Newid eich cyflenwr ynni cartref

Sut i newid cyflenwr ynni, ble i gael help, iawndal am broblemau wrth newid cyflenwr, a beth i'w wneud os bydd eich cyflenwr yn mynd i'r wal.

Pam newid cyflenwr neu dariff ynni

Os byddwch yn talu cyflenwr yn uniongyrchol am y trydan neu'r nwy rydych yn eu defnyddio gartref, gallwch ddewis newid i gyflenwr neu dariff gwahanol ar unrhyw adeg. Gallech newid am y rhesymau canlynol: 

  • arbed arian
  • symud i gartref newydd
  • problemau â'ch cyflenwr neu chwilio am wasanaeth gwell
  • eich cyflenwr wedi mynd i'r wal
  • pryderon moesegol neu amgylcheddol

Os ydych ar rwydwaith gwres, ni allwch newid eich cyflenwr. Y rheswm dros hyn yw oherwydd bod y cyflenwr yn rheoli'r cyfarpar gwres i bawb yn yr adeilad.

Os ydych yn rhedeg busnes o gartref, efallai bod gennych fath gwahanol o gontract ynni. Holwch eich cyflenwr a darllenwch sut i gael ynni ar gyfer eich busnes

Cael cymorth i ddod o hyd i dariffau ynni a'u cymharu

Dylech gymharu tariffau ynni i ddod o hyd i'r un sy'n gywir i chi. Mae'n bosibl mai'r opsiwn gorau yw eich cyflenwr presennol. 

Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn uniongyrchol gan gyflenwr, neu drwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau ynni.  

Os ydych yn newid o ganlyniad i wasanaeth cwsmeriaid gwael, mae Cyngor ar Bopeth yn cymharu'r cyflenwyr ynni mwyaf yn seiliedig ar bethau fel y cwynion a dderbynnir ac amseroedd aros wrth gysylltu. 

Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth i weld y sgorau llawn ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid cyflenwyr ynni (yn agor tudalen Saesneg). 

Sut i newid eich cyflenwr ynni

Pan fyddwch wedi dewis cyflenwr newydd, bydd angen i chi gysylltu ag ef a rhoi gwybodaeth o'ch bil ynni iddo. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arno: 

  • eich cod post
  • enw eich cyflenwr presennol
  • enw'r tariff presennol
  • y swm rydych yn ei dalu am eich ynni fesul uned mewn oriau cilowat (kWh)
  • faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio bob blwyddyn

Bydd eich cyflenwr newydd yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd y mae'n bwriadu trosglwyddo eich cyflenwad ynni.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ‘ffi gadael’ i'ch cyflenwr blaenorol os oeddech ar dariff cyfradd sefydlog ac yn dewis gadael cyn iddo ddod i ben.

Os byddwch yn newid eich meddwl, mae gennych 14 diwrnod i ganslo eich newid. 

Symud i gartref newydd

Gallwch ddewis tariff newydd neu gyflenwr newydd ar ôl i chi symud i mewn.

Symud i eiddo rhent newydd

Edrychwch ar eich cytundeb rhentu neu gofynnwch i'ch landlord er mwyn cael gwybod pwy yw eich cyflenwr, a phwy sy'n talu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo. 

Os bydd yn rhaid i chi dalu eich biliau ynni, gallwch ddewis newid eich cyflenwr neu eich tariff ar unrhyw adeg. 

Os mai eich landlord sy'n talu, dylai wneud y canlynol: 

  • cynnwys cost yr ynni y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich rhent
  • delio â'r cyflenwr ynni yn uniongyrchol
  • talu am y cyflenwad ynni i'r eiddo rhwng tenantiaethau

Gwiriwch Canllawiau Cyngor ar Bopeth ar broblemau gyda rhentu a biliau ynni (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn newid eich cyflenwr, dylech gadarnhau'r canlynol:

  • a yw eich cytundeb rhentu yn cynnwys rhestr o gyflenwyr y gallwch ddewis ohonynt, a elwir yn ‘gymal cyflenwr diofyn’
  • a ellir newid y rhestr o gyflenwyr yn eich cytundeb rhentu
  • a oes angen i chi roi gwybod i'ch asiant gosod neu'ch landlord eich bod am newid cyflenwr
  • a yw eich cytundeb rhentu yn cynnwys cymal hysbysu a dychwelyd, sy'n golygu y bydd angen i chi newid y cyflenwad ynni yn ei ôl pan ddaw eich tenantiaeth i ben

Os bydd arnoch arian i'ch cyflenwr

Gallwch newid cyflenwr o hyd os:

  • oes arnoch arian i'ch cyflenwr blaenorol a'ch bod wedi bod mewn dyled iddo am lai na 28 diwrnod - dylid ychwanegu unrhyw arian sy'n ddyledus gennych at eich bil terfynol
  • oes gennych fesurydd rhagdalu ac mae arnoch lai na £500 fesul tanwydd i'ch cyflenwr

Ni allwch newid os byddwch wedi bod mewn dyled i'ch cyflenwr am fwy na 28 diwrnod. Bydd angen i chi ad-dalu'r ddyled yn gyntaf cyn symud i gyflenwr neu dariff newydd.

Problemau wrth newid cyflenwr ynni

Rhaid i gyflenwyr newid eich cyflenwad trydan neu nwy o'ch hen gyflenwr i'ch cyflenwr newydd o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na fyddant yn gwneud hynny, rhaid i'ch cyflenwr newydd dalu £40 i chi. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig naill ai i'ch cyfrif ynni neu'ch cyfrif banc. 

Os bydd eich cyflenwr wedi cael ei newid heb ganiatâd

Os bydd eich cyflenwr wedi cael ei newid heb ganiatâd, cysylltwch â'ch hen gyflenwr i roi gwybod iddo. Rhaid iddo eich newid yn ôl o fewn 21 diwrnod gwaith. 

Rhaid i'r cyflenwr y cawsoch eich newid iddo dalu £40 i chi am y camgymeriad. Bydd yn eich talu drwy siec neu daliad i'ch cyfrif banc o fewn 10 diwrnod gwaith i'r dyddiad y cytunodd fod camgymeriad wedi'i wneud.   

Oedi wrth ddatrys camgymeriadau newid

Mae'n rhaid i gyflenwyr dalu unrhyw iawndal y mae gennych hawl iddo o fewn 10 diwrnod gwaith.  

Os na fyddant yn gwneud hyn, bydd yn rhaid iddynt dalu £40 ychwanegol i chi fel rhan o'n ‘Safon Perfformiad Gwarantedig y Cyflenwr’.  

Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod cyflenwyr yn gwneud iawn am bethau a'ch bod chi'n cael eich talu am broblem a oedd yn fai arnyn nhw. 

Gallwch hefyd gael iawndal ychwanegol o £40 os bydd y canlynol yn gymwys i chi: 

  • mae'r cyflenwr yn cymryd mwy na 20 diwrnod gwaith i ymateb i chi ar ôl i chi ddweud wrtho am y camgymeriad newid
  • mae eich hen gyflenwr a'ch cyflenwr newydd yn cymryd mwy na 20 diwrnod gwaith i gytuno p'un a oedd y newid yn gywir ai peidio - bydd y ddau gyflenwr yn talu £40 i chi os bydd hyn yn digwydd
  • mae eich hen gyflenwr yn cymryd mwy na 21 diwrnod gwaith i ailgofrestru eich cyflenwad unwaith y bydd yn gwybod am y camgymeriad

Beth i'w wneud os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal 

Nid oes angen i chi wneud dim os bydd eich cyflenwr presennol yn mynd i'r wal. Byddwn yn eich symud i gyflenwr newydd yn awtomatig, ac yn gwneud yn siŵr na fydd hynny yn tarfu ar eich cyflenwad ynni.  

Pan fyddwn wedi eich symud i gyflenwr newydd, byddwch yn gallu newid i gyflenwr neu dariff o'ch dewis yn ôl yr arfer. 

Os ydych eisoes yn y broses o newid, ni fydd hyn yn effeithio ar hynny. 

Dysgwch fwy am Beth fydd yn digwydd os bydd eich cyflenwr ynni yn mynd i'r wal