Adroddiadau a chyfrifon blynyddol

Yn cyflwyno adroddiad ar ein perfformiad a'n gwariant o gymharu â'n cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol (o fis Ebrill i fis Mawrth).

Rydym yn nodi sut rydym wedi cyflawni'r amcanion yn ein strategaeth amlflwyddyn a'n cynllun gweithredol, sef y Flaenraglen Waith ar gyfer y flwyddyn ariannol (o fis Ebrill i fis Mawrth). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • ein prif gyflawniadau o ran datblygu polisïau a rheoleiddio ynni
  • ein hatebolrwydd i'r Senedd
  • gwariant a'r incwm a gynhyrchwyd
  • sut y gwnaethom ddefnyddio ein cyllideb adrannol
  • yr effaith amgylcheddol fewnol
  • gweithgareddau ein bwrdd a'n pwyllgorau

Adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf

Ein cyllideb

Bob blwyddyn, mae'r llywodraeth yn cyflwyno ei hamcangyfrifon o wariant i'r Senedd eu cymeradwyo. Cyfeirir atynt fel y prif amcangyfrifon o'r cyflenwad. Gallwch weld y prif amcangyfrifon o'r cyflenwad ar GOV.UK.

Mae'r memorandwm amcangyfrifon sy'n ei ategu yn nodi ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan gynnwys cymhariaeth o'r cyllidebau o flwyddyn i flwyddyn.

Gweler ein prif femorandwm amcangyfrif ar gyfer 2024 i 2025.