Cael help gyda biliau ynni eich cartref neu fusnes
Ble i gael help os ydych yn ei chael hi'n anodd talu am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio gartref, neu ar gyfer eich busnes bach neu ficrofusnes.
Cael help gan eich cyflenwr ynni
Os ydych yn cael trafferth talu am ynni neu os credwch y gallech fynd i anawsterau o bosibl, gallwch ofyn i'ch cyflenwr wneud y canlynol:
- cytuno ar gynllun talu, seibiant talu neu ostyngiad
- adolygu eich taliadau presennol a'ch ad-daliadau o ddyledion
- eich galluogi i gael gafael ar gymorth ariannol, o'r enw ‘cronfeydd caledi’
Cynlluniau a grantiau cyflenwyr ynni
Gofynnwch i'ch cyflenwr a oes ganddo unrhyw gynlluniau neu grantiau a all helpu â'r canlynol:
- costau ynni
- ad-dalu dyledion ynni
- gwneud gwelliannau arbed ynni i'ch cartref
Gallwch gysylltu â'ch cyflenwr ar-lein, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn. Dylai manylion ynglŷn â sut i wneud hyn fod ar ei wefan neu ar eich biliau ynni.
Os nad ydych yn teimlo eich bod wedi cael y cymorth sydd ei angen arnoch, gallwch gwyno am eich cyflenwr ynni.
Cael cymorth gan y llywodraeth
Cael help gyda'ch biliau ynni cartref gan:
- Lywodraeth y DU (yn agor tudalen Saesneg)
- Llywodraeth yr Alban (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yn byw yn yr Alban
- Llywodraeth Cymru, os ydych yn byw yng Nghymru
Cael help gyda biliau ynni eich busnes bach neu ficrofusnes drwy gysylltu â'r canlynol:
- llywodraeth berthnasol y DU: llinell gymorth busnes (yn agor tudalen Saesneg)
- Business Energy Scotland (yn agor tudalen Saesneg), os ydych yn byw yn yr Alban
- Busnes Cymru, os ydych yn byw yng Nghymru
Gall eich cyngor lleol hefyd gynnig cymorth gyda biliau ynni eich cartref neu fusnes. Dod o hyd i wefan eich cyngor (yn agor tudalen Saesneg).
Help i ddelio â dyledion personol
Os ydych yn poeni am eich gallu i ad-dalu eich dyledion, gallwch gael gwybodaeth a chyngor am ddim gan HelpwrArian.
Gallwch hefyd wneud cais am gyfnod diogelu dros dro gan eich credydwyr, sy'n golygu na fyddant yn gallu cymryd unrhyw gamau i adennill unrhyw symiau sy'n ddyledus gennych. Bydd hyn yn rhoi amser i chi gael cyngor o ran beth i'w wneud nesaf.
Yng Nghymru a Lloegr, yr enw ar hyn yw Lle i Anadlu neu'r Cynllun Seibiant Dyledion. Gwybodaeth am sut i wneud cais ar gyfer Lle i Anadlu (yn agor tudalen Saesneg),
Yn yr Alban, yr enw ar hyn yw moratoriwm dyled. Gwybodaeth am sut i wneud cais ar gyfer moratoriwm dyled (yn agor tudalen Saesneg).
Help i ddelio â dyledion busnes
Cael cymorth a chyngor ar reoli dyledion busnes gan Business Debtline (yn agor tudalen Saesneg).
Cael help gan Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y canlynol:
- os ydych yn cael trafferth talu eich biliau
- os ydych yn cael problem â'ch cyflenwr ynni neu eich cyflenwad ynni
- os ydych am arbed ynni yn y cartref
- os ydych am gael cytundeb ynni gwell
Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth am ragor o wybodaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Yn Lloegr, gallwch hefyd ffonio 0808 144 8844.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch fynd i wefan Energyadvice.scot (yn agor tudalen Saesneg) neu ffonio 0808 196 8660.
Yng Nghymru, gallwch fynd i wefan Advicelink Cymru neu ffonio 0800 702 2020.