Cael cyngor ar rwydweithiau gwresogi
Beth yw rhwydweithiau gwresogi, a ble i gael cyngor a chymorth.
Mae rhwydwaith gwresogi yn gwresogi, yn oeri neu'n darparu dŵr poeth i adeiladau a chartrefi o ffynhonnell ganolog. Mae hyn yn golygu nad oes angen system wresogi ar wahân fel boeler cyfunol neu bwmp gwres ar eiddo sydd wedi'i gysylltu â rhwydwaith gwresogi.
Mae dau fath o rwydwaith gwresogi:
- mae rhwydweithiau gwresogi cymunedol yn cyflenwi cwsmeriaid mewn adeilad unigol, er enghraifft, bloc o fflatiau - hwn yw'r math mwyaf cyffredin o rwydwaith gwresogi yn y DU ar hyn o bryd
- mae rhwydweithiau gwresogi ardal yn cyflenwi mwy nag un adeilad, er enghraifft, datblygiadau tai, busnesau, swyddfeydd a siopau
Caiff rhwydweithiau gwresogi eu rhedeg gan weithredwyr a chyflenwyr. Mae gweithredwyr yn rheoli ac yn cynnal a chadw'r rhwydwaith. Mae cyflenwyr yn darparu gwasanaethau gwresogi, oeri neu ddŵr poeth i gwsmeriaid ar y rhwydwaith. Dylech gysylltu â'ch cyflenwr os bydd gennych unrhyw gwestiynau am filiau, neu os bydd problem â'ch rhwydwaith gwresogi.
Os bydd angen cymorth arnoch â'ch rhwydwaith gwresogi
Gallwch gael cyngor a chymorth am ddim er mwyn helpu i ddatrys problemau â'ch rhwydwaith gwresogi.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch fynd i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffonio 0800 223 1133.
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch ddefnyddio'r cyfleuster gwe-sgwrs ar energyadvice.scot neu ffonio 0808 196 8660. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech gael eich atgyfeirio at Uned Help Ychwanegol Cyngor ar Bopeth.
Cwyno i'r Ombwdsmon Ynni
Os na ellir datrys problem â'ch rhwydwaith gwresogi, gallwch fynd â'ch cwyn at yr Ombwdsmon Ynni. Darllenwch ein canllawiau ar sut i gwyno am eich cyflenwr ynni.
Rheoleiddio rhwydweithiau gwresogi
Mae ein rheoliadau ar gyfer rhwydweithiau gwresogi yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau da i gwsmeriaid, gan gynnwys:
- gwasanaeth cwsmeriaid da
- gwella dibynadwyedd y cyflenwad ynni
- biliau ynni tryloyw sy'n hawdd eu deall
- prisiau teg
Darllenwch fwy am sut rydym yn rheoleiddio rhwydweithiau gwresogi.