Rhaglen Datblygu Graddedigion Ofgem

Am y Rhaglen

Mae Rhaglen Datblygu Graddedigion Ofgem wedi'i chynllunio i roi'r cyfle i chi feithrin gwybodaeth eang am ein diwydiant a'n sefydliad. Byddwch yn cael gweithio mewn sawl un o'n prif isadrannau ac yn gallu dysgu gan y gweithwyr mwyaf profiadol ar y lefel uchaf yn y maes rheoleiddiol.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Mae'n rhaid i chi feddu ar radd 2:2 o leiaf (wedi'i chyflawni neu ganlyniad disgwyliedig) mewn disgyblaeth rifyddol, ddadansoddol neu sy'n gysylltiedig ag ynni neu fusnes. Mae hyn yn cynnwys economeg, peirianneg, busnes, polisi, cyllid, daearyddiaeth, cyfrifiadureg a phynciau eraill sy'n gysylltiedig ag ynni neu gynaliadwyedd (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt). Ni ddylai fod gennych fwy na dwy flynedd o brofiad gwaith ôl-raddedig.

Y rhaglen

Cewch gefnogaeth reolwyr llinell amrywiol, y tîm dysgu a datblygu a mentor a fu'n rhan o'r rhaglen i raddedigion yn y gorffennol. Byddwch yn gallu manteisio ar raglen hyfforddi amrywiol, sy'n cynnwys modiwlau ar sgiliau cyflwyno a rheoli prosiect, a chyflwyniad i'n rhaglen datblygu rheolwyr.

Bydd y rhaglen yn para am 18 mis a chaiff ei chynnig ar gontract tymor sefydlog. Byddwch yn cwblhau tri chylchdro o chwe mis o fewn gwahanol rannau o Ofgem. Mae'n bosibl y cewch gyfle i weithio ym Mrwsel gyda Chyngor y Rheoleiddwyr Ynni Ewropeaidd (CEER) fel rhan o'ch cylchdro.

Ar ddiwedd y rhaglen, mae'n bosibl y cewch gynnig swydd barhaol, yn dibynnu ar eich perfformiad a ph'un a oes rôl addas ar gael yn y sefydliad.

Pecyn

Rydym yn cynnig pecyn deniadol yn cynnwys cyflog cychwynnol cystadleuol o £28,000 (sy'n cynyddu fesul cam drwy'r rhaglen), ynghyd ag amrywiaeth o fuddiannau eraill.

Sut i wneud cais

Edrychwch eto ar ddechrau 2023 i weld cyfleoedd lleoliadau'r flwyddyn nesaf.

Y broses gwneud cais

Cam cyntaf ein proses gwneud cais yw cwblhau ffurflen gais ar-lein, a fydd yn ein galluogi i gael gwybodaeth am eich cymhelliant, eich sgiliau a'ch cryfderau. Hefyd, gofynnir i chi atodi eich CV.

Os bydd eich ffurflen gais ar-lein yn llwyddiannus, estynnir gwahoddiad i chi gwblhau cyfweliad fideo, sy'n ffordd wych i ni ddod i'ch adnabod yn well! Nid yw'n gyfweliad byw. Yn hytrach, rydym wedi recordio'r cwestiynau fel y gallwch eu hateb ar adeg sy'n gyfleus i chi (gan ddefnyddio eich ffôn clyfar, eich llechen neu eich gliniadur).

Estynnir gwahoddiad i ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cyfweliad fideo i gwblhau profion ar-lein. Mae'r cam hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn dangos hyfedredd mewn sgiliau llafar a rhifyddol.

Cam olaf y broses yw'r Ganolfan Asesu a gynhelir yn rhithiol o 15 Mawrth. Os cewch wahoddiad i fynychu, byddwch yn cwblhau amrywiaeth o ymarferion ar y diwrnod – yn cynnwys cyfweliad a chyflwyniad yn ogystal ag ymarferion ysgrifenedig ac ymarferion grŵp. Mae'n gyfle gwych i chi gwrdd â ni, dysgu mwy am ein busnes a gofyn cwestiynau i'n Graddedigion presennol am y rhaglen.

Bydd ein tîm recriwtio wrth law drwy gydol y broses i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Byddwch hefyd yn cael profion ymarfer, dolenni ac awgrymiadau i'ch helpu i gwblhau pob cam.

Ein hymrwymiad i amrywiaeth

Mae Ofgem yn ymrwymedig i greu sefydliad amrywiol a chynhwysol sy'n adlewyrchu'r gymuned a wasanaethir gennym yn well. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Gallwch ddarllen am rai o'r bobl sy'n cymryd rhan yn ein rhaglen datblygu graddedigion ar hyn o bryd ac sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol, a'r ffordd y mae eu gyrfaoedd wedi tyfu a datblygu yn Ofgem ers hynny yn yr adrannau cwymplen isod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rolau eraill gyda ni, ewch i'n hadran ar swyddi gwag cyfredol ar wefan swyddi'r Gwasanaeth Sifil. 

Proffiliau