Newid eich busnes i dariff neu gyflenwr ynni newydd

Gall newid eich cyflenwr neu gynnig arbed arian i chi ar gostau ynni busnes.

Cadarnhau p’un a ydych yn cael eich ystyried yn ‘ficrofusnes’

Os ydych yn rhedeg eich busnes gartref, efallai na fydd angen contract ynni busnes arnoch.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech gael eich ystyried yn ficrofusnes gan gyflenwr ynni, gall Cyngor ar Bopeth helpu:

Defnyddio ein canllaw ar newid cyflenwr i gwsmeriaid preswyl

Ein canllaw i newid cyflenwr ynni busnes

  1. Cadarnhewch pa bryd y gallwch newid eich ynni busnes

    Fel arfer, gallwch newid eich ynni busnes:

    • os ydych ar gontract nad ydych wedi'i ddewis – fel contract ynni tybiedig neu gontract ynni diofyn. Bydd y rhain fel arfer yn gymwys os bydd gennych eiddo newydd neu os bydd contract cyfnod penodol yn dod i ben ac nad ydych wedi cofrestru ar gyfer cynnig ynni newydd eto;
    • os yw eich contract ynni busnes wedi dod i ben ac nad ydych yn rhwym wrth unrhyw delerau. Efallai y bydd angen i chi roi cyfnod rhybudd mewn rhai contractau ynni busnes. Darllenwch eich telerau a siaradwch â'ch cyflenwr os nad ydych yn siŵr ynghylch y cyfnod rhybudd.

    Os bydd cyflenwr yn dweud na allwch newid, rhaid iddo esbonio pam cyn gynted â phosibl. Rhaid iddo hefyd esbonio eich opsiynau os byddwch yn meddwl y dylech allu newid.

    Efallai y gallwch newid i gynnig newydd o hyd os na allwch newid i gyflenwr gwahanol oherwydd eich contract. Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth i gael help os byddwch yn cael anawsterau:

  2. Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i newid eich cyflenwr ynni busnes

    Mae'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ganlynol:

    • Eich cod post.
    • Enw eich cyflenwr presennol a'ch contract.
    • Y telerau ar eich contract ynni busnes presennol: dyddiad y daw'r contract i ben ac unrhyw gyfnodau rhybudd.
    • Eich costau ynni fesul uned (a ddangosir mewn oriau cilowat – kWh ar eich bil) a thaliadau sefydlog.
    • Eich defnydd ynni blynyddol.

    Mae gwybodaeth bwysig i'w gweld ar fil ynni diweddar. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein os nad ydych yn cael biliau papur.

    Os nad ydych yn siŵr am fanylion eich cyflenwad presennol, ewch i Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith.

  3. Canfod contractau ynni busnes

    Cysylltwch â'r cyflenwr sydd gennych eisoes i weld beth y gall ei gynnig. Dywedwch eich bod am gymharu'r hyn y mae'n ei gynnig â darparwyr eraill cyn cytuno ar gontract. Gallwch ddefnyddio gwefan gymharu neu ffonio cyflenwyr ynni gwahanol i wneud hyn.

    Gallwch hefyd ddefnyddio broceriaid ynni a all drafod contract i chi am ffi. Os byddwch yn defnyddio brocer:

    • gofynnwch pa gyflenwyr y mae'n eu cynrychioli er mwyn cael gwybod a all gynnig cymhariaeth o'r farchnad gyfan.
    • gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau ei wasanaeth. Er enghraifft, efallai ei fod yn codi ffi darganfyddwr untro neu'n integreiddio ei ffi fel rhan o gytundeb comisiwn mewn contract y byddwch yn dewis ymrwymo iddo. Gweler cyngor GOV.UK ar Osgoi telerau annheg mewn contractau busnes.

    Mae bob amser yn werth gofyn i'ch cyflenwr presennol a all wneud cynnig gwell eto os byddwch yn canfod un sy'n well yn rhywle arall hefyd.

    Mae hefyd yn werth gofyn i ddarparwyr anfon cynnig ysgrifenedig atoch gyda'r holl delerau cyn i chi ddweud eich bod yn cytuno ar gontract ynni busnes, gan gynnwys pan fyddwch yn trafod cynigion dros y ffôn. Mae cytundebau a wneir dros y ffôn yn gyfrwymol.

  4. Pwyso a mesur eich opsiynau

    Meddyliwch am bethau fel:

    • Gwasanaeth cwsmeriaid cyflenwr.
    • Ai'r cynnig hwn yw'r rhataf, yr un mwyaf ecogyfeillgar neu a yw'n cynnig hyblygrwydd i ddod ag ef i ben heb ffi.
    • Telerau'r cyfnod rhybudd os byddwch yn dewis newid cyflenwr neu ddod â chontract i ben.
    • A allwch gael arian yn ôl neu gymhellion eraill am ddim fel rhan o'ch cynnig i newid.
    • A fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau ychwanegol, fel taliadau cynnal a chadw
    • A yw'r contract busnes yn cynnig cyfnod ‘ailystyried’ os byddwch yn newid eich meddwl ar ôl cytuno i gontract.
    • Os byddwch yn defnyddio brocer ynni, sut mae ei ffi yn gweithio gyda chontract. Er enghraifft, a yw'n dâl untro neu a gaiff ei hychwanegu at eich costau defnydd mewn contract.
  5. Cadarnhau eich newid

    Y cam olaf yw cadarnhau eich contract a'ch dull o dalu. Bydd talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn arbed arian fel arfer. 

    Bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi gyda dyddiad newid. Gall gymryd hyd at 21 diwrnod i gwblhau'r broses newid. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n cymryd tua 17 diwrnod.

    Cyn i chi lofnodi, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall:

    • hyd y contract
    • y cyfnodau rhybudd gofynnol os byddwch am newid cyflenwr neu ddod â chontract i ben
    • y costau ar gyfer pob uned o nwy neu drydan a ddefnyddir fesul kWh a thaliadau sefydlog.

    Os byddwch yn newid eich meddwl

    Nid yw llawer o gontractau ynni busnes yn cynnig cyfnod ailystyried. Dyma'r opsiwn i ganslo contract o fewn nifer penodol o ddiwrnodau ar ôl i chi gytuno arno. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon ar yr holl delerau ac amodau cyn i chi gytuno ar gontract.

Help