Gwiriwch pa gyflenwyr ynni a all osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd y cartref

Dim ond os byddant wedi cymryd pob cam i gadarnhau amgylchiadau'r cartref y gall cyflenwyr ynni osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd. Os bydd cyflenwr yn gosod mesurydd rhagdalu, rhaid iddo gadarnhau ei fod yn bodloni'r rheolau a nodir yn ei drwydded.

Cyfeirir at osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd fel ‘PPM Anwirfoddol’ yn nhrwydded cyflenwr ynni. Mae'n golygu y gellir gosod mesurydd rhagdalu heb warant, neu newid mesurydd deallus i fesurydd rhagdalu, er mwyn adennill arian sy'n ddyledus iddo heb ganiatâd y cwsmer.

Cyn gosod mesurydd rhagdalu heb ganiatâd

Y llynedd, gwnaethom ofyn a ellid oedi'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd y cartref er mwyn ad-dalu dyled. Cyn y gall cyflenwr ailddechrau'r math hwn o osodiad, rydym yn archwilio sut y gwnaethant eu gosod yn y gorffennol. Mae'r archwiliadau hyn yn rhan o'n ‘hadolygiad Cydymffurfio â'r Farchnad’.  

Os oes gennym bryderon ynghylch y modd y mae mesuryddion rhagdalu wedi cael eu gosod yn y gorffennol, byddwn yn adolygu'r ymddygiad hwn ac yn cymryd camau. Gallai hyn olygu camau gorfodi fel dirwyon mawr.

Rhaid i'r cyflenwr unioni pethau cyn y gall ailddechrau.

Rheolau y mae'n rhaid i gyflenwyr eu dilyn

Mae'r rheolau mewn trwyddedau nwy a thrydan yn nodi bod yn rhaid i gyflenwyr osod mesuryddion rhagdalu i ad-dalu dyledion mewn ffordd deg a chyfrifol. Dim ond pan fetho popeth arall y dylid gosod mesuryddion rhagdalu am y rheswm hwn.

Dim ond os bydd bwrdd y cyflenwr wedi cadarnhau â ni bod y cyflenwr wedi dilyn y Cod Ymarfer, wedi bodloni'r holl amodau a'i fod yn barod i ailddechrau y gall cyflenwr ddechrau gosod mesuryddion rhagdalu eto heb ganiatâd y cartref.

Rhaid i gyflenwr wneud y canlynol:

  • cynllunio sut y bydd yn cyflawni'r gofynion yn y Cod Ymarfer  a chwblhau asesiad annibynnol i weld a yw'n barod i ailddechrau yn seiliedig ar y rheolau newydd
  • cwblhau archwiliad annibynnol i weithio allan pan fydd mesuryddion rhagdalu wedi cael eu gosod yn anwirfoddol pan na ddylai hynny fod wedi digwydd, a chynnig iawndal i'r bobl hynny, gan newid eu mesurydd yn ôl i ddull talu nad yw'n rhagdaliad
  • cwblhau unrhyw faterion pwysig sy'n codi yn y gwiriadau a wneir fel rhan o'r Adolygiad Cydymffurfio â'r Farchnad

Cyflenwyr ynni a all osod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd

  • E.ON – wedi ailddechrau ar 21 Chwefror 2024
  • EDF – wedi ailddechrau ar 8 Ionawr 2024
  • Octopus – wedi ailddechrau ar 8 Ionawr 2024
  • Scottish Power – wedi ailddechrau ar 8 Ionawr 2024
  • Tru Energy – wedi ailddechrau ar 21 Chwefror 2024
  • Utilita – wedi ailddechrau ar 1 Mawrth 2024
  • Utility Warehouse – wedi ailddechrau ar 26 Chwefror 2024

Ar ôl ailddechrau gosodiadau anwirfoddol

Rhaid i gyflenwyr ynni anfon gwybodaeth reolaidd atom fel y gallwn fonitro'r ffordd maent yn gosod mesuryddion rhagdalu heb ganiatâd cartref. Bydd hyn yn ein helpu i nodi unrhyw dueddiadau sy'n peri pryder. Os bydd gennym bryderon, byddwn yn cymryd camau a all fod yn gamau gorfodi fel dirwyon mawr.

Os nad ydych yn fodlon ar eich cyflenwr ynni, neu os ydych o'r farn nad yw'n dilyn ein rheolau, darllenwch pwy y dylech gysylltu ag ef a sut i gwyno am eich cyflenwr ynni.

Cymorth os ydych mewn dyled

Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich biliau ynni, dylech gysylltu â'ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl. Dysgwch sut i gael help os na allwch fforddio eich biliau ynni.