Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith
Gwybodaeth gyswllt ar gyfer eich cyflenwr nwy neu drydan.
Help
Pwy i gysylltu â nhw os bydd toriad pŵer
Ffoniwch 105 am ddim. Cewch eich cysylltu â llinell frys eich gweithredwr rhwydwaith trydan lleol.
Pwy i gysylltu â nhw os byddwch yn arogleuo nwy
Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar unwaith ar 0800 111 999.
Canfod cyflenwr nwy neu drydan
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich cyflenwr ynni presennol ar fil ynni diweddar. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein os nad ydych yn cael biliau papur.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaethau isod.
Canfod gweithredwr rhwydwaith nwy neu drydan
Mae cwmnïau gwahanol (‘gweithredwyr rhwydwaith’) yn rhedeg meysydd o'r rhwydwaith ynni.
Mae rhai cwmnïau annibynnol hefyd yn berchen ar feysydd o'r rhwydwaith a gaiff eu rhedeg gan weithredwyr lleol eraill. Fel arfer, maent yn cysylltu prosiectau tai a masnachol newydd â'r rhwydwaith.
Pwy yw fy ngweithredwr rhwydwaith?
- Defnyddiwch gyfleuster chwilio'r Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni i ganfod eich gweithredwr rhwydwaith gan ddefnyddio eich cod post.
- Defnyddiwch restr darparwyr cofrestr Lloyds i ganfod gweithredwyr annibynnol.
Y gwahaniaeth rhwng gweithredwyr rhwydwaith a chyflenwyr ynni
Mae gweithredwyr rhwydwaith yn wahanol i gyflenwyr ynni. Maent yn berchen ar y pibellau a'r gwifrau sy'n cludo nwy a thrydan ac yn eu rhedeg.
Ceir dau fath:
- Gweithredwyr rhwydweithiau trawsyrru. Maent yn berchen ar y rhwydwaith pwysedd a foltedd uchel sy'n trawsyrru ynni ledled y wlad o'r man y caiff ei gynhyrchu ac yn ei redeg.
- Gweithredwyr rhwydweithiau dosbarthu. Maent yn berchen ar y rhwydwaith ‘dosbarthu’ lleol ac yn ei redeg. Maent yn dod ag ynni i gartrefi a busnesau ar bwysedd a foltedd is o'r rhwydwaith trawsyrru.
Efallai y bydd angen i chi siarad â'ch gweithredwr rhwydwaith os:
- bydd angen i chi roi gwybod am achos o nwy yn gollwng
- byddwch wedi cael toriad pŵer
- bydd angen i chi drefnu cysylltiad ynni mewn adeilad newydd.
Ni all helpu â chwestiynau am filiau ynni. Bydd angen i chi gysylltu â'ch cyflenwr ynni.