Cael help gyda'ch mesurydd rhagdalu
Sut i ddefnyddio eich mesurydd, a sut i gael help os na allwch gyrraedd eich mesurydd na thalu am yr ynni sydd ei angen arnoch.
Beth yw mesurydd rhagdalu
Gallwch ddefnyddio mesurydd rhagdalu i dalu am drydan neu nwy ymlaen llaw yn hytrach nag ar ôl i chi ei ddefnyddio.
Gall hyn fod o gymorth:
- os ydych ar gyllideb dynn ac nad ydych am dalu am yr hyn rydych yn ei ddefnyddio i gyd ar unwaith
- os hoffech gael mwy o reolaeth dros yr ynni rydych yn ei ddefnyddio
- os ydych yn cael trafferth â dyledion
Gallwch siarad â'ch cyflenwr os hoffech symud i fesurydd rhagdalu. Efallai y bydd hefyd yn ei awgrymu os ydych yn cronni dyled.
Sut i ddefnyddio eich mesurydd rhagdalu
Os oes gennych fesurydd rhagdalu deallus, mae'n bosibl y gallwch ychwanegu credyd ar-lein neu drwy ddefnyddio ap symudol eich cyflenwr.
Os nad oes gennych fesurydd rhagdalu deallus, bydd angen i chi brynu credyd cyn y gallwch ddefnyddio unrhyw nwy neu drydan.
Gallwch wneud hyn mewn siop leol sy'n cynnig PayPoint neu Swyddfa'r Post gan ddefnyddio'r canlynol:
- allwedd neu gerdyn eich mesurydd
- cod bar eich mesurydd (ar gyfer mesuryddion rhagdalu deallus)
Ar ôl i'ch credyd ddod i ben, ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw ynni nes i chi ychwanegu mwy o gredyd eto.
Cael help os na allwch dalu am yr ynni sydd ei angen arnoch
Siaradwch â'ch cyflenwr os na allwch fforddio ychwanegu credyd at eich mesurydd. Rhaid iddo gynnig eich helpu, er enghraifft drwy roi credyd ychwanegol i chi os ydych mewn sefyllfa fregus neu wrth i chi drefnu ffyrdd o dalu.
Dysgwch fwy am y cymorth y gallwch ei gael gan eich cyflenwr ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Bydd angen i chi ad-dalu unrhyw gredyda gewch y tro nesaf y byddwch yn ychwanegu credyd. Bydd yn rhaid i'ch cyflenwr gydweithio â chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio.
Gweler ein tudalen cael help gyda biliau ynni eich cartref neu eich busnes i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth neu elusennau.
Cael help os na allwch gyrraedd eich mesurydd
Os na allwch gyrraedd eich mesurydd yn hawdd i ychwanegu credyd ato, gofynnwch i'ch cyflenwr ei symud. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi. Mae'n anghyfreithlon ei symud eich hun.
Darllenwch ganllawiau Cyngor ar Bopeth ar sut i symud eich mesurydd nwy neu drydan.
Os na ellir symud eich mesurydd, rhaid i'ch cyflenwr osod math gwahanol o fesurydd yn ei le.
Beth i'w wneud os yw eich cyflenwr yn dymuno gosod mesurydd rhagdalu heb eich caniatâd
Gall cyflenwyr eich symud i fesurydd rhagdalu heb eich caniatâd os ydych yn cronni dyled ac nad ydych wedi ymateb pan fyddant wedi ceisio eich helpu.
Dysgwch am y gwiriadau y dylent eu cwblhau yn gyntaf, a'r rheolau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn.