Sut y caiff eich bil trydan neu nwy ei gyfrifo
Yn egluro'r gwahanol gostau sydd wedi'u cynnwys mewn biliau trydan neu nwy megis cyfraddau fesul uned a beth i'w wneud os bydd problem gyda'ch bil.
Tariffau ynni
Pan fyddwch yn dewis cyflenwr ynni, byddwch hefyd yn cytuno ar y pris y byddwch yn ei dalu am yr ynni rydych yn ei ddefnyddio. 'Tariff' yw'r enw ar hyn. Ceir 3 phrif fath o dariff:
- cyfradd sefydlog, lle bydd y pris rydych yn ei dalu yn cael ei osod am gyfnod o amser
- tariff amrywiadwy safonol (SVT), lle gall y pris a dalwch fynd i fyny neu i lawr yn seiliedig ar bethau fel cost prynu ynni ar y farchnad agored – caiff y math hwn o dariff ei ddiogelu gan y cap ar brisiau ynni
- tariff aml-gyfradd, er enghraifft Economy 7, lle rydych yn talu un gyfradd yn ystod cyfnod allfrig penodol, a chyfradd uwch arall yn ystod oriau brig
Costau sydd wedi'u cynnwys yn eich bil ynni
Eich tariff sy'n pennu faint byddwch yn ei dalu am bob uned o ynni rydych yn ei defnyddio, a elwir hefyd yn gyfradd fesul uned, a'r tâl sefydlog. Ffi y byddwch yn ei thalu bob dydd yw'r tâl sefydlog, hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio unrhyw ynni ar y diwrnod hwnnw.
Cyfrifir y costau hyn yn seiliedig ar:
- TAW (5%)
- costau cyfanwerthu, y gost y mae cyflenwr yn ei thalu i brynu ynni
- costau rhwydwaith i adeiladu, trwsio ac atgyweirio pibellau a gwifrau er mwyn symud ynni
- costau gweithredu, dyled a diwydiant, dyma'r costau y mae cyflenwr yn eu talu i redeg ei fusnes
- faint mae'r cyflenwr yn ei ennill cyn unrhyw log neu dreth, sy'n cael ei adnabod fel ‘enillion cyn llog a threth’, neu EBIT
- costau polisi, fel cynlluniau cymdeithasol ac amgylcheddol y llywodraeth
- y math o ynni rydych yn ei ddefnyddio, er enghraifft nwy neu drydan
- y math o fesurydd sydd wedi'i osod, fel mesurydd clyfar, mesurydd Radio Teleswitch (yn agor tudalen Saesneg) neu fesurydd rhagdalu
- sut rydych chi'n talu eich bil, er enghraifft drwy Ddebyd Uniongyrchol
Gall y costau hyn fynd i fyny neu i lawr am wahanol resymau, er enghraifft oherwydd pris prynu ynni. Bydd hyn yn effeithio ar eich bil.
Gall eich bil hefyd amrywio yn seiliedig ar sut mae eich cartref neu fusnes yn cael ei wresogi, er enghraifft os ydych yn defnyddio olew gwresogi neu os yw eich eiddo ar rwydwaith gwres (yn agor tudalen Saesneg).
Gall cyflenwyr ynni godi costau gwahanol am ynni, felly dylech chwilio am y fargen orau sy'n diwallu eich anghenion. Gofynnwch i'ch cyflenwr a allwch newid eich tariff neu symud i gyflenwr cyflenwr ynni gwahanol.
Cronni credyd ar eich bil
Efallai y byddwch yn cronni credyd ar eich bil ynni. Bydd hyn yn digwydd pan fyddwch yn talu am fwy o ynni nag yr ydych chi wedi'i ddefnyddio, er enghraifft oherwydd eich bod yn talu swm penodol drwy Ddebyd Uniongyrchol bob mis.
Fel arfer, byddwch yn cronni credyd dros fisoedd yr haf pan fyddwch yn defnyddio llai o ynni. Yna gall helpu i ostwng eich biliau yn ystod misoedd y gaeaf, pan fydd eich anghenion ynni yn cynyddu.
Gallwch gysylltu â'ch cyflenwr i hawlio'r credyd hwn yn ôl unrhyw bryd. Cyn i chi wneud hynny, dylech ystyried a fyddwch yn cael trafferth talu eich biliau nesaf hebddo.
Pan fyddwch yn newid i gyflenwr newydd, bydd eich hen gyflenwr yn ad-dalu unrhyw gredyd yn eich bil terfynol. Gallech gael iawndal os na fyddant yn gwneud hynny. Darllenwch fwy am yr hyn fydd yn digwydd pan fyddwch yn newid eich cyflenwr ynni cartref.
Os oes problem gyda'ch bil
Os oes problem gyda'ch bil ynni, dylech gysylltu â'ch cyflenwr ynni. Gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Ynni (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych chi'n fodlon ar y ffordd y mae eich cyflenwr ynni wedi delio â'ch cwyn.