Monitro dewisol

Ceir Pecyn Gwasanaeth Mesur a Monitro (MMSP) dewisol y gallwch gofrestru ar ei gyfer yn RHI Domestig.

Beth yw monitro dewisol?

Mae'r MMSP yn gweithio'n debyg i gontract gwasanaeth ac mae'n ffordd ddefnyddiol o wirio pa mor dda mae eich system wresogi yn perfformio. Mae pobl sy'n llwyddiannus wrth gofrestru pecyn yn cael tâl ychwanegol y flwyddyn tuag at ei gostau.

Mae'n gwbl wahanol i osod mesuryddion er mwyn derbyn taliadau tariff RHI Domestig, y mae'n rhaid i rai pobl sy'n ymuno ei wneud.

Ar gyfer pwy mae'r pecyn?

Dim ond ar gyfer y rheini sydd â phympiau gwresogi neu foeleri biomas sy'n llosgi peledi pren y mae'r pecyn (nid ffyrnau peledi biomas nac unrhyw foeleri biomas eraill).  Gallwch gofrestru ar ei gyfer p'un a oes angen i'ch system wresogi fod ar fesurydd ar gyfer taliadau neu beidio ac nid yw'n effeithio ar eich meini prawf ymuno na thaliadau.

I bobl sydd â diddordeb mewn dadansoddi eu data gwresogi a gweld sut mae eu system yn perfformio y mae orau. Gallwch fewngofnodi i wefan a gweld y data a gipiwyd. Bydd yn eich helpu i wirio a yw eich system yn gweithio mor dda ac y dylai.

Bydd eich gosodwr hefyd yn gallu gweld y data ac felly'n gallu helpu i nodi problemau, neu roi gwybod i chi os bydd eich system yn tanberfformio.

Faint o arian ychwanegol y byddwn yn ei dderbyn?

Os oes gennych bwmp gwresogi byddwch yn derbyn £230 ychwanegol y flwyddyn (£57.50 y chwarter) ac ar gyfer boeler biomas peled byddwch yn derbyn £200 ychwanegol y flwyddyn (£50 y chwarter) hyd nes bydd eich taliadau yn dod i ben. Os gwnaethoch gais am MMSP ar y cyd â'ch cais RHI Domestig, byddwch yn cael yr uchafswm o saith mlynedd o daliadau. Os gwnaethoch gais am MMSP ar ôl hynny, dim ond taliadau ar gyfer yr hyn sy'n weddill o'r saith mlynedd y byddwch yn eu cael.

Mae terfyn ar y gyllideb sy'n golygu mai dim ond nifer benodol o becynnau a all gael eu cofrestru bob blwyddyn. Mae'r ffigwr hwn tua 10,000 y flwyddyn, sydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Mae gen i ddiddordeb a hoffwn gael rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am beth y mae hyn yn ei gynnwys a sut i gofrestru, darllenwch ein Canllaw Hanfodol ar gyfer Monitro Dewisol yn yr adran Cyhoeddiadau a Diweddariadau isod.

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf