Gweithio i Ofgem

Gweithio i Ofgem

Ofgem yw Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan. Rydym yn adran anweinidogol o'r llywodraeth ac yn Awdurdod Rheoleiddio Cenedlaethol annibynnol, a gydnabyddir gan Gyfarwyddebau'r UE. Ein rôl yw diogelu defnyddwyr nawr ac yn y dyfodol drwy weithio i sicrhau system ynni werddach a thecach.

Sut i wneud cais

Mae holl swyddi gwag Ofgem i'w gweld ar wefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.

Os hoffech wneud cais am rôl, bydd angen i chi lanlwytho eich CV ynghyd â datganiad addasrwydd cyn y dyddiad cau.

Pan fyddwch wedi dechrau'r broses gwneud cais gallwch arbed eich manylion a gadael y safle heb orfod cwblhau'r cais mewn un sesiwn.

Beth a gynigir gennym

Mae cyflogeion Ofgem yn cael amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys:

  • cyfleoedd datblygiad a hyfforddiant i gyflogeion gyda thîm Dysgu a Datblygu penodedig
  • amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau proffesiynol, cymdeithasol a hamdden
  • swyddfeydd bywiog a modern yn Canary Wharf yn Llundain, Merchant City yn Glasgow, a Chaerdydd.
  • gostyngiadau'r Gwasanaeth Sifil ar gyfer sefydliadau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol
  • cynllun pensiwn gwerth uchel

Gallwch gael gwybod am ein hamrywiaeth lawn o fuddiannau yn ein pecyn buddiannau, a gaiff ei atodi i bob swydd wag ac sydd ar gael ar gais gan ein tîm recriwtio.

E-bostio ein tîm recriwtio