Rhwymedigaethau

I bob pwrpas y rhwymedigaethau parhaus yw eich cyfrifoldebau mewn cysylltiad â chi eich hun, eich eiddo a'ch system wresogi.

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r rhain er mwyn parhau i dderbyn eich taliadau ac osgoi unrhyw gamau gorfodi eraill. Bydd angen i chi wneud datganiad blynyddol drwy eich cyfrif MyRHI i ddweud eich bod yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau parhaus. Byddwn yn anfon nodyn atgoffa dros e-bost pan fydd angen i chi wneud hyn. Sicrhewch eich bod yn eu cwblhau mewn amser neu efallai y bydd yn rhaid i ni atal eich taliadau.

Gellir rhannu'r rhwymedigaethau parhaus yn chwe adran:

  1. Rhwymedigaethau parhaus: eich cyfrifoldebau. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn gymwys i bawb sydd wedi'i achredu ar y cynllun ac yn berthnasol i gymhwysedd parhaus eich system wresogi i dderbyn taliadau.
  2. Rhwymedigaethau parhaus: newidiadau i'ch system wresogi . Mae'r rhain yn rhwymedigaethau parhaus sy'n gymwys ar eich cyfer chi os oes rhywbeth rydych wedi darparu gwybodaeth amdano yn eich cais yn newid. Maent yn amlinellu'r holl newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni amdanynt.
  3. Rhwymedigaethau parhaus: boeleri neu ffyrnau biomas  Mae'r rhain yn rhwymedigaethau parhaus sydd ond yn gymwys os oes gennych foeler neu ffwrn biomas.
  4. Rhwymedigaethau parhaus: mesur  Mae'r adran hon yn amlinellu'r rhwymedigaethau parhaus penodol sy'n gymwys i chi os ydych wedi gosod mesuryddion.
  5. Rhwymedigaethau parhaus: darparu gwybodaeth  Mae'r adran hon yn amlinellu eich cyfrifoldeb i gadw unrhyw wybodaeth berthnasol sy'n gysylltiedig â'ch system wresogi ac i'w ddarparu ar gais.
  6. Rhwymedigaethau parhaus: diffyg cydymffurfiaeth a chosbau  Mae'r adran hon yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd os byddwn yn darganfod nad ydych yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau parhaus.

Drwy gydol eich aelodaeth ar y cynllun mae hefyd siawns y byddwn yn cwblhau gwiriad archwilio er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau parhaus hyn. Gweler ein gwe-dudalen ar Gwiriadau Archwilio  am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddiadau a'r wybodaeth ddiweddaraf