Cyflogau a buddiannau

Cyflogau a buddiannau

Cyflog

Fel arfer, bydd cyflogau cychwynnol ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sy'n newydd i'r gwasanaeth sifil ar waelod y gyfradd cyflogau, er y gellir trafod cyflog cychwynnol uwch ar gyfer ymgeiswyr sydd â sgiliau, gwybodaeth neu brofiad eithriadol.

Cynllun pensiwn

Mae'r gwasanaeth sifil yn cynnig trefniadau pensiwn gwych. Mae hyn yn rhan bwysig o'r pecyn gwobrwyo.

Ar gyfer gwybodaeth fanwl, mae llyfrynnau ar gael drwy wefan Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil.

Lifestyle options

Rydym yn cydnabod pa bynnag swydd sydd gennych ar ba bynnag lefel, bod angen i chi sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd cartref – p'un a ydych yn rhiant, yn ofalwr neu os ydych am gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden. Rydym wedi datblygu amrywiaeth o bolisïau, ac mae llawer ohonynt yn mynd y tu hwnt i'n rhwymedigaeth gyfreithiol fel cyflogwr, i'ch helpu i wneud hynny.

Oriau hyblyg

Rydym yn gweithredu system oriau hyblyg, sy'n galluogi staff i weithio oriau sy'n addas ar gyfer eu ffordd o fyw a'u cyfrifoldebau. Mae'r gallu i ddefnyddio'r cynllun hwn yn dibynnu ar ein hanghenion gweithredol.

Gweithio hyblyg

Mae gan ein staff yr hawl i wneud cais am batrymau gwaith amgen, e.e. gweithio'n rhan amser neu oriau cywasgedig. Mae'r dechnoleg ar waith i alluogi staff i weithio o gartref ac mae hyblygrwydd o ran faint o amser a dreulir yn y swyddfa.

Talebau gofal plant

Rydym yn gweithio gyda chyflenwr talebau i roi'r opsiwn i staff sydd â chyfrifoldebau rhianta arbed hyd at £243 y mis ar dreth eu cyflog i dalu meithrinfeydd neu ddarparwyr gofal plant.

Seibiannau gyrfa

Byddwn yn ystyried ceisiadau am seibiannau gyrfa, yn dibynnu ar ein hanghenion gweithredol.

Gwyliau

Pan gewch eich penodi, bydd gennych hawl i gael 25 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl, sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl dwy flynedd o wasanaeth. Bydd gan weision sifil presennol sydd â mwy na dwy flynedd o wasanaeth hawl awtomatig i gael 30 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl. Hefyd, ceir 10.5 diwrnod o wyliau cyhoeddus a diwrnodau braint bob blwyddyn.

Bydd gan Uwch-weision Sifil (SCS) Ofgem hawl i gael 31.5 diwrnod o wyliau blynyddol (ar gyfer aelodau presennol yr SCS) a 30 diwrnod ar gyfer aelodau newydd o'r SCS (neu'r rheini sy'n cael eu dyrchafu o fewn y SCS). Bydd gan y ddau grŵp hawl i gael un diwrnod braint ac wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus.

Cynllun benthyciad tocyn tymor/beicio i'r gwaith

Pan fyddwch yn ymuno â ni, gallwch wneud cais am fenthyciad tocyn tymor blynyddol di-log neu fenthyciad beic.

Ymysg y buddiannau eraill mae:

  • amgylchedd eithriadol i weithio ynddo yn Llundain (Canary Wharf) neu ganol dinas Glasgow
  • mynediad hawdd i'r prif gysylltiadau trafnidiaeth 
  • mynediad i gynllun Gofal Iechyd Meddygol Benenden
  • campfa sy'n cynnig prisiau gostyngol (Llundain)
  • bwyty sy'n cynnig prisiau gostyngol (Llundain)