Polisïau corfforaethol

Polisïau corfforaethol

Rydym yn gweithredu'n unol ag amrywiaeth o bolisïau corfforaethol sy'n diffinio ein dull rheoleiddio, ein hymddygiad fel corff cyhoeddus a'n hymrwymiadau fel cyflogwr.

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi trosolwg o rai o'r polisïau corfforaethol hyn. Gallwch ddarllen gwybodaeth fanylach yn y llyfrgell cyhoeddiadau datganiadau polisi corfforaethol

Trefniadau archwilio

Archwilio Mewnol

Mae ein gwasanaeth archwilio mewnol yn arfarnu ein trefniadau rheoli yn annibynnol drwy fesur a gwerthuso digonolrwydd, dibynadwyedd ac effeithiolrwydd systemau rheoli a rheolaeth ariannol. Mae'r gwasanaeth archwilio mewnol yn gwneud argymhellion yn seiliedig ar y broses o arfarnu pob system a adolygwyd. Cyflwynir adroddiad sicrwydd blynyddol i'r Swyddog Cyfrifyddu.

Rydym yn trefnu contractau allanol ar gyfer darparu'r gwasanaeth archwilio mewnol er mwyn sicrhau dadansoddiadau ac argymhellion cwbl annibynnol a phroffesiynol.

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol yw pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac mae'n gyfrifol am ardystio ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Mae'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol yn arfer lefel uchel o annibyniaeth. Mae'n penderfynu ar raddau'r archwiliad allanol a'r archwiliadau eraill a gynhelir ar ein cyfrifon a sut y cânt eu cynnal, ynghyd â chynnwys adroddiadau a wneir i'r Senedd.

Mae'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am asesu a yw ein datganiadau ariannol yn rhoi darlun gwir a theg, ac yn sicrhau nad ydynt yn cynnwys camgymeriadau perthnasol nac yn cael eu cyflwyno mewn ffordd a allai gamarwain rhywun sy'n dibynnu ar y cyfrifon.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Yn Ofgem, rydym yn gwerthfawrogi pob cydweithiwr, ni waeth beth fo'i rywedd, ei gefndir, ei ethnigrwydd, ei oedran, ei genedligrwydd, ei arbenigedd na'i brofiad. Rydym yn well ac yn gryfach po fwyaf amrywiol yr ydym. Rydym am arwain y ffordd o ran sicrhau bod ein sefydliad a'r sector ehangach a reoleiddir gennym yn fwy cynhwysol, cyfartal ac amrywiol er mwyn cynrychioli'r bobl a wasanaethir gennym.

Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau penodol yn ein gweithlu drwy ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, ynghyd â'r rhaglenni a'r mentrau canlynol:

  • Mewn partneriaeth ag Energy UK, gyda nawdd gan Accenture, i gynnal digwyddiad blynyddol i'r diwydiant er mwyn gweithredu ar nodau sy'n ymwneud â chynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogi arferion gorau. 
  • Mewn partneriaeth ag Energy UK a Cyngor ar Bopeth i lansio'r Cyfeiriadur Diversity in Speakers, gan hyrwyddo siaradwyr allanol ym maes ynni o gymunedau ethnig lleiafrifol.
  • Sefydlu rhaglen datblygu gyrfaoedd Menywod yn Arwain er mwyn annog menywod ym mhob rhan o Ofgem i feithrin y sgiliau, yr hyder a'r parodrwydd i wneud cais am swyddi uwch-reoli ac arwain.
  • Sefydlu rhaglen cyflymu gyrfa i'n staff ethnig lleiafrifol, er mwyn helpu i hyrwyddo a chefnogi doniau ar lefel rheoli canol.
  • Llofnodi'r Addewid POWERful Women.
  • Mewn partneriaeth â Grŵp Pride in Energy Energy UK i lansio ein Haddewid Power in Pride i sicrhau cynhwysiant ar gyfer ein cydweithwyr LGBT+.
  • Bod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd i sicrhau amgylchedd gwaith hygyrch i'n holl gydweithwyr anabl.

Rydym yn monitro ein polisïau a'n harferion ac yn adrodd i fwrdd Ofgem ar ein cynnydd.

Ein rhwydweithiau amrywiaeth a chynhwysiant i staff

Mae ein rhwydweithiau, a gaiff eu rhedeg gan gydweithwyr ar gyfer cydweithwyr, ac sydd ar gael i bob aelod o staff Ofgem, yn hyrwyddo ac yn cefnogi mentrau yn ein gweithle a'n diwylliant.

Dysgu mwy am rwydweithiau staff

Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 i rym ar 1 Ionawr 2005. Maent yn rhoi'r hawl i bobl ofyn am wybodaeth a gofnodwyd a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Fel un o adrannau'r Llywodraeth, rydym yn gymwys fel awdurdod cyhoeddus.

Mae ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2018) yn rhoi'r hawl i unigolyn gael copi o'i ddata personol, yn ogystal â gwybodaeth atodol arall. Maent yn helpu unigolion i ddeall sut a pham y mae sefydliad yn defnyddio eu data, a gwirio a yw'r sefydliad yn ei wneud mewn modd cyfreithlon.

Ceir manylion llawn sut i wneud ceisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a cheisiadau am fynediad at ddata gan y testun yn ein hadran ceisiadau am wybodaeth.

E-bostiwch ni i wneud cais

Tryloywder

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth am ble rydym yn gwario arian ac, fel un o sefydliadau'r llywodraeth, sicrhau ein bod yn atebol.

Er mwyn sicrhau y caiff arian ei wario'n ddoeth, rydym yn dilyn pedair egwyddor hanfodol:

  • tryloywder – darparu gwybodaeth glir, gyson, y gellir ei chymharu ac sy'n hygyrch
  • atebolrwydd – dwyn y sawl sy'n gwneud penderfyniadau a deiliaid cyllidebau i gyfrif
  • symlrwydd – sicrhau ei bod yn hawdd deall yr hyn sy'n digwydd
  • cydlyniant – sicrhau bod ein gweithgareddau yn glir a rhesymegol.

Rydym yn rhoi cyfrif am ein defnydd o adnoddau yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, a gaiff eu harchwilio gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi manylion treuliau uwch-aelodau a chontractau â gwerth o fwy na £25k yn ein hadran ar gyhoeddiadau corfforaethol.

Gallwch ddarllen manylion y ffordd rydym yn prynu gwasanaethau sy'n cefnogi ein gwaith yn ein hadran ar gaffael a chystadlu am gontractau.

Chwythu'r chwiban

Mae chwythwyr chwiban yn datgelu gwybodaeth am weithgareddau cwmnïau neu unigolion. Maent yn gwneud hynny er mwyn codi pryder am gamwedd, risg neu gamymarfer y dônt yn ymwybodol ohono neu ohoni drwy eu gwaith.

Rydym wedi ein dynodi gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 i gael datgeliadau am y diwydiant nwy a thrydan ac rydym yn cymryd gwybodaeth a ddarperir gan chwythwyr chwiban o ddifrif.

Rydym yn trin pob datgeliad a wneir o dan y canllawiau hyn ar Chwythu'r chwiban mewn modd sensitif, a byddwn yn gwarchod hunaniaeth yr unigolyn sy'n gwneud honiad lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau penodol, efallai y bydd yn ofynnol i ni ddatgelu pwy yw rhywun, lle mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

Croesawn wybodaeth gan chwythwyr chwiban sy'n gweithio yn y diwydiant ynni, a byddem yn eich annog i gysylltu â ni os hoffech godi pryder – ceir manylion llawn ar ein tudalen ar Chwythu'r chwiban

E-bostiwch ni am chwythu'r chwiban