Beth i'w wneud os byddwch yn cael ôl-fil
Beth yw ôl-fil, y rheolau y mae'n rhaid i gyflenwyr eu dilyn wrth anfon un atoch, a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd.
Beth yw ôl-fil
Bydd eich cyflenwr trydan neu nwy yn gofyn i chi dalu ‘ôl-fil’ pan na fydd wedi codi tâl cywir arnoch am yr ynni rydych eisoes wedi'i ddefnyddio. Gallai hyn ddigwydd os bydd camgymeriad wedi bod yn eich bil neu broblem â'ch mesurydd.
Talu ôl-fil
Mae angen i chi dalu unrhyw fil cywir y mae eich cyflenwr wedi'i anfon atoch, gan gynnwys ôl-filiau. Mae cyfres o reolau yn cyfyngu ar y cyfnod amser y gall ôl-fil ei gwmpasu.
Gwiriwch a yw eich cyflenwr wedi dilyn y rheolau ôl-filio
Mae ein rheolau ôl-filio yn golygu nad oes rhaid i chi dalu am ynni y gwnaethoch ei ddefnyddio mwy na 12 mis yn ôl:
- os nad ydych wedi cael bil cywir amdano o'r blaen
- os na chawsoch wybod am yr hyn yr oedd angen i chi ei dalu drwy gyfriflen o'r cyfrif o'r blaen
- os cafodd swm eich Debyd Uniongyrchol ei osod yn rhy isel yn flaenorol i dalu am yr hyn yr oedd angen i chi ei dalu
Mae'r rheolau yn gymwys i ddefnyddwyr ynni domestig a microfusnesau.
Os byddwch wedi ‘ymddwyn yn afresymol’
Bydd yn rhaid i chi dalu am ynni a ddefnyddiwyd mwy na 12 mis yn ôl os byddwch wedi ymddwyn yn afresymol, er enghraifft, drwy wneud y canlynol:
- stopio'ch cyflenwr rhag eich bilio'n gywir, gan gynnwys drwy rwystro mynediad i'ch mesurydd
- anwybyddu ceisiadau am daliad gan eich cyflenwr
- dwyn trydan neu nwy
Pryd i gysylltu â'ch cyflenwr
Dylech gysylltu â'ch cyflenwr ar unwaith os byddwch yn meddwl nad yw wedi dilyn y rheolau ôl-filio. Bydd yn ad-dalu unrhyw arian a gymerwyd drwy gamgymeriad.
Dylech hefyd gysylltu â'ch cyflenwr os byddwch yn meddwl na ddylech fod wedi derbyn ôl-fil, neu os byddwch yn cael trafferth i'w dalu.
Gallwch gwyno am eich cyflenwr ynni os bydd yn parhau i ofyn am daliad am gyfnod sy'n cael ei gwmpasu gan y rheolau ôl-filio.
Help gyda'ch biliau ynni
Efallai y gallwch gael help ychwanegol os byddwch yn poeni am dalu eich biliau ynni.