Cael help gyda'ch mesurydd deallus

Manteision cael mesurydd deallus, sut mae'n gweithio a beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith.

Beth yw mesurydd deallus

Mae mesurydd deallus yn anfon darlleniadau eich mesurydd trydan a nwy at eich cyflenwr yn awtomatig. Mae sgrin arddangos y mesurydd yn y cartref hefyd yn dangos faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio yn ystod y dydd.

Manteision mesurydd deallus

Mae cael mesurydd deallus yn golygu:

  • byddwch yn cael biliau yn seiliedig ar ddarlleniadau mesurydd cywir ac nid amcangyfrifon
  • does dim angen i chi gyflwyno eich darlleniadau mesurydd eich hun
  • gallech ganfod ffyrdd o arbed arian drwy ddefnyddio gwybodaeth gyfredol am faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio
  • gallwch ychwanegu credyd yn awtomatig neu heb orfod mynd i siop (mewn modd rhagdalu)
  • gallwch gael tariffau mwy hyblyg, gan gynnwys tariffau cyfradd ddeuol

Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael mesurydd deallus am ddim. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad i osod mesurydd deallus drwy ddefnyddio gwefan Smart Energy GB (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych fesurydd Radio Teleswitch (RTS)

Mae cymorth ar gyfer mesuryddion RTS bellach wedi dod i ben. Os oes gennych un o hyd, efallai na fydd yn gweithio yn ôl y disgwyl mwyach. Mae oedran y cyfarpar hefyd yn golygu y bydd hi'n anoddach trwsio unrhyw broblemau. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr er mwyn trefnu i osod mesurydd deallus newydd.

Sut mae cyflenwyr ynni yn defnyddio'r data o'ch mesurydd deallus

Mae'r data rydych yn eu rhannu drwy eich mesurydd deallus yn cael eu defnyddio i:

  • anfon biliau atoch am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio
  • cynnig cynhyrchion a gwasanaethau newydd i chi, er enghraifft tariffau newydd (os ydych wedi rhoi caniatâd ar gyfer hynny)
  • helpu i wneud y system ynni yn fwy effeithlon drwy gofnodi'r galw yn fwy cywir

Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael rhagor o wybodaeth am sut mae mesuryddion deallus yn cofnodi ac yn rhannu eich data. 

Cael help os na fydd eich mesurydd deallus yn gweithio

Efallai y bydd eich mesurydd deallus yn rhoi'r gorau i gofnodi'r ynni rydych yn ei ddefnyddio, neu efallai na fydd yn anfon darlleniadau at eich cyflenwr mwyach.  

Dilynwch y camau hyn ar wefan Cyngor ar Bopeth os ydych yn cael problemau gyda'ch mesurydd deallus (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich biliau ynni

Ewch i'n tudalen Cael help gyda'ch biliau ynni cartref neu fusnes i gael gwybodaeth am y cymorth y gallwch ei gael gan eich cyflenwr, y llywodraeth neu elusennau.