Cael cymorth ar effeithlonrwydd ynni ar gyfer eich cartref neu eich busnes

Dewch o hyd i gyngor, grantiau a chynlluniau er mwyn eich helpu i wneud eich cartref neu eich busnes yn fwy ynni effeithlon, ac arbed arian ar eich biliau ynni.

Gall wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref, eich busnes bach neu eich microfusnes leihau eich ôl troed carbon ac arbed arian ar eich biliau ynni.

Cael help gan eich cyflenwr ynni 

Gofynnwch i'ch cyflenwr a all eich helpu i wneud gwelliannau ynni effeithlon i'ch cartref neu eich busnes. Ynghyd â chyngor cyffredinol, gall sicrhau bod y canlynol ar gael i chi: 

  • grantiau neu gyllid arall
  • cynlluniau amgylcheddol a chymdeithasol
  • tariffau gwyrdd

Efallai y bydd angen i chi fodloni meini prawf cymhwysedd penodol i fod yn gymwys, er enghraifft, eich lleoliad, eich cyllid, maint eich busnes neu eich sector. 

Cael cymorth gan y llywodraeth

Gall eich cyngor lleol gynnig cymorth ar wneud eich cartref neu eich busnes yn fwy ynni effeithlon. Dod o hyd i wefan eich cyngor (yn agor tudalen Saesneg). 

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch gael cyngor ar effeithlonrwydd ynni cartref gan Lywodraeth y DU (yn agor tudalen Saesneg). 

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig cymorth ariannol drwy'r canlynol: 

Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch gael gwybod pa gymorth sydd ar gael drwy Home Energy Scotland (yn agor tudalen Saesneg). 

Gall busnesau bach neu ficrofusnesau gael cymorth i fod yn fwy ynni effeithlon gan y canlynol: 

Rhagor o adnoddau ar effeithlonrwydd ynni 

Gallwch gael rhagor o gyngor, offer ac adnoddau ar effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi a busnesau gan y canlynol: