff neu'r cyflenwr rydych yn symud iddo.
Mesuryddion rhagdalu
Dylech allu ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu fel y byddech yn ei wneud fel arfer wrth i ni benodi cyflenwr newydd i chi. Ar ôl i ni benodi cyflenwr newydd i chi, bydd yn gallu rhoi cyngor ar gardiau allwedd a thocynnau newydd. Yn y cyfamser, ni ddylech golli cyflenwad.
Gall Cyngor ar Bopeth neu Advice Direct Scotland os ydych yn yr Alban, gynnig cymorth os:
- ydych yn cael problemau yn ychwanegu credyd neu os nad yw eich cerdyn neu eich tocyn yn gweithio
- yw eich mesurydd rhagdalu wedi rhoi'r gorau i weithio ac nid oes gennych bŵer
- na allwch fforddio ychwanegu credyd i fesurydd rhagdalu ac angen credyd mewn argyfwng arnoch
Cyngor ar Bopeth:
- ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch y cyfleuster gwe-sgwrs
- ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rif y llinell gymorth
Advice Direct Scotland:
- ffoniwch 0808 800 9060, defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs neu cysylltwch dros e-bost
- gwybodaeth Iaith Arwyddion Prydain
Cynlluniau'r llywodraeth a chynlluniau cymdeithasol
Tariff Gwarant Allforio Clyfar
Os oes gennych dariff Gwarant Allforio Clyfar rydych chi'n gyfrifol am chwilio am dariff Gwarant Allforio Clyfar newydd ar gyfer trydan a allforir. Ni fyddwn yn penodi un i chi. Gweld y rhestr o drwyddedeion Gwarant Allforio Clyfar cyfredol.
Dylech ddelio â hyn ar frys, fel y byddwch yn gallu parhau i gael taliadau Gwarant Allforio Clyfar. Bydd trwyddedai Gwarant Allforio Clyfar newydd ond yn gallu gwneud taliadau ar gyfer trydan a allforir unwaith y bydd eich contract Gwarant Allforio Clyfar newydd ar waith.
Beth fydd yn digwydd i fy Nhariff Cyflenwi Trydan?
Os ydych yn derbyn taliadau Tariff Cyflenwi Trydan am eich gosodiad creu ynni adnewyddadwy gan Drwyddedai Tariff Cyflenwi Trydan sydd wedi colli'i drwydded cyflenwad trydan, neu wedi mynd yn fethdalwr, ni fydd y rhain yn trosglwyddo'n awtomatig.
Gall Ofgem ddarparu Cyfeiriad Parhad Taliadau Tariff Cyflenwi Trydan i bob trwyddedai Gorfodol a Gwirfoddol Tariff Cyflenwi Trydan. Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi, fel Generadur Tariff Cyflenwi Trydan, yn derbyn unrhyw daliadau a oedd yn ddyledus i chi cyn i'ch Trwyddedai Tariff Cyflenwi Trydan roi'r gorau i fasnachu.
Bydd angen i chi gysylltu â chyflenwr ynni newydd sy'n Drwyddedai Tariff Cyflenwi Trydan a gofyn iddo gymryd eich taliadau Tariff Cyflenwi Trydan drosodd trwy gytuno ar delerau Tariff Cyflenwi Trydan ag ef. Os na fyddwch yn trefnu trwyddedai Tariff Cyflenwi Trydan newydd, caiff eich taliadau eu hatal nes y byddwch yn gwneud hynny.
Cwynion a chysylltiadau
Cwynion wedi'u cyflwyno i'ch hen gyflenwr
Nid yw'n ofynnol i'ch cyflenwr newydd ystyried cwynion sy'n gysylltiedig â'ch hen gyflenwr.
Os yw'r gwyn yn gysylltiedig â phroblem barhaus, gallwch drafod hyn gyda'ch cyflenwr newydd pan fydd yn cysylltu â chi.
Os oedd eich cwyn yn agored â'r Ombwdsmon, bydd yn cysylltu â chi maes o law i drafod y camau nesaf.
Rhagor o help
Yng Nghymru a Lloegr, gall Cyngor ar Bopeth gynnig rhagor o gyngor os bydd ei angen arnoch.
- Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch gyfleuster Gwe-sgwrs Cyngor ar Bopeth
- Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rif y llinell gymorth
Yn yr Alban, gall Advice Direct Scotland helpu.
- Ewch i wefan energyadvice.scot
- Ffoniwch 0808 196 8660 neu defnyddiwch ei gyfleuster gwe-sgwrs
- E-bostiwch energyadvice.scot