Beth mae sero net yn ei olygu i ddefnyddwyr
Beth mae sero net yn ei olygu, sut mae'n effeithio arnoch chi, a'n rôl ni wrth helpu i'w gyflawni.
Beth yw sero net
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr i darged o ‘sero net’ erbyn 2050. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gydbwyso faint o nwyon a gynhyrchir gan danwyddau ffosil a'r swm y gallwn ei dynnu o'r atmosffer. Weithiau caiff sero net ei ddefnyddio ynghyd â thermau cysylltiedig ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, gan gynnwys:
- datgarboneiddio - y broses o leihau allyriadau carbon
- ynni gwyrdd - ynni sy'n dod o ffynonellau adnewyddadwy fel gwynt neu solar yn unig
- pŵer glân - ynni sy'n cynhyrchu ychydig iawn o allyriadau nwyon tŷ gwydr neu ddim o gwbl (mae hyn yn wahanol i ynni gwyrdd gan ei fod yn cynnwys ffynonellau niwclear)
- carbon niwtral - pan fydd unrhyw allyriadau carbon a gynhyrchir yn cael eu cydbwyso gan rai eraill yn cael eu tynnu mewn mannau eraill
Dim ond unwaith y gellir defnyddio tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy naturiol i gynhyrchu ynni. Pam fyddant yn cael eu llosgi, maent yn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn gyrraedd sero net yw newid i opsiynau sy'n cynhyrchu llai o garbon. Mae'r rhain yn cynnwys:
- ynni niwclear
- ynni'r gwynt
- ynni solar
- ceblau sy'n cysylltu â'r grid mewn gwledydd eraill i fasnachu ynni adnewyddadwy, a elwir yn rhyng-gysylltwyr
- dal carbon deuocsid o ffynonellau mawr fel gorsafoedd ynni, ei gludo a'i storio
- storio trydan pan fydd ffynonellau adnewyddadwy yn cynhyrchu mwy o ynni nag sydd ei angen, a'i ddefnyddio pan fydd y galw am ynni yn uchel neu pan fydd prisiau'n codi - gelwir hyn yn storio trydan am gyfnodau hir
Mae'r dewisiadau ynni amgen hyn o fudd i chi drwy wneud y system ynni yn fwy dibynadwy a'r cyflenwad yn fwy diogel rhag effaith digwyddiadau byd-eang. Mae hyn yn cynnwys cynnydd sydyn mewn prisiau ynni.
Sut mae sero net yn effeithio ar eich costau ynni
Bydd y costau yn eich bil ynni yn helpu i dalu am newidiadau hanfodol i'r system ynni wrth i ni symud i ffwrdd o danwyddau ffosil. Mae'r costau hyn yn cynnwys y canlynol:
- buddsoddi mewn ffynonellau adnewyddadwy eraill, fel ffermydd gwynt a solar
- uwchraddiadau i'r grid trydan
- cynlluniau ynni Llywodraeth y DU sydd â'r nod o helpu pobl i leihau eu hallyriadau carbon
Gallech hefyd dalu costau uwch ymlaen llaw os byddwch yn dewis technoleg werdd newydd ar gyfer eich cartref, fel pympiau gwres neu baneli solar, neu'n newid i gerbydau trydan.
Mae angen buddsoddi er mwyn creu seilwaith carbon isel diogel. Er y gall newid i ynni carbon isel gostio mwy nawr, bydd yn lleihau'r hyn rydych yn ei dalu am ynni yn y dyfodol.
Beth mae sero net yn ei olygu i'r system ynni
Pan fyddwn yn defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn yr Alban, Lloegr a Chymru, byddwn yn dibynnu llai ar danwyddau ffosil a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill.
Bydd angen uwchraddio'r system ynni i wneud y defnydd gorau o ffynonellau carbon isel a chynnwys technolegau newydd i'w cefnogi.
Ni ellir gwneud yr uwchraddiadau hyn heb godi costau byrdymor ac annog buddsoddiad yn y diwydiant ynni.
Ein rôl yn cyflawni sero net
Rydym am ddiogelu buddiannau defnyddwyr ynni nawr ac yn y dyfodol. Fel y nodir yn ein Strategaeth Amlflwyddyn, credwn mai'r ffordd orau o wneud hyn yw cyrraedd sero net. Mae Deddf Ynni 2023 (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi'r cyfrifoldebau a'r pwerau i ni helpu i wneud hyn.
Ynghyd â'n hymrwymiad sero net, mae gennym hefyd rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i gyrraedd targed Llywodraeth y DU o system ynni glân erbyn 2030. Darllenwch fwy am Bŵer Glân 2030 (GOV.UK).
Annog buddsoddiad ac arloesi
Rydym am i gwmnïau ynni weithio'n galed i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, symud, a chyflenwi ynni carbon isel i ddefnyddwyr.
Yn ein rôl fel rheoleiddiwr, rydym yn annog cwmnïau ynni i fuddsoddi eu hamser a'u harian i gyflawni hyn, drwy ein systemau rheoli prisiau rhwydwaith ynni (yn agor tudalen Saesneg) a'r trwyddedau rydym yn eu rhoi.
Mae'r trwyddedau hyn yn cynnwys cymhellion ariannol ar gyfer arloesi mewn cyflenwadau cyfanwerthu a defnyddwyr gan gynnwys gwneud y rhwydwaith yn fwy effeithiol a lleihau biliau. Rydym hefyd yn darparu cyllid pwrpasol ar gyfer prosiectau arloesi mwy drwy raglenni fel y Gronfa Arloesedd Strategol (yn agor tudalen Saesneg).
Cynlluniau ynni Llywodraeth y DU
Efallai y gallwch gael help i leihau eich allyriadau carbon.
Rydym yn gweinyddu rhai cynlluniau ynni Llywodraeth y DU sy'n cynnig cymorth ariannol i wneud gwelliannau i'ch cartref neu safle busnes, neu symud i dechnoleg fwy gwyrdd. Gall y cynlluniau hefyd eich helpu i arbed ynni ac arian ar eich biliau.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarganfod pa gynlluniau sy'n iawn i chi, gweler:
- Cynllun Uwchraddio Boeleri (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhwymedigaethau Cwmnïau Ynni (ECO) (yn agor tudalen Saesneg)
- Gostyngiad Cartrefi Cynnes (WHD) (yn agor tudalen Saesneg)
Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, efallai y gallwch gael help gan y canlynol:
- llywodraeth y DU (yn agor tudalen Saesneg) (GOV.UK)
- llywodraeth yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) (mygov.scot)
- llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU)
- eich awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg) (GOV.UK)