Gosod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd

Dysgwch pryd y caniateir i'ch cyflenwr ynni osod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd, yr hyn y mae angen iddo ei wneud yn gyntaf, a'r hyn i'w wneud os ydych o'r farn bod eich cyflenwr wedi gwneud camgymeriad.

Gall eich cyflenwr osod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd:

  • os ydych yn cronni dyled ac nid ydych wedi ymateb i'w ymdrechion i'ch helpu
  • os nad yw ffyrdd eraill o ad-dalu eich dyled wedi gweithio

Os bydd yn gwneud hyn, rhaid iddo ddilyn ein rheolau llym.

Gall eich cyflenwr gael gwarant i fynd i mewn i'ch eiddo a gosod mesurydd rhagdalu, neu newid eich mesurydd deallus presennol i'r modd rhagdalu o bell.

Yr hyn y mae'n rhaid i'ch cyflenwr ei wneud yn gyntaf

Dim ond fel dewis olaf y dylid gosod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd. Cyn bwrw ati, rhaid i'ch cyflenwr wneud y canlynol:

  • gwneud ymdrechion rhesymol i gytuno ar ffordd arall i chi ad-dalu eich dyled a chynnig cymorth os ydych yn ei chael hi'n anodd talu
  • ceisio cysylltu â chi 10 gwaith o leiaf gan ddefnyddio dulliau gwahanol, er enghraifft galwadau ffôn, llythyrau neu negeseuon testun
  • ymweld â'ch cartref i ddeall eich amgylchiadau a gwirio a yw mesurydd rhagdalu yn ddiogel ac yn addas ar gyfer eich aelwyd

Os bydd eich cyflenwr yn penderfynu gosod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd

Cyn y gellir gosod y mesurydd, dylai eich cyflenwr wneud y canlynol:

  • esbonio pam ei fod wedi gwneud ei benderfyniad
  • dweud wrthych pryd y mae'n bwriadu gosod y mesurydd
  • egluro beth fydd yn digwydd yn ystod y gwaith gosod
  • dweud wrthych sut i gysylltu ag ef os yw eich amgylchiadau wedi newid neu os ydych yn meddwl ei fod wedi gwneud y penderfyniad anghywir

Dylai'r unigolyn sy'n ymweld â'ch cartref ar ran eich cyflenwr wisgo dyfais recordio sain neu gamera a wisgir ar y corff. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich cyflenwr yn dilyn y rheolau wrth gynnal ymweliad lles neu osod mesurydd rhagdalu.

Rhaid i'ch cyflenwr roi credyd gwerth £30 i chi ar ôl iddo osod y mesurydd neu newid eich mesurydd presennol i ddull rhagdalu o bell.

Pan na all eich cyflenwr osod mesurydd rhagdalu

Ni ddylai eich cyflenwr osod un os oes unrhyw bobl sy'n agored i niwed yn eich aelwyd. Mae hyn yn berthnasol:

  • os oes gan unrhyw un yn eich cartref salwch terfynol neu gyflwr iechyd difrifol
  • os oes rhywun yn eich cartref yn dibynnu ar gyflenwad ynni parhaus oherwydd cyflwr meddygol neu gyfarpar meddygol sy'n cael ei bweru gan drydan
  • os yw pawb yn eich cartref yn 75 oed neu'n hŷn ac nad oes neb arall yn byw yno a all roi cymorth
  • os oes plentyn o dan 2 oed yn byw yn eich cartref
  • os na all neb yn eich cartref ychwanegu credyd at y mesurydd oherwydd cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol
  • os yw amgylchiadau dros dro unrhyw un yn gwneud mesurydd rhagdalu yn anniogel neu'n anaddas, er enghraifft beichiogrwydd neu brofedigaeth

Os byddwch yn meddwl bod eich cyflenwr wedi gwneud camgymeriad

Dylech gysylltu â'ch cyflenwr cyn gynted â phosibl os byddwch yn meddwl nad yw wedi dilyn ein rheolau cyn gosod mesurydd rhagdalu. Gofynnwch iddo esbonio pam y mae wedi gwneud ei benderfyniad a pha wiriadau y mae wedi'u gwneud. Os nad ydych yn fodlon ar ei ymateb, gallwch wneud cwyn.

Gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Ynni os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich cyflenwr wedi ymdrin â'ch cwyn.

Mae'n bosibl y gallwch hawlio iawndal:

  • os gosodwyd eich mesurydd rhagdalu drwy rym rhwng 1 Ionawr 2022 a 21 Ionawr 2023
  • os nad oedd eich cyflenwr wedi dilyn y rheolau'n iawn

Gweld a oes iawndal yn ddyledus i chi ar wefan Cyngor ar Bopeth (yn agor tudalen Saesneg).

Ble i gael help

Gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth ar gael credyd dros dro, a beth i'w wneud os na allwch fforddio ychwanegu credyd at eich mesurydd rhagdalu.

Gweler ein tudalen cael help gyda biliau ynni eich cartref neu eich busnes i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth neu elusennau.