Akshay sy'n gyfrifol am brosesau rheoleiddio economaidd rhwydweithiau ynni Prydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r genhedlaeth nesaf o systemau rheoli prisiau rhwydweithiau ar y tir sef RIIO2, y broses o reoleiddio seilwaith trawsyrru alltraeth, a darparu rhaglen rhyng-gysylltu drawsffiniol uchelgeisiol drwy'r drefn capio a phennu terfyn isaf.
Cyn ymuno ag Ofgem, bu Akshay ar secondiad o Drysorlys EM i Transport for London, lle bu'n arwain gwaith TfL o gyllido'r seilwaith trafnidiaeth yn Llundain drwy fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir ac eiddo sy'n gysylltiedig â phrosiectau trafnidiaeth megis Estyniad Barking Riverside, Crossrail 2 a'r Estyniad i Linell Bakerloo.
Cyn hynny, treuliodd Akshay gyfnod o bum mlynedd yn Nhrysorlys EM, lle bu'n cyfarwyddo prosiectau ynni a thrafnidiaeth ar gyfer Infrastructure UK. Mae wedi bod yn gysylltiedig â'r gwaith o gynllunio a chyflwyno diwygiadau i'r farchnad drydan, y gystadleuaeth ar gyfer dal a storio carbon, datblygu'r rhaglen ynni niwclear newydd, diwygio'r rhwydwaith ffyrdd strategol a phrosiectau adfywio megis estyniad y Northern Line i Orsaf Bŵer Battersea yn Llundain.
Astudiodd Akshay economeg, cyllid, rheoli a'r biowyddorau yn Ysgol Economeg Llundain, prifysgolion Llundain a Delhi, a Sefydliad Rheoli India.