Defnydd nwy a thrydan ar gyfartaledd

Gwybodaeth am y defnydd o nwy a thrydan ar gyfartaledd a sut y caiff ei gyfrifo.

Mae'r cap ar brisiau ynni a'r Gwarant Pris Ynni'r llywodraeth yn gosod uchafswm pris y gall cyflenwyr ynni ei godi ar ddefnyddwyr am bob awr cilowat (kWh) o ynni y maent yn ei ddefnyddio. Mae'r rhain yn sicrhau bod y prisiau i gwsmeriaid ar dariffau ynni diofyn yn deg.

Mae'r Gwarant Pris Ynni yn fesur dros dro a gyflwynwyd gan y llywodraeth i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy cyfanwerthol. Darllenwch am y Gwarant Pris Ynni ar GOV.UK.

Rydym yn gosod lefel y cap ar brisiau ynni bob tri mis.

Caiff y cap ar bris a'r Gwarant Pris Ynni eu cyfrifo gan ddefnyddio Gwerthoedd Defnydd Domestig. Nodweddiadol, sy'n rhoi syniad i'r defnyddwyr o ddefnydd cyfartalog ynni gwahanol gartrefi. Mae'r gwerthoedd hyn hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cymharu prisiau ynni ac yn aml cânt eu defnyddio i amcangyfrif y dyfynbrisiau ar wefannau cyflenwyr a gwefannau cymharu prisiau.

Deall y defnydd cyfartalog o nwy a thrydan

Caiff biliau nwy a thrydan eu cyfrifo'n rhannol ar faint o ynni maent yn eu defnyddio, ynghyd â phethau fel costau rhwydwaith a chostau cyfanwerthu. Bydd eich defnydd yn dibynnu ar sawl ffactor, yn cynnwys:

  • maint eich cartref
  • effeithlonrwydd ynni eich cartref
  • sawl person sy'n byw yn eich cartref
  • effeithlonrwydd ynni eich teclynnau a pha mor aml rydych yn eu defnyddio
  • eich iechyd

Oriau cilowat

Caiff defnydd o ynni ei gyfrifo mewn oriau cilowat (kWh), a elwir weithiau yn ‘unedau’. Mae un kWh yn ddigon i bweru bwlb golau 100-wat am 10 awr.

Enghreifftiau eraill o amgylch eich cartref:

  • oergell a rhewgell: disgwylir defnyddio 1 kWh mewn 26 awr
  • popty trydan: disgwylir defnyddio 2 kWh am 30 munud o ddefnydd
  • sychwr dillad: disgwylir defnyddio 4.5 kWh mewn un cylch

Mae'r enghreifftiau hyn yn seiliedig ar declynnau cyffredin. Gall teclynnau unigol amrywio.

Rydym yn amcangyfrif bod cartref nodweddiadol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn defnyddio 2,700 kWh o drydan a 11,500 kWh o nwy mewn blwyddyn.   

Defnydd Domestig Nodweddiadol

Mae capiau ar brisiau ynni, fel y Cap ar Brisiau Ynni neu'r Warant Pris Ynni, yn cyfyngu ar gost ynni fesul kWh. Weithiau defnyddir y gwerthoedd nodweddiadol isod i egluro sut filiau y bydd cartrefi â defnydd isel, canolog ac uchel o ynni yn eu derbyn.

Gwerthoedd nodweddiadol

Caiff y cap ar brisiau ynni ei gyfrifo gan ddefnyddio'r gwerthoedd isod.

Defnydd o ynni  Enghraifft – math o gartref a nifer y preswylwyr  Defnydd nodweddiadol o nwy bob blwyddyn (kWh)  Defnydd nodweddiadol o drydan bob blwyddyn (kWh)  Defnydd nodweddiadol o drydan bob blwyddyn (aml-gyfradd, megis Economi 7) (kWh) 
Isel  Fflat neu dŷ 1 ystafell wely; 1 i 2 person  7,500  1,800  2,200 
Canolig  Tŷ 2-3 ystafell wely; 2 i 3 person  11,500  2,700  3,900 
Uchel  4+ ystafell wely; 4 i 5 person  17,000  4,100  6,700 

Enghreifftiau yw'r ffigurau hyn o'r defnydd cyfartalog o ynni. Gall eich bil fod yn ddrutach neu'n rhatach yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.

Bydd faint y bydd eich cyflenwr ynni yn ei godi arnoch hefyd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Taliadau sefydlog a chyfraddau fesul uned y cap ar brisiau ynni fesul rhanbarth.

Rydym yn adolygu'r Gwerthoedd Defnydd Domestig Nodweddiadol bob dwy flynedd er mwyn asesu unrhyw duedd o ran y defnydd o ynni ymhlith cartrefi. Darllenwch am yr adolygiad a'r newid diweddar yn y ffordd rydym yn cyfrifo Gwerthoedd Defnydd Domestig Nodweddiadol.

Caiff y gwerthoedd nodweddiadol hyn eu defnyddio i amcangyfrif y swm blynyddol a fyddai'n cael ei godi ar gartref nodweddiadol sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol ac sydd ar dariff amrywiol safonol. Darllenwch am y cap ar brisiau ynni a'r warant pris ynni.

Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael eich ychwanegu at y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth, gwasanaeth cymorth am ddim sy'n sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i bobl mewn sefyllfa fregus.  

Canllaw ar leihau eich defnydd o ynni ac atal colli gwres