Beth i’w wneud os ydych yn amau bod rhywun wedi ymyrryd â mesurydd
Dysgwch beth i'w wneud os ydych yn credu bod rhywun wedi ymyrryd â'ch mesurydd, sut i ganfod achosion o ddwyn ynni a sut i roi gwybod amdanynt.
Beth yw ymyrryd â mesurydd
Ymyrryd â mesurydd yw pan mae rhywun yn cymryd trydan neu nwy heb dalu'n llawn amdano. Mae'n digwydd pan mae rhywun yn ymyrryd â mesurydd nwy neu drydan fel ei fod yn cofnodi llai o ynni nag sy'n cael ei ddefnyddio, neu'n osgoi'r mesurydd yn llwyr. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ddwyn ynni.
Mae ymyrryd â mesurydd yn anghyfreithlon ac yn beryglus. Gall greu risg o dân, ffrwydrad neu sioc drydanol.
Os ydych yn amau bod rhywun wedi ymyrryd â mesurydd, dylech roi gwybod am hynny ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys arwyddion bod rhywun wedi ymyrryd â mesurydd mewn mannau cyhoeddus fel tafarndai, caffis neu ganolfannau cymunedol.
Rhoi gwybod am amheuon bod rhywun yn dwyn ynni
Os ydych yn meddwl bod rhywun yn dwyn ynni, mae angen i chi roi gwybod amdano. Gallwch roi gwybod yn ddienw am achosion o ddwyn ynni drwy wefan Stay Energy Safe (yn agor tudalen Saesneg) neu drwy ffonio 0800 023 2777.
Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi ymyrryd â'ch mesurydd
Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi ymyrryd â'ch mesurydd trydan neu nwy, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhywun wedi ymyrryd â'ch mesurydd os byddwch wedi symud i eiddo yn ddiweddar, neu fod rhywun wedi cael mynediad at eich mesurydd heb eich caniatâd.
Mae'r canlynol yn arwyddion cyffredin bod rhywun wedi ymyrryd â mesurydd:
- gwifrau rhydd neu amlwg
- marciau llosg, arogleuon llosgi neu arwyddion eraill o orboethi
- casin sydd wedi'i ddifrodi
- seliau diogelwch wedi'u torri neu ar goll
- arogl nwy neu bibellau sy'n edrych yn rhyfedd
Mae arwyddion eraill yn cynnwys bod darlleniad eich mesurydd ddim yn cynyddu pan fydd yn cael ei ddefnyddio, neu fod ynni ar gael o hyd pan fydd eich credyd wedi dod i ben.
Nid yw'r arwyddion hyn bob amser yn golygu bod rhywun wedi ymyrryd â mesurydd. Gallant hefyd gael eu hachosi gan ddifrod neu wall. Cysylltwch â'ch cyflenwr os ydych yn credu bod eich mesurydd wedi'i ddifrodi.
Peidiwch â cheisio atgyweirio'r mesurydd eich hun. Bydd eich cyflenwr yn anfon peiriannydd i wirio diogelwch y mesurydd.
Gwiriwch a yw eich mesurydd yn ddiffygiol ar wefan Cyngor ar Bopeth (yn agor tudalen Saesneg).
Os bydd eich cyflenwr ynni yn credu eich bod chi wedi ymyrryd â'ch mesurydd
Os bydd eich cyflenwr yn dweud bod rhywun wedi ymyrryd â'ch mesurydd ond nid chi wnaeth hynny, dywedwch hynny wrtho cyn gynted â phosibl.
Dylai eich cyflenwr ymchwilio cyn penderfynu pwy sy'n gyfrifol. Dylai ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, nid cyflwr y mesurydd yn unig.
Os bydd eich cyflenwr yn penderfynu mai chi sy'n gyfrifol a'ch bod yn anghytuno â hynny, gallwch wneud cwyn. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ymdrinnir â'ch cwyn, gallwch ei chyflwyno i'r Ombwdsmon Ynni (yn agor tudalen Saesneg).
Dysgwch fwy am sut i gwyno am eich cyflenwr ynni neu eich gweithredwr rhwydwaith.